BA

Cymraeg / Cysylltiadau Rhyngwladol

BA Cymraeg / Cysylltiadau Rhyngwladol Cod 5FQL Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Bydd y radd BA Cymraeg / Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich cyflwyno i bynciau Cymraeg deniadol, diddorol a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg, ac i bynciau Cysylltiadau Rhyngwladol sy’n mynd i'r afael â rhai o brif heriau byd-eang yr ugeinfed ganrif ar hugain. Os ydych chi’n hoffi cael eich herio ac yn dymuno cael y cyfle i weithio mewn amrywiaeth o feysydd proffesiynol yng Nghymru neu’r tu hwnt i Gymru, bydd y radd BA Cymraeg / Cysylltiadau Rhyngwladol yn gweddu i chi i'r dim.

Trosolwg o'r Cwrs

Ar y cwrs hwn, byddwch yn rhannu'ch amser rhwng Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol - dwy adran uchel iawn eu bri. Mae’r ddwy adran wedi eu sefydlu ers canrif a mwy ond wedi symud gyda’r amser er mwyn cynnig cyrsiau arloesol sy’n berthnasol i'r ugeinfed ganrif ar hugain. 

Byddwch yn astudio modiwlau Cymraeg sy'n dod o dan brif themâu arbenigedd staff sy’n dysgu ar ein graddau Cymraeg, sef ysgrifennu creadigol, y Gymraeg yn y gweithle proffesiynol ac astudiaethau cyfieithu. Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn bwnc hollol ddeinamig a bydd y modiwlau yn adlewyrchu bywiogrwydd, egni a datblygiadau byd sy’n newid yn gyflym. Mae’r cyfuniad o addysgu rhagorol ac ymchwil gyffrous yn y ddwy adran yn creu profiad unigryw ac eithriadol ar y cwrs, a hynny mewn awyrgylch cyfeillgar. Ceir cyfle o bob math hefyd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu eich cyfleoedd gyrfa. 

Ar y modiwlau Cymraeg, byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o’r iaith, ei llenyddiaeth gyfoethog, a’i diwylliant, gyda modiwlau sy’n amrywio o hanes ein llên i lenyddiaeth gyfoes, ac o gymdeithaseg yr iaith Gymraeg i ysgrifennu creadigol a sgriptio. At hynny, byddwch yn dod yn rhan o’r bwrlwm Cymraeg a Chymreig a geir yn yr Adran. Ar y modiwlau Cysylltiadau Rhyngwladol byddwch yn astudio themâu megis grym a chyfiawnder, gwrthdaro a chydweithio. Byddwch yn astudio cyflwr dynoliaeth a’r modd y mae cymdeithasau dynol yn ymwneud â’i gilydd ac yn delio â phob math o newidiadau byd-eang, yn economaidd, diwylliannol a gwleidyddol. Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn bwnc cyffrous a rhyngddisgyblaethol sy’n cynnwys Gwleidyddiaeth, Hanes, Athroniaeth, y Gyfraith, Daearyddiaeth a Chymdeithaseg er mwyn ceisio deall y byd o’n cwmpas a’r problemau sy’n ei wynebu. 

Ein Staff

Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
International Relations: Perspectives and Debates IP20120 20
Gloywi Iaith CY20120 20
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar CY21420 20
Cymraeg y Gweithle Proffesiynol CY20520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP28320 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Climate Change Politics IP21420 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP20720 20
Contemporary Latin America IP28720 20
Datganoli a Chymru GW25020 20
Devolution and Wales IP25020 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ23720 20
International Politics and Global Development IP29220 20
Intervention and Humanitarianism IQ20220 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP20820 20
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw GQ23920 20
Political Theory IP22220 20
Politics in Diverse Societies IQ23720 20
Questions of International Politics IP26820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ24920 20
Science, Technology, and International Relations IP23020 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP24520 20
The BRICS in World Politics IQ20320 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP23820 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
The Second World War in Europe IP26420 20
Total War, Total Peace IQ23420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ21620 20
War Crimes IQ25720 20
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20
Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ20920 20

Gyrfaoedd

Mae graddedigion y cwrs hwn yn mynd ymlaen i swyddi ardderchog. Mae llawer yn mynd ymlaen i fyd addysg, i'r swyddfa dramor, y weinyddiaeth amddiffyn a'r adran sy'n ymwneud â datblygiad rhyngwladol o fewn y gwasanaeth sifil, sefydliadau rhyngwladol, a mudiadau anllywodraethol. Mae eraill yn mynd i faes ymchwil wleidyddol gyda chwmniau preifat yn ogystal ag yn San Steffan, Senedd Cymru a Senedd Ewrop. Mae rhai yn cael eu denu i'r cyfryngau Cymraeg, i berfformio, gweinyddu a chynhyrchu. Aiff rhai i weithio mewn meysydd fel gwaith cymdeithasol a’r gyfraith neu newyddiaduraeth, neu i ddilyn gyrfa yn y lluoedd arfog. 

