Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Mae'r pwnciau y Gymraeg a Ddaearyddiaeth yn Brifysgol Aberystwyth yn mwyaf blaenllaw a phrofiadol o’i bath. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i chi astudio daearyddiaeth a Cymraeg yn un o’r lleoliadau prydferthaf yn Ewrop. Mae’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear wedi’i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi’i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o dirweddau hardd, yn cynnwys y môr, gweundiroedd, mynyddoedd a glaswelltiroedd; mae hi mewn lle unigryw i wneud y gorau o’r tirweddau gwych sy’n ei hamgylchynu, ac yn cynnig amrywiaeth arbennig o gyfleoedd gwaith maes a hamdden i chi. Mae’n gartref i gymuned frwdfrydig o fyfyrwyr ac ymchwilwyr sy’n rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth a’i lle yn y byd cyfoes a rhyngwladol. Mae’r staff sy’n dysgu ar y cwrs yn arbenigwyr mewn meysydd amrywiol, ac o ganlyniad byddi’n gallu dewis o blith amrywiaeth eang o bynciau sy’n dy ddiddori. Bydd y radd hon yn eich arfogi â’r sgiliau, y galluoedd a’r arbenigedd i wynebu ac ymgysylltu â’r heriau sy’n wynebu’r gymdeithas sydd ohoni.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
94% boddhad cyffredinol myfyrwyr i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd (ACF 2020).
100% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 7% yn uwch na graddedigion Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn genedlaethol. (HESA 2018*)
92% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddor Daear (ACF 2020).
97% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Ffisegol yn genedlaethol (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Cymraeg a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Gan ein bod yn gymuned Ddaearyddiaeth fawr a deinamig, gallwn gynnig amrywiaeth eang iawn i chi o arbenigedd, cyfleoedd a chyfleusterau daearyddol;
Prosesau dalgylch afon
Rhewlifeg
Biodaearyddiaeth
Newid Amgylcheddol Cwaternaidd
Tueddiadau cyfoes mewn Daearberyglon
Cynaliadwyedd Trefol
Datblygu Rhanbarthol
Daearyddiaeth Wleidyddol a Diwylliannol
Cyfleoedd am waith maes yn Seland Newydd, Creta, Efrog Newydd, Ffrainc, Iwerddon, Gwlad yr Iâ, Mynydd Etna, Ecuador a Pheriw, ymhlith eraill
Gwobrau teithio ar gael bob blwyddyn i ariannu eich anturiaethau (hyd at £400)
Cyfleusterau addysgu o’r radd flaenaf a’r dechnoleg ddiweddaraf i gyfoethogi dysgu
Labordai llawn cyfarpar yn cynnwys amrywiaeth o offerynnau dadansoddi e.e. sbectromedrau a sganwyr craidd sy’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer gwaith maes ac astudio yn annibynnol.
Mae amrywiaeth hynod ddiddorol o cyrsiau unigol ar gael yn yr Adran, sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr: hanes ein llên a llenyddiaeth gyfoes, theori lenyddol, llenyddiaeth plant, llên gwerin, astudiaethau menywod ac astudiaethau rhywedd, ysgrifennu creadigol a sgriptio, cyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, yr iaith mewn cyd-destunau proffesiynol, cyfieithu ac addasu, y Gymraeg a'r cyfryngau, cymdeithaseg yr iaith Gymraeg.
Iaith Gyntaf ac Ail Iaith – mae’r cynllun gradd hwn yn cynnwys llwybrau Ail Iaith ac Iaith Gyntaf. Mae’r manylion ar gael yn llawn ar y dudalen Dysgu ac Addysgu.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Yn ogystal â’r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae’r Adran ar stepen drwys y Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Bywyd Cymdetihas Cymraeg Byrlymus – Yn Aberystwyth gallwch fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau’r eflen gymdeithasol sydd i’r gymuned Gymraeg yma. Ymaelodwch ag UMCA, dewch i fyw yn neuadd Pantycelyn-Penbryn, ewch ar deithiau rygbi’r Geltaidd, ymunwch â chôr Pantycelyn, ac ewch i nosweithiau megis Gwobrau’r Selar.
Ein Staff
Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.
Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o’r holl gyrsiau a gynigiwn. Mae ein graddau yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy’n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn gallu addasu a galw ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan sicrhau bod galw amdanynt drwy’r amser.
Ymhlith y setiau sgiliau y mae:
Gwell sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol
Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
Sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn
Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm
Sgiliau rheoli amser a threfnu Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar
Hunangymhelliant a hunanddibyniaeth
Beth gallaf ei wneud â gradd Cymraeg a Daearyddiaeth?
