BA

Cysylltiadau Rhyngwladol

BA Cysylltiadau Rhyngