BA

Cymraeg y Gweithle Proffesiynol / Busnes a Rheolaeth

BA Cymraeg y Gweithle Proffesiynol / Busnes a Rheolaeth Cod QN51 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Yn y Gymru gyfoes mae galw cynyddol am weithwyr proffesiynol dwyieithog o’r safon uchaf. O ddewis astudio Cymraeg y Gweithle Proffesiynol / Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn cyfuno sgiliau ieithyddol a phroffesiynol y Gymraeg ag arbenigedd mewn busnes a rheolaeth, a thrwy hynny yn agor drysau i ragolygon gyrfaol gwych. Ar y cwrs arloesol hwn, cewch gamu i’r byd busnes yng Nghymru ac ennill sgiliau a phrofiadau hynod werthfawr. Bydd cyfle ichi ddysgu sut i weinyddu, golygu, cyfieithu a marchnata. Cewch hefyd ennill sgiliau rheoli, cyflwyno, arwain a chydweithio, a dysgu am entreprenwriaeth a datblygu eich busnes eich hun.  

Mae Cymraeg y Gweithle Proffesiynol / Busnes a Rheolaeth ar gael i fyfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith, ac mae cyfle unigryw i’w astudio hyd yn oed os nad ydych chi wedi astudio Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf. 

Trosolwg o'r Cwrs

Yn ystod eich cyfnod yn fyfyriwr yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd byddwch yn cael dewis o amrywiaeth helaeth o fodiwlau sy’n rhychwantu ystod eang o ddiddordebau ac yn dod yn rhan naturiol o’r bwrlwm sy’n gysylltiedig â’r Adran. Cewch eich dysgu gan arbenigwyr sydd yn arloesi yn eu maes a byddwch yn dilyn cwrs cyffrous a heriol. Byddwch yn dewis o blith ein casgliad eang o fodiwlau sy'n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr, o hanes ein llên i lenyddiaeth gyfoes, ac o gymdeithaseg yr iaith Gymraeg i gyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, ac ysgrifennu creadigol a sgriptio. 

Mae astudio Busnes a Rheolaeth yn berffaith i'ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y byd busnes. Bydd ein hacademyddion arbenigol yn eich tywys drwy feysydd marchnata, rheoli gweithrediadau, cyllid, cyfrifo, strategaeth, rheoli adnoddau dynol ac entrepreneuriaeth – yn ogystal ag ystod eang o fodiwlau arbenigol a blaengar eraill. 

Mae'r radd hon yn addas i'r rhai sy'n dymuno rhagori ym maes arferion rheoli busnes, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Ein Staff

Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20
Fundamentals of Accounting and Finance * AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar CY11420 20
Sgiliau Astudio Iaith a Llên CY13120 20
Ysgrifennu Cymraeg Graenus CY11720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Gweithrediadau a Rheoli'r Gadwyn Cyflenwi CB25120 20
Rheolaeth Adnoddau Dynol CB25420 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar CY21420 20
Cymraeg y Gweithle Proffesiynol CY20520 20
Entreprenwriaeth a Chreu Menter Newydd CB25220 20
Gloywi Iaith CY20120 20
Rheolaeth Marchnata CB27120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Arweinyddiaeth Strategol CB35120 20
Financial Strategy AB31720 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Digital Business: Leadership and Management AB35220 20
Global Logistics AB35320 20
Gloywi Iaith yr Ail Iaith CY31120 20
Organizational Psychology AB35420 20

Gyrfaoedd

Beth fydda i'n gallu ei wneud â gradd Cymraeg y Gweithle Proffesiynol / Busnes a Rheolaeth? 

Mae'r radd hon yn agor drysau i lu o bosibiliadau gyrfaol. Mae llawer o'n graddedigion yn canfod gwaith yn y meysydd canlynol: cyfieithu a mentrau iaith; gweinyddu; llywodraeth leol a gwleidyddiaeth Cymru a’r byd; addysg a’r byd academaidd; y cyfryngau, sgriptio, cynhyrchu a darlledu; busnes (diwydiant a masnach); y sector cyhoeddus; y diwydiant cyhoeddi, llenydda, golygu, marchnata; twristiaeth a’r diwydiant treftadaeth; busnes cenedlaethol a rhyngwladol ac amlwladol.  

Dyma rai o'r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu datblygu: 

  • ymchwilio a dadansoddi data 
  • meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon 
  • gweithio’n annibynnol 
  • trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn 
  • mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig 
  • hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth 
  • gwaith tîm - gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb 
  • sgiliau technoleg gwybodaeth. 

Yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol cynyddodd y galw am weision sifil sy’n medru’r Gymraeg, ac am bobl i gyfieithu ac i weinyddu mewn sawl maes. Mae cyfuno Cymraeg â Busnes a Rheolaeth yn cynnig ystod eang o opsiynau gyrfaol, o'r diwydiant twristiaeth neu gyhoeddi llyfrau i'r heddlu. Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddwch wedi eu datblygu dros gyfnod eich cwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio ar lefel uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd. 

Pa gyfleoedd fydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch fwy am y gwahanol gyfleoedd y mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth

yn eu cynnig. 

Cewch wella eich cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a’r cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith a

reolir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Yn y flwyddyn gyntaf cewch eich cyflwyno i'r prif themâu sy’n greiddiol i astudio Cymraeg y Gweithle Proffesiynol ac i hanfodion y byd Busnes a Rheolaeth. 

Yn dibynnu ar y llwybr y byddwch yn ei ddilyn (iaith gyntaf neu ail iaith) byddwch yn astudio defnydd a chyweiriau'r iaith gyfoes mewn amgylchiadau amrywiol ac fe gewch eich cyflwyno i egwyddorion sylfaenol Cymraeg safonol drwy ganolbwyntio ar gyweiriau’r iaith, ynghyd â nodweddion megis confensiynau sillafu, ffurfiau’r iaith lenyddol, y treigladau a phriod-ddulliau. Cewch gyfle i feithrin eich sgiliau ysgrifenedig, ac i atgyfnerthu eich dealltwriaeth o ramadeg y Gymraeg. Cewch hefyd ddethol o blith pynciau eraill sy’n ennyn eich diddordeb. Ym maes busnes a rheolaeth, cewch eich cyflwyno i amrywiaeth o hanfodion marchnata a ffurfiau cyfoes ar farchnata, er enghraifft brandio, a marchnata digidol, ac i hanfodion cyfrifeg a chyllid. Byddwch hefyd yn edrych ar sefydliadau a’r berthynas rhwng rheolwyr a threfniadaeth, o safbwynt damcaniaethol a sefyllfaoedd go iawn. Bydd dysgu am hanes a natur marchnata fel disgyblaeth busnes craidd a phwnc academaidd yn fodiwl craidd yn ogystal. 

Yn yr ail flwyddyn, yn dibynnu ar y llwybr iaith y byddwch yn ei ddilyn, byddwch yn gweithio ar feithrin eich gallu i ysgrifennu'r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru'n raenus, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn y flwyddyn gyntaf. Byddwch hefyd yn astudio gwahanol agweddau ar gyfieithu ac addasu llenyddol, technegol, hanesyddol ac ymarferol. Cewch hefyd astudio modiwlau dewisol megis Cymraeg llyfr a Chymraeg llafar a Chymraeg y gweithle proffesiynol sy’n canolbwyntio ar y defnydd cynyddol a wneir o’r Gymraeg yn y byd gwaith yng Nghymru.  

Ym maes busnes a rheolaeth cewch gyflwyniad i amrywiaeth o bynciau ar thema rheoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi, a byddwch yn edrych ar y cysyniadau allweddol a ddefnyddir i arwain, ysgogi, rheoli a gwobrwyo pobl mewn sefydliadau heddiw. 

Yn y flwyddyn olaf, yn dibynnu unwaith eto ar y llwybr iaith, byddwch yn parhau i ddatblygu eich dealltwriaeth o’r gwahanol agweddau ar gyfieithu ac addasu llenyddol, technegol, hanesyddol ac ymarferol gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn yr ail flwyddyn, ac fe gewch gyfle i ymgymryd ag ymchwil wreiddiol o dan arweiniad goruchwyliwr.  

Ym maes busnes a rheolaeth, byddwch yn dysgu am bwysigrwydd strategaeth fusnes i gwmnïau, i randdeiliaid ac i'r gymuned fusnes yn ehangach. Byddwch hefyd yn dysgu am rôl strategaeth ariannol wrth wneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi, ariannu a phennu adnoddau. Ceir hefyd opsiwn i gwblhau modiwl profiad gwaith yn ystod y tymor neu yn ystod yr haf (rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn): Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol. Cefnogir y modiwl yma trwy gynnal seminarau cyfrwng Cymraeg yn hytrach na darlithoedd.

Byddwch yn gallu dewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol yn ogystal. 

Sut byddwch chi’n cael eich addysgu? 

Fe'ch addysgir trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Ceir awyrgylch anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored.

Sut byddwch chi'n cael eich asesu?

Bydd eich gwaith yn cael ei asesu ar ffurf traethodau, cyflwyniadau, arholiadau, asesu cyson, ymarferion penodol, gwaith ymchwil a datblygu syniadau, rhoi cyflwyniadau, a gweithio'n rhan o dîm. 

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ichi am gyfnod cyfan eich cwrs gradd. Bydd y tiwtor yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso ichi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os byddwch angen cymorth arnoch. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf (gradd B)

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf (gradd B)

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf (gradd B)

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|