BA

Cymraeg / Hanes Cymru

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2022

Wrth ddewis astudio’r radd BA Cymraeg / Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth byddwch yn rhannu eich amser rhwng dwy adran uchel iawn eu bri.

Wrth ddilyn elfen Gymraeg y radd hon, cyflwynir cyrsiau deniadol, diddorol a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg. Yn ystod eich cyfnod yn fyfyriwr yn yr adran Gymraeg hwn byddwch yn cael dewis o amrywiaeth helaeth o fodiwlau sy’n rhychwantu ystod eang o ddiddordebau ac yn dod yn rhan naturiol o’r bwrlwm sy’n gysylltiedig â’r Adran. Cewch eich dysgu gan arbenigwyr sydd yn arloesi yn eu maes a byddwch yn dilyn cwrs cyffrous a heriol.

Wrth ddilyn elfen hanes y radd hon, cewch gyfle i astudio amrywiaeth o gyfnodau hanesyddol a datblygu eich diddordebau hanesyddol, gan ehangu a dyfnhau eich wybodaeth a'ch dealltwriaeth o’r pwnc. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn chwilfrydig am y gorffennol ac am y ffordd y mae cymdeithas ddynol wedi esblygu dros amser. Yn ogystal â bod yn ddiddorol ynddo’i hun, mae astudio elfen o hanes yn cynnig gweledigaeth a all ein helpu i ddeall digwyddiadau’r byd sydd ohoni. Bydd y radd hon yn eich galluogi i roi’r gorffennol mewn persbectif gan feithrin sgiliau dadansoddol, dehongli a chyfathrebu, sydd mor bwysig mewn bywyd bob dydd. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam Astudio Cymraeg / Hanes Cymru yn Aberystwyth? 

  • Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn arwain y sector mewn meysydd fel ysgrifennu creadigol, y Gymraeg yn y gweithle proffesiynol ac astudiaethau cyfieithu.
  • Mae Hanes wedi’i ddysgu yn Aberystwyth ers 1872, sy’n golygu mai hi yw'r adran hynaf yng Nghymru ac un o’r blaenaf ym Mhrydain.
  • Mae ein graddau’n defnyddio dulliau dysgu arloesol sy’n sicrhau y cewch y cymhwyster gorau.
  • Rydyn ni'n derbyn sgôr uchel yn yr Arolwg Blynyddol o Fyfyrwyr (NSS) yn gyson.
  • Yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ceir amrywiaeth hynod ddiddorol o gyrsiau unigol sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr, er enghraifft: astudiaethau menywod ac astudiaethau rhywedd, cyfieithu ac addasu, cymdeithaseg yr iaith Gymraeg. yr iaith mewn cyd-destunau proffesiynol, ac ysgrifennu creadigol a sgriptio. Ceir hefyd lwybr iaith gyntaf ac ail iaith ar elfen Gymraeg y cwrs.
  • Yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru, mae ein harbenigeddau pwnc yn eich galluogi i ddilyn eich diddordebau hanesyddol, o'r cyfnod canoloesol hyd heddiw, gan amrywio ar draws pedwar cyfandir, ac ymdrin â hanes gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol. Wrth astudio prif ffynonellau a gweithio'n agos gyda'n datlithwyr, byddwch yn gwneud cyfraniad i'n cymdeithas ymchwil, ac yn ogystal â dysgu am y gorffennol, byddwch yn ymroi'n frwd i'r broses o adeiladu dealltwriaeth newydd o hanes.
  • Cewch ddigon o gyfleoedd i gael profiad ymarerol ac uniongyrchol ac i ddefnyddio'r adnoddau o safon ryngwladol sydd ar gael yn Aberystwyth. Mae'r rhain yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru - un o bum Llyfrgell Hawlfraint y Deyrnas Unedig ac ystorfa archifau fwyaf blaenllaw Cymru.
  • Ceir hefyd gyfleoedd cyfnewid cyffrous. Ewch ati i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cyfleoedd hyn ar ein gwefan.
Ein Staff

Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Modiwlau Dechrau Medi - 2022

