Cymraeg y Gweithle Proffesiynol / Busnes a Rheolaeth
BA Cymraeg y Gweithle Proffesiynol / Busnes a Rheolaeth Cod QN51
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
QN51-
Tariff UCAS
104 - 120
-
Hyd y Cwrs
3 Blwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
76%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrYn y Gymru gyfoes mae galw cynyddol am weithwyr proffesiynol dwyieithog o’r safon uchaf. Wrth ddewis astudio Cymraeg Proffesiynol / Busnes a Rheolaeth, byddi'n cyfuno sgiliau ieithyddol a phroffesiynol y Gymraeg ag arbenigedd mewn busnes a rheolaeth, a thrwy hynny yn agor drysau i ragolygon gyrfaol gwych.
Ar y cwrs arloesol hwn, cei gamu i’r byd busnes yng Nghymru ac ennill sgiliau a phrofiadau hynod werthfawr. Bydd cyfle iti ddysgu sut i weinyddu, golygu, cyfieithu a marchnata. Cei hefyd ennill sgiliau rheoli, cyflwyno, arwain a chydweithio, a dysgu am entreprenwriaeth a datblygu dy fusnes dy hun.
Mae’r cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith, ac mae cyfle unigryw i’w astudio hyd yn oed os nad wyt ti wedi gwneud Cymraeg Safon Uwch Iaith Gyntaf.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
94% boddhad cyffredinol myfyrwyr i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd (ACF 2020).
Ymhlith y 5 uchaf yn y DU ym maes Astudiaethau Celtaidd (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
100% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 7% yn uwch na graddedigion Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn genedlaethol. (HESA 2018*)
91% boddhad cyffredinol yn Ysgol Fusnes Aberystwyth (ACF 2020).
Ymhlith y 10 uchaf yn y DU am Ansawdd y Dysgu ym maes Astudiaethau Rheolaeth a Busnes (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
97% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion Astudiaethau Busnes a Gweinyddu yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Modiwlau
Cyflogadwyedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 104 - 120
Lefel A BBB-BCC to include B in Welsh 1st or 2nd Language
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, plus B in A level Welsh 1st Language
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, plus B in A level Welsh 1st Language
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall, plus B in A level Welsh 1st Language
Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk
|