Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Trwy ddewis astudio’r Gymraeg a Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth byddwch yn perthyn i ddwy adran sydd wedi’u hen sefydlu a chanddynt dros 100 mlynedd o brofiad o ymchwilio a dysgu’r ddau egwyddor ond sydd hefyd yn addysgu’n ddeinamig mewn modd sy’n procio’r meddwl. Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu ac ymchwilio i drysorau pellach ym myd Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a chanfod adnabyddiaeth a dadansoddiad o siapiau a phatrymau trwy gasglu a chyfrifo data, dyma’r radd i chi.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
94% boddhad cyffredinol myfyrwyr i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd (ACF 2020).
100% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 7% yn uwch na graddedigion Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn genedlaethol. (HESA 2018*)
92% boddhad cyffredinol yn yr Adran Fathemateg (ACF 2020).
96% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Mathemategol yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam Astudio Cymraeg a Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Canfyddwch ddisgyblaeth sy’n cyfuno adnabod a dadansoddi siapiau a phatrymau trwy gasglu a chyfrifo data.
Dysgir Mathemateg yn Aberystwyth ers 1872, felly mae gan yr adran dros 140 o flynyddoedd o ragoriaeth dysgu, ac yn cyflogi darlithwyr sy’n addysgwyr ymroddedig ac yn ymchwilwyr sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol.
Bydd gradd mewn Mathemateg yn agor ystod eang o lwybrau gyrfa i chi, ac mae’r radd hon wedi’i hachredu gan y Sefydliad Mathemateg a’i Chymwysiadau (IMA), sef prif gymdeithas ddysgedig a phroffesiynol y DU ar gyfer mathemateg, a fydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at gael eich cydnabod yn Fathemategydd Siartredig.
Mae amrywiaeth hynod ddiddorol o cyrsiau unigol ar gael yn yr Adran, sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr: hanes ein llên a llenyddiaeth gyfoes, theori lenyddol, llenyddiaeth plant, llên gwerin, astudiaethau menywod ac astudiaethau rhywedd, ysgrifennu creadigol a sgriptio, cyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, yr iaith mewn cyd-destunau proffesiynol, cyfieithu ac addasu, y Gymraeg a'r cyfryngau, cymdeithaseg yr iaith Gymraeg.
Iaith Gyntaf ac Ail Iaith – mae’r cynllun gradd hwn yn cynnwys llwybrau Ail Iaith ac Iaith Gyntaf.
Mae’r Adran yn cynnig nifer o fodiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg; i gael rhagor o fanylion cliciwch yma.
Y Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Yn ogystal â’r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae’r Adran ar stepen drwys y Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Adran sy’n Agorau Drysau – Mae llu o bosibiliadau ar gael ar ôl graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth. Dysgwch ragor am swyddi rhai o’n graddedigion yma.
Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus - Yn Aberystwyth gallwch fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma. Ymaelodwch ag UMCA, dewch i fyw yn neuadd Pantycelyn-Penbryn, ewch ar deithiau rygbi, ymunwch â chôr Pantycelyn, ac ewch i nosweithiau megis Gwobrau'r Selar.
Boddhad Myfyrwyr - Mae boddhad ein myfyrwyr yn uchel iawn yn gyson. Eleni, Aberystwyth sydd ar y brig o blith yr holl adrannau Cymraeg yn holiadur yr NSS o ran bodlonrwydd myfyrwyr. Enillodd yr Adran 100% am fodlonrwydd cyffredinol.
Ein Staff
Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.
Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae ein graddedigion wedi cael swyddi yn y sectorau isod:
Dadansoddi ystadegol ac ystadegaeth gyfrifiadurol;
Dysgu;
Peirianneg Awyrenegol;
Cyfrifeg a bancio;
Dadansoddi Risg a gwaith actwaraidd;
Rheolaeth ariannol a dadansoddi buddsoddiadau;
Technoleg gwybodaeth;
Wrth gwblhau’r radd hon, byddwch wedi ennill y sgiliau isod:
Sgiliau ymchwilio a dadansoddi data
Sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol uwch
Sgiliau datrys-problemau a meddwl creadigol effeithiol
Sylfaen drylwyr mewn technoleg gwybodaeth
Gallu i weithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm
Sgiliau Rheoli amser a threfnu
Gallu i gyfathrebu’n eglur yn ysgrifenedig ac ar lafar
Cymell eich hun a dibynnu arnoch eich hun
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddwch yn astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Dysgu ac Addysgu
Beth fyddaf i’n ei ddysgu?
Mae’r manylion isod yn rhoi syniad i chi o’r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio pynciau algebra a chalcwlws, geometreg a hafaliadau differol, tebygoleg ac ystadegaeth, a dadansoddi mathemategol.
Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn byddwch yn gallu dewis o blith ystod o fodiwlau ar bynciau a allai gynnwys dadansoddi a hafaliadau differol rhannol, algebra haniaethol a llinellol, modelu ystadegol a mecaneg.
Sut byddaf i’n cael fy nysgu?
Mae’r radd hon yn cael ei dysgu trwy ddarlithoedd, tiwtorialau a dosbarthiadau ymarferol.
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfuniad o waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau ac arholiadau.
Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo ar eich cyfer trwy gydol eich cwrs gradd, a fydd yn eich helpu ag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â nhw ar unrhyw adeg am gymorth a chyngor.
Gwybodaeth bellach :
Cewch gyfle hefyd i gwblhau Cynllun Datblygiad Personol yn Aberystwyth. Mae hon yn drefn strwythuredig o hunangloriannu, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i nodi eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Trwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu’r sgiliau sydd gennych eisoes a’r rheiny fydd eu hangen arnoch ar gyfer cael swydd yn y dyfodol, bydd portffolio’r Cynllun Datblygiad Personol yn eich arfogi â’r offer angenrheidiol i gynllunio’n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus ar gyfer astudio, ac ystyried eich opsiynau a’ch dyheadau ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.