Yn ystod y cwrs, byddwch yn datblygu llu o sgiliau trosglwyddadwy - sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Dyma rai enghreifftiau: 

  • mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig 
  • meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon 
  • ymchwilio a dadansoddi data 
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol uwch 
  • sylfaen drylwyr mewn technoleg gwybodaeth 
  • gweithio’n annibynnol 
  • hunangymhelliant a hunanddibyniaeth 
  • gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb 
  • trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd â therfynau amser tynn. 

Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddwch wedi eu datblygu dros gyfnod eich cwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd. 

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu? 

Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn astudio nifer o fodiwlau sy’n cynnwys arolwg o rai o uchafbwyntiau ein llên o’r chweched ganrif hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cewch gyflwyniad beirniadol i ryddiaith a barddoniaeth ddiweddar wrth ddilyn y modiwlau hyn. Mae cyfres o ddarlithoedd ar wahanol agweddau ar hanes a thafodieithoedd y Gymraeg ar gael i fyfyrwyr iaith gyntaf yn y flwyddyn gyntaf, tra bydd myfyrwyr ail iaith yn dilyn cyfres o seminarau iaith. Mae’r modiwl ar gyfryngau diwylliant yn un poblogaidd, sy’n olrhain y gwahanol gyfryngau a ddefnyddiwyd i drosglwyddo diwylliant yng Nghymru. 

Bwriad modiwlau blwyddyn gyntaf yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw rhoi sail eang o wybodaeth i chi wrth ichi baratoi i astudio’n ddwysach yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Bydd y modiwlau hyn yn eich cyflwyno i gysyniadau a dadleuon allweddol yn ogystal â phynciau pwysicaf gwleidyddiaeth ryngwladol ac fe gewch hefyd gyfle i adfyfyrio’n feirniadol ar ddatblygiadau mewn gwleidyddiaeth ryngwladol mewn amser go iawn.  

Yn yr ail a'r drydedd flwyddyn, bydd dewis eang iawn o fodiwlau ar gael i chi. Bydd y myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dewis o’r un modiwlau bellach. Mae’r modiwlau hynny’n cynnwys pethau mor amrywiol ag ysgrifennu creadigol, iaith dysg ac iaith cymdeithas, y Gymraeg yn y gweithle, a hanes a hanfodion beirniadaeth lenyddol. Cewch gyfle i ddewis a dethol modiwlau sydd o ddiddordeb penodol i chi, neu ddewis rhai mwy galwedigaethol eu natur. Mae enghreifftiau o themâu modiwlau yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnwys gwleidyddiaeth newid hinsawdd, cyfiawnder byd-eang, gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig heddiw, a dysgu am y wleidyddiaeth a’r broses gwneud penderfyniadau a negodi yn y gyfundrefn ffoaduriaid byd-eang. Mae’r modiwlau hyn yn adlewyrchu’r ymchwil ddiweddaraf yn y maes, sy’n golygu bod myfyrwyr Aberystwyth yn cael clywed y syniadau diweddaraf cyn iddynt hyd yn oed gael eu cyhoeddi a’u gwerthu yn y siopau llyfrau! 

Sut byddwch chi'n cael eich addysgu? 

Cewch eich addysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae i’r seminarau awyrgylch fwy anffurfiol, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored. Mae rhai o fodiwlau’r ail a’r drydedd flwyddyn yn defnyddio fformat seminarau’n unig, sy’n rhagflas o astudiaethau Meistr, tra bod eraill yn defnyddio efelychiadau, chwarae rôl, a thechnegau diweddaraf e-ddysgu. 

Sut byddwch chi'n cael eich asesu?

Bydd y rhan helaeth o'ch gwaith yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion, ond defnyddir prosiectau, cyflwyniadau ac adolygiadau llyfr i asesu myfyrwyr o bryd i’w gilydd. 

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ichi am gyfnod cyfan eich cwrs gradd, a bydd y tiwtor hwn yn gallu eich cynorthwyo gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn academaidd neu'n bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth arnoch. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|