BA

Cymraeg / Mathemateg

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Os yw ymchwilio i drysorau’r byd Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, a dadansoddi siapiau a phatrymau, casglu data a chyfrifo yn apelio i chi, byddwch chi wrth eich bodd ar y cwrs BA Cymraeg / Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd astudio Cymraeg a Mathemateg law yn llaw yn eich ysbrydoli i weld y naill ddisgyblaeth drwy lygad y llall. Lle well i wneud hynny nag yn y brifysgol ger y lli, lle cewch weld cerddi, rhythmau a siapiau o bob math yn y golygfeydd godidog o'ch cwmpas.

Trosolwg o'r Cwrs

O ddewis astudio Cymraeg a Mathemateg byddwch yn perthyn i ddwy adran sydd wedi’u hen sefydlu, a chanddynt dros gan mlynedd o brofiad o ymchwilio a dysgu. Ochr yn ochr â’r traddodiad hwn, ceir addysgu dynamig sy’n procio’r meddwl yn y ddwy adran. 

Aberystwyth oedd y Brifysgol gyntaf i ddysgu Mathemateg yng Nghymru ac ers hynny bu’n darparu addysg o'r ansawdd orau mewn amgylchedd sy'n gyfeillgar a chefnogol gyda’r nod o droi Mathemateg ac Ystadegau yn gymwysiadau ymarferol. Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth yw’r hynaf o’i bath yn y byd. Mae wedi bod yn addysgu ac yn ysbrydoli cenedlaethau o fyfyrwyr ers y cychwyn cyntaf. Mae’r Adran yn arwain y sector mewn meysydd fel ysgrifennu creadigol, y Gymraeg yn y gweithle proffesiynol ac astudiaethau cyfieithu. 

 Ar fodiwlau Cymraeg y radd hon, cyflwynir pynciau deniadol, diddorol a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg, ac mae’r cynllun gradd hwn yn cynnwys llwybrau Ail Iaith ac Iaith Gyntaf. Bydd modiwlau Mathemateg y radd yn datgelu disgyblaeth ddiddorol a heriol sy’n amlygu sut mae mathemateg yn hanfodol bwysig i gymdeithas fodern ac yn cyfrannu at nifer o agweddau ar fywyd, gan gynnwys gwyddoniaeth, peirianneg, technoleg a chyllid. Cewch eich cyflwyno i ddisgyblaethau craidd hanfodol y pwnc, wedi'u hategu gan gasgliad gwych o fodiwlau dewisol.

Ein Staff

Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algebra MT10510 10
Calcwlws MT10610 10
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Dadansoddi Mathemategol MT11110 10
Beirdd a Llenorion o 1900 hyd heddiw CY11220 20
Llenyddiaeth Gymraeg: cyfoes a hanesyddol CY11520 20
Sgiliau Astudio Iaith a Llên CY13120 20
Themau a Ffigurau Llen c.550-1900 CY11120 20
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar CY11420 20
Trafod y Byd Cyfoes twy'r Gymraeg CY10920 20
Ysgrifennu Cymraeg Graenus CY11720 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Coordinate and Vector Geometry MA10110 10
Differential Equations MA11210 10
Geometreg Gyfesurynnol a Fectoraidd MT10110 10
Hafaliadau Differol MT11210 10
Probability MA10310 10
Statistics MA11310 10
Tebygoleg MT10310 10
Ystadegaeth MT11310 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dadansoddiad Cymhlyg MT21510 10
Algebra Llinol MT21410 10
Gloywi Iaith CY20120 20
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar CY21420 20
Cymraeg y Gweithle Proffesiynol CY20520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Dynamics MA25710 10
Applied Statistics MA26620 20
Cyflwyniad i Ddadansoddiad Rhifiadol a'i Gymwysiadau MT25220 20
Dadansoddiad Real MT20110 10
Distributions and Estimation MA26010 10
Hydrodynameg 1 MT25610 10
Hydrodynamics 1 MA25610 10
Introduction to Abstract Algebra MA20310 10
Introduction to Numerical Analysis and its applications MA25220 20
Real Analysis MA20110 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Gloywi Iaith yr Ail Iaith CY31120 20

Gyrfaoedd

Beth gallaf ei wneud â gradd mewn Cymraeg / Mathemateg? 

Mae graddedigion y Gymraeg yn mynd ymlaen i swyddi ardderchog. Mae llawer yn mynd ymlaen i fyd addysg, tra bo’r cyfryngau Cymraeg yn denu llawer i berfformio, gweinyddu a chynhyrchu. Aiff rhai o raddedigion yr adran i weithio mewn meysydd fel gwaith cymdeithasol a’r gyfraith. Yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol cynyddodd y galw am weision sifil sy’n medru’r Gymraeg, ac am bobl i gyfieithu ac i weinyddu mewn sawl cylch. 

Mae astudio Mathemateg yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o swyddi lle croesewir sgiliau dadansoddol a chyfrifiadurol yn benodol. Mae ein myfyrwyr bellach yn cael eu cyflogi ym meysydd cyfrifeg a bancio, yswiriant ac mewn cwmnïau actiwari, adrannau addysgu, meddygol ac ystadegau’r llywodraeth, gweithgynhyrchu awyrofod, a llawer o feysydd eraill. 

Byddwch hefyd yn dod yn rhan o bwll o raddedigion y mae galw mawr amdanynt ar draws llawer o ddiwydiannau am eu sgiliau datrys problemau, eu prosesau meddwl dadansoddol clir, a'u gallu i lunio dadl resymegol. 

Yn ystod y cwrs, byddwch yn datblygu llu o sgiliau trosglwyddadwy - sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Dyma rai enghreifftiau: 

  • mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig 
  • meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon 
  • ymchwilio a dadansoddi data 
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol uwch 
  • sylfaen drylwyr mewn technoleg gwybodaeth 
  • gweithio’n annibynnol 
  • hunangymhelliant a hunanddibyniaeth 
  • gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb 
  • trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd â therfynau amser tynn. 

Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddwch wedi eu datblygu dros gyfnod eich cwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd. 

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn: dysgu sut i edrych ar feirdd a llenorion o 1900 hyd heddiw mewn modd beirniadol; dysgu am brif dueddiadau traddodiad llenyddol Cymru a gwerthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol; archwilio ffigurau llenyddol Cymru mewn barddoniaeth a rhyddiaith; cael eich cyflwyno i sgiliau trosglwyddadwy astudio iaith a llên a fydd o gymorth i chi ar gyfer llunio aseiniadau ysgrifenedig a datblygu sgiliau mwy cyffredinol; astudio cyweiriau’r iaith ynghyd â nodweddion Cymraeg safonol; trafod y byd cyfoes trwy’r Gymraeg er mwyn atgyfnerthu eich sgiliau llafar; a datblygu sgiliau ysgrifenedig a’ch dealltwriaeth o ramadeg y Gymraeg. 

Ym maes mathemateg byddwch yn astudio’r algebra sy’n hanfodol i astudio Mathemateg ynghyd â chysyniadau elfennol calcwlws. Gan adeiladu ar hynny, byddwch yn mynd ymlaen i astudio sefyllfaoedd ble mae ffwythiannau sawl hapnewidyn yn codi'n naturiol mewn mathemateg. Cewch hefyd eich cyflwyno i ddadansoddi mathemategol sy'n ceisio ateb rhai o'r cwestiynau sy'n cael eu hanwybyddu yn natblygiad calcwlws. 

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn meithrin eich gallu i ysgrifennu’r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru’n raenus ac yn parhau â modiwl y flwyddyn gyntaf sy’n edrych ar gyweiriau’r iaith ynghyd â nodweddion Cymraeg safonol, gan gynnwys confensiynau sillafu’r iaith, ffurfiau’r iaith lenyddol, y treigladau a phriod-ddulliau. Yn ogystal â hynny, cewch gyfle i ddatblygu sgiliau ieithyddol ac ymarferol a fydd yn fanteisiol ichi yn y gweithle proffesiynol dwyieithog yng Nghymru. 

Ym maes mathemateg byddwch yn astudio ac yn dadansoddi’r ffwythiannau sy’n cymryd gwerthoedd cymhlyg a welir mewn mathemateg bur ac mewn sawl cangen o fathemateg a pheirianneg. Byddwch hefyd yn dysgu am algebra llinol lle cewch eich cyflwyno i'r cysyniad o ofod fector, sy’n adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn y flwyddyn gyntaf. Cewch hefyd ddethol o blith casgliad o fodiwlau eraill yn ôl eich diddordebau eich hun. 

Yn y flwyddyn olaf byddwch yn parhau i weithio ar ddatblygu sgiliau ysgrifennu’r Gymraeg yn safonol a chywir a’i llefaru’n raenus ond fel arall byddwch yn rhydd i ddethol o blith ystod eang o fodiwlau yn y ddau bwnc. Gweler y tab modiwlau i gael rhagor o wybodaeth. 

Sut bydda i’n cael fy addysgu ac fy asesu? 

Yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored. Cewch eich asesu drwy gyfrwng arholiadau, asesu cyson, traethodau ac ymarferion. Yn yr Adran Fathemateg, byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a dosbarthiadau ymarferol. Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau ac arholiadau. Byddwch yn dod yn rhan o amgylchedd dysgu cefnogol gyda chyfradd staff/myfyrwyr dda yn y ddwy adran. 

Tiwtor personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo ar eich cyfer trwy gydol eich cwrs gradd, a fydd yn eich helpu ag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â nhw ar unrhyw adeg am gymorth a chyngor.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 112

Safon Uwch BBB-BBC gan gynnwys Mathemateg (gradd B) a Chymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM gan gynnwys Mathemateg (gradd B) a Chymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26 gyda 5 pwynt mewn Mathemateg ar lefel uwch

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol gyda 7 mewn Mathemateg

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|