Mae ein graddedigion wedi cael swyddi fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym myd addysg, ymhlith swyddi eraill.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddwch yn astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Cyfleoedd Rhyngwladol
Yn ogystal â phrofiad o fyd gwaith, mae teithio’n annibynnol hefyd yn cael ei gydnabod fel elfen allweddol o ddatblygiad myfyrwyr. I gefnogi hynny, rydym yn cynnig bwrsariaethau i helpu gyda theithiau israddedigion. Ymhlith y lleoliadau diweddar roedd Uganda, Madagascar, Periw, Mynydd Etna a’r Unol Daleithiau.
Mae’r Adran hefyd wedi sefydlu Rhaglenni Cyfnewid Erasmus gyda Phrifysgol Bergen, Prifysgol Oulu, y Ffindir, a Chanolfan y Brifysgol yn Svalbard, gan roi’r cyfle unigryw i fyfyrwyr astudio yn un o amgylcheddau mwyaf eithafol y byd. Mae gennym hefyd gysylltiadau cryf â nifer o brifysgolion yng Ngogledd America, lle gall y myfyrwyr gwblhau ail flwyddyn eu hastudiaethau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein Cydlynydd Cyfnewid wedi goruchwylio lleoliadau ym Mhrifysgol Purdue (Indiana), Prifysgol Alabama, Prifysgol Georgia, Prifysgol Montana a Phrifysgol Ottawa yng Nghanada.
Dysgu ac Addysgu
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn eich blwyddyn gyntaf, fe’ch cyflwynir i:
Gysyniadau allweddol mewn astudiaethau daearyddol
Pa agwedd ar y Gymraeg sydd o ddiddordeb mwyaf i chi. Byddwch chi'n dysgu am amrywiaeth o gyfnodau llenyddol ac agweddau eraill ar y pwnc fel y gallwch ddylunio eich cyfuniad unigryw chi o fodiwlau yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.
Problemau a thechnegau wrth gasglu, dadansoddi a chyflwyno data daearyddol
Newid hinsawdd
Prosesau’r tirwedd
Datblygiad economaidd
Globaleiddio
Yn eich ail flwyddyn byddwch yn datblygu ymhellach yn y meysydd canlynol:
Eich maes
Modiwlau iaith eraill er mwyn datblygu eich hyder ymhellach a byddwch chi hefyd yn gallu dewis o blith yr amrywiaeth eang o fodiwlau sydd ar gael gan yr Adran.
Sgiliau labordy ac ymchwilio ar gyfrifiadur wrth baratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil annibynnol
Byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi setiau data meintiol
Cynhyrchu mapiau a graffiau eraill i gynrychioli data daearyddol.
Cymryd rhan mewn taith faes breswyl yn y DU neu dramor.
Cewch hefyd ddewis modiwlau dewisol ar gyfer arbenigo neu gynnal diddordeb eang ar draws Daearyddiaeth
Yn eich trydedd flwyddyn:
Byddwch yn gwneud prosiect ymchwil annibynnol fydd yn golygu casglu, dadansoddi a dehongli eich data eich hun.
Bydd modiwlau dewisol amrywiol yn cynnwys rhewlifeg, hydroleg, peryglon folcanig, newid hinsawdd y gorffennol, trefoli, a newid yng nghefn gwlad, yn eich galluogi i deilwra eich astudiaethau i gyd-fynd â’ch diddordebau chi.
Sut byddaf yn cael fy nysgu?
Caiff ein cyrsiau eu dysgu trwy gyfrwng darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau ymarferol mewn labordai neu ar gyfrifiaduron, dosbarthiadau tiwtorial i grwpiau bychain, cyrsiau maes a goruchwylio gwaith prosiect unigolion.
Sut byddaf yn cael f’asesu?
Byddwn yn asesu ein myfyrwyr trwy ystod amrywiol o ddulliau. Caiff ambell fodiwl ei asesu’n rhannol drwy arholiadau traddodiadol, ond bydd gan eraill elfennau o waith cwrs. Mae gennym hefyd fodiwlau all ofyn i’r myfyrwyr lunio adroddiadau ymarferol, cyflwyniadau llafar, cynllunio tudalennau gwe, cynhyrchu ffilmiau byrion, neu gyfrannu at fforymau trafod ar lein. Bydd rhai modiwlau, sef y tiwtorialau a’r cyrsiau maes yn benodol, yn cael eu hasesu’n llwyr trwy waith cwrs.