Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Cyfryngau
BA Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Cyfryngau Cod 3P2L Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
3P2L-
Tariff UCAS
120 - 96
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
71%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrMae Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth yn bwnc hollol ddeinamig. Mae’n adlewyrchu bywiogrwydd, egni a datblygiadau byd-eang sy’n newid yn gyflym. Wrth ddewis astudio am y radd hon ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn ymuno â dwy adran ragorol sydd ag enw da yn rhyngwladol - ein hadran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a'n hadran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.
Mae’r adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gartref i Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol ac ymchwil gyffrous yn creu profiad unigryw ac eithriadol, a hynny mewn awyrgylch gyfeillgar. Cewch gyfleoedd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu eich cyfleoedd gyrfa, ac rydym yn cynnig cynllun lleoliadau yn Nhŷ’r Cyffredin ac yn Senedd Cymru, yn ogystal â rhaglenni cyfnewid gyda gwledydd Ewropeaidd, Canada ac Awstralia i’n myfyrwyr. Rydym yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr efelychu argyfyngau gwleidyddol ar gyrsiau maes cyffrous, ac mae hyn oll wedi ei leoli mewn amgylchedd bywiog a chosmopolitaidd yng nghalon campws y Brifysgol.
Bydd pynciau'r Cyfryngau yn cael eu dysgu yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Byddwch yn trafod pwy sy’n rheoli ac yn berchen ar ein cyfryngau, sut y caiff y cynnwys ei gynhyrchu, a pha fath o effaith y mae’r cyfryngau’n eu cael arnom ni, y gynulleidfa.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Creu Ffilm | TC10520 | 20 |
Cydweithio Ensemble | TC10820 | 20 |
Gweithio yn y Diwydiannau Creadigol | TC10620 | 20 |
Y Tu ôl i'r Penawdau | GW12620 | 20 |
Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 1: Cysyniadau Canolog a Sgiliau Craidd | GW12420 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Globaleiddio a Datblygiad Byd-eang | GW12520 | 20 |
Globalization and Global Development | IP12520 | 20 |
Gwleidyddiaeth yn yr Unfed Ganrif ar Hugain | GW12920 | 20 |
Gwleidyddiaeth yn yr Unfed Ganrif ar Hugain | GW12920 | 20 |
The Making of the Modern World: War Peace and Revolution since 1789 | IP12820 | 20 |
War, Strategy and Intelligence | IP10320 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
International Relations: Perspectives and Debates | IP20120 | 20 |
Ymarfer Cynhyrchu 1: Cyfryngau | TC21120 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|
Opsiynau
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 96
Safon Uwch BBB-CCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|