Cymraeg / Cysylltiadau Rhyngwladol
BA Cymraeg / Cysylltiadau Rhyngwladol Cod 5FQL Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrRydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2022
Prif Ffeithiau
5FQL-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
93%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrWrth ddewis astudio’r radd gyfun BA Cymraeg / Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth byddwch yn rhannu'ch amser rhwng Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol - dwy adran uchel iawn eu bri. Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yw’r adran hynaf a’r fwyaf o’i bath yn y byd. Mae’n gartref i gymuned frwdfrydig o fyfyrwyr ac ymchwilwyr sy’n rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth a’i lle yn y byd cyfoes.
Mae’r staff sy’n dysgu ar y cwrs yn arbenigwyr mewn meysydd amrywiol ac o ganlyniad byddwch yn gallu dewis o blith amrywiaeth eang o bynciau sy’n eich ddiddori. Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn bwnc hollol ddeinamig. Mae’n adlewyrchu bywiogrwydd, egni a datblygiadau byd sy’n newid yn gyflym. Astudir elfen hon y cwrs yn ein hadran Gwleidyddiaeth Ryngwladol sydd ymhlith y canolfannau gorau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer astudio cysylltiadau rhyngwladol. Mae’r adran hefyd yn gartref i Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol ac ymchwil gyffrous yn creu profiad unigryw ac eithriadol yma, a hynny mewn awyrgylch cyfeillgar. Ceir cyfle o bob math hefyd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu eich cyfleoedd gyrfa.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2022
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Beirdd a Llenorion o 1900 hyd heddiw | CY11220 | 20 |
Themau a Ffigurau Llen c.550-1900 | CY11120 | 20 |
Llenyddiaeth Gymraeg: cyfoes a hanesyddol | CY11520 | 20 |
Sgiliau Astudio Iaith a Llên | CY13120 | 20 |
Behind the Headlines | IP12620 | 20 |
Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 1: Cysyniadau Canolog a Sgiliau Craidd | GW12420 | 20 |
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar | CY11420 | 20 |
Trafod y Byd Cyfoes twy'r Gymraeg | CY10920 | 20 |
Ysgrifennu Cymraeg Graenus | CY11720 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Globaleiddio a Datblygiad Byd-eang | GW12520 | 20 |
Globalization and Global Development | IP12520 | 20 |
Gwleidyddiaeth yn yr Unfed Ganrif ar Hugain | GW12920 | 20 |
Politics in the 21st Century | IP12920 | 20 |
The Making of the Modern World: War Peace and Revolution since 1789 | IP12820 | 20 |
War, Strategy and Intelligence | IP10320 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Gloywi Iaith | CY20120 | 20 |
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar | CY21420 | 20 |
Cymraeg y Gweithle Proffesiynol | CY20520 | 20 |
International Relations: Perspectives and Debates | IP20120 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Gloywi Iaith yr Ail Iaith | CY31120 | 20 |
Opsiynau
Gyrfaoedd
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Safon Uwch BBB-BCC to include B in Welsh 1st or 2nd Language
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, plus B in A level Welsh 1st or 2nd Language
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, plus B in A level Welsh 1st or 2nd Language
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall, plus B in A level Welsh 1st or 2nd Language
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|