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Gloywi Iaith CY20120 20
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar CY21420 20
Cymraeg y Gweithle Proffesiynol CY20520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Llunio Hanes HA20120 20
An Age of Empire: Britain and Ireland, 1850-1914 HY26920 20
Between Revolution and Reform: China since 1800 HY28520 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH23420 20
Cymdeithas Cymru Fodern 1868-1950 HC24420 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC20120 20
Cymru a'r Tuduriaid HC23520 20
Diwylliant, Cymdeithas a’r Fictoriaid HA29320 20
European Society and the Medieval Mind 1200-1500 HY25820 20
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948 HY29220 20
Globalising Post-War Germany(s) 1945-2015 HY29520 20
Knighthood and Chivalry in high medieval England, 1066-1300 HY20420 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY27520 20
Modern American History HY28320 20
Modern Japan: From Samurai to Salary Men HY29820 20
Modern Welsh Society, 1868-1950 WH24420 20
Rhyfel Cartref America HA26820 20
Science, Religion and Magic HY28620 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA24520 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA28120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY29720 20
The British Isles in the Long Eighteenth Century HY22020 20
The European Reformation HY26520 20
The Great Divergence: Europe and Asia, c.1300-c.1800 HY26320 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY25720 20
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945 HY29420 20
The Rise of Modern Medicine, c.1750-2000 HY27320 20
The Tudors: A European Dynasty? HY20920 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH20120 20
Wales under the Tudors WH23520 20
Y Rhyfel Mawr trwy Lygaid y Cymry HC22320 20
American History skills module HY25020 20
Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500 CY20720 20
Dread and Despair? Living with Disability in the Middle Ages HY23320 20
Exploring Nineteenth-Century Exhibitions HY24620 20
From Babylon Berlin to Hollywood: movies as sources for cultural history HY24920 20
Gwrando ar Hanes: Y mudiad Hawliau Sifil yn America HA24720 20
History as myth-Making: the 'Myth of the Blitz' HY23420 20
Image Wars in Southeast Asia: Studying 20th Century Propaganda HY23720 20
Memory, Myth and History: Investigating Medieval Chronicles, c. 1000-1250 HY24120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Gloywi Iaith yr Ail Iaith CY31120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An Age of Empire: Britain and Ireland, 1850-1914 HY36920 20
Between Revolution and Reform: China since 1800 HY38520 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH33420 20
Culture, Society and the Victorians HY39320 20
Cymdeithas Cymru Fodern 1868-1950 HC34420 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC30120 20
Cymru a'r Tuduriaid HC33520 20
Diwylliant, Cymdeithas a’r Fictoriaid HA39320 20
European Society and the Medieval Mind 1200-1500 HY35820 20
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948 HY39220 20
Globalising Post-War Germany(s) 1945-2015 HY39520 20
Knighthood and Chivalry in high medieval England, 1066-1300 HY30420 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY37520 20
Modern American History HY38820 20
Modern Japan: From Samurai to Salary Men HY39820 20
Modern Welsh Society, 1868-1950 WH34420 20
Rhyfel Cartref America HA36820 20
Science, Religion and Magic HY38620 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA34520 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA38120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY39720 20
The British Isles in the Long Eighteenth Century HY30120 20
The European Reformation HY36520 20
The Great Divergence: Europe and Asia, c.1300-c.1800 HY36320 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY35720 20
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945 HY39420 20
The Rise of Modern Medicine, c.1750-2000 HY37320 20
The Tudors: A European Dynasty? HY30920 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH30120 20
Wales under the Tudors WH33520 20
Y Rhyfel Mawr trwy Lygaid y Cymry HC32320 20

Gyrfaoedd

Beth allaf i ei wneud gyda gradd mewn Cymraeg / Hanes Cymru?

Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau proffesiwn mewn llawer o feysydd gwahanol:

  • addysg
  • y Gyfraith
  • archifo
  • cyhoeddi
  • gwleidyddiaeth
  • y Gwasanaeth Sifil
  • y Cyfryngau
  • y Lluoedd Arfog
  • entrepreneuriaeth.

Fel adran, rydym ni’n falch iawn o’n cyn-fyfyrwyr nodedig ac uchel eu parch:

  • Dr Tîm Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw;
  • Guto Bebb, Aelod Seneddol;
  • Dr Joanne Cayford, y BBC;
  • Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel;
  • Iwan Griffiths, Gohebydd chwaraeon S4C.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddwch yn astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Lleoliadau myfyrwyr yn y sector treftadaeth

Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf gyda’r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (gan gynnwys cyfleoedd cyfrwng Cymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas yr Hynafiaethwyr yn Llundain. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnig cyfle i gael profiad ymarferol a dealltwriaeth o’r sector treftadaeth, ac yn werthfawr iawn ar unrhyw CV!

Trydar gan fyfyrwyr ar leoliad yn 2014 gyda Chymdeithas yr Hynafiaethwyr:

‘Wedi gweld tri chopi o’r Magna Carta ar unwaith heddiw!’ ‘Clod i Brifysgol Aber am fy helpu i gael y lleoliad – methu aros tan fory’

Cyfleoedd rhyngwladol: Erasmus a’r rhaglen Astudio Dramor

  • Mae cael amrywiaeth o brofiadau’n bwysig ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, ac mae cynlluniau Erasmus neu Astudio Dramor yn cynnig cyfleoedd rhagorol. Mae Hanes a Hanes Cymru wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid Erasmus gyda phrifysgolion yn yr Almaen, Prâg, Budapest a Norwy. Mae gan yr Adran gysylltiadau gyda nifer o golegau yn America hefyd. https://www.aber.ac.uk/en/international/study-abroad/

Mentora gan gyn-fyfyrwyr a sgyrsiau graddedigion:

  • Bydd y Cynllun Mentora gan Gyn-fyfyrwyr yn eich galluogi i gysylltu â graddedigion o’r gorffennol mewn amrywiaeth o yrfaoedd mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae Hanes a Hanes Cymru hefyd yn trefnu sgyrsiau gan gyn-fyfyrwyr ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd. Ymhlith y sgyrsiau diweddar mae ‘O’r brifysgol i yrfa ym maes treftadaeth ddiwylliannol: y camau cyntaf’ a gyflwynwyd gan gyn-fyfyriwr a raddiodd yn ddiweddar sydd bellach wedi sicrhau lle ar gynllun hyfforddi uchel ei fri yn Oriel y Tate.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Beth fyddaf i’n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf fe allech ddarganfod:

Cymraeg

  • iaith gyntaf - amrywiaeth o gyfnodau llenyddol ac agweddau eraill ar y pwnc fel y gallwch ddylunio eich cyfuniad unigryw chi o fodiwlau yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.
  • ail iaith - modiwlau sy'n rhoi cyfle ichi fagu hyder a gwella eich sgiliau iaith, gan gynnwys Cymraeg ysgrifenedig, trafod y byd cyfoes, gloywi iaith, llenyddiaeth Gymraeg, cyfoes a hanesyddol

Hanes

  • cysyniadau newydd a sgiliau hanesyddol
  • dulliau a chyfnodau hanesyddol newydd
  • hanes Cymru o 1250-1800
  • Y Rhyfel Byd Cyntaf a Phrydain
  • Moderniaeth a chreu Asia.

Cewch hefyd ddewis o blith casgliad o fodiwlau eraill sy’n adlewyrchu ystod gronolegol a thematig eang.

Yn ystod eich ail flwyddyn byddwch yn astudio;

Cymraeg

  • modiwlau iaith eraill a hefyd yn gallu dewis o blith yr amrywiaeth eang o fodiwlau sydd ar gael gan yr Adran

Hanes

  • dulliau hanesyddol sy’n edrych ar y ffordd y mae ystyr, dulliau ac ysgrifennu hanes wedi newid dros amser; hanes Ewrop; yr Almaen a Natsïaeth; Prydain ac Iwerddon 1850-1914; crefft yr hanesydd ac eraill.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn gallech astudio:

  • pwnc arbennig sy’n eich galluogi i gynnal ymchwil dwys, gan ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol
  • rhywedd mewn Hanes
  • cymdeithas Prydain a’r chwyldro Ffrengig
  • Stalin a Rwsia.

Sut fyddaf i’n cael fy addysgu a fy asesu?

Fe'ch addysgir trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored. Bydd eich gwaith yn cael ei asesu ar ffurf traethodau, arholiadau, asesu cyson, ymarferion penodol, gwaith ymchwil a datblygu syniadau, rhoi cyflwyniadau, a gweithio'n rhan o dîm, ymhlith eraill.

Tiwtor Personol

Bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ichi am gyfnod cyfan eich cwrs gradd. Bydd y tiwtor yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso ichi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os byddwch angen cymorth.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Des i yma ar ddiwrnod agored a syrthiais mewn cariad â’r lle a’i awyrgylch, felly penderfynais ddod yma i astudio. Cefais ysgoloriaeth i ddod yma, a oedd hefyd yn help mawr.

Roedd yn hawdd i mi setlo i mewn yma. Gan ei bod hi’n dre mor fach mae popeth yn agos at ei gilydd ac mae’n llawn myfyrwyr. Mae yma awyrgylch cartrefol, a dyw hi ddim yn cymryd llawer o amser i chi wneud ffrindiau.

Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn wych. Mae’n hawdd cyfathrebu â staff yr adran ac maent wastad yna i chi os oes gennych unrhyw broblemau.

Gan fy mod yn astudio Hanes Cymru mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn ddefnyddiol iawn - mae pob un llyfr ar gael gan ei bod yn llyfrgell hawlfraint.

Dwi’n aelod o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth. Mae yna ddigon o gymdeithasau yma, mae’n wych. Wrth fod yn aelod o’r cymdeithasau rydych yn cymysgu â myfyrwyr eraill.

Yr hyn dwi’n ei hoffi fwyaf am Aber ydy’r bywyd cymdeithasol, awyrgylch cynnes y dre, a’r ffaith fod popeth yn agos at ei gilydd. Yr unig beth dwi ddim yn ei hoffi yw’r allt!

Byddwn yn sicr yn argymell i eraill astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dyma’r profiad gorau gewch chi! Ceri Phillips

Roeddwn yn hapus iawn i dderbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae pob ceiniog o gymorth i mi wrth i mi ddechrau ar fy ngradd yn Aberystwyth. Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac wedi dilyn fy holl bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol, dewis naturiol oedd gwneud hynny hefyd yn y brifysgol. Enw da’r Adran Hanes a Hanes Cymru a’r gymdeithas Gymraeg yma yn Aberystwyth wnaeth fy nenu yma. Heledd Eleri Evans

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC to include B in Welsh 1st or 2nd Language

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, plus B in A level Welsh 1st or 2nd Language

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, plus B in A level Welsh 1st or 2nd Language

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall, plus B in A level Welsh 1st or 2nd Language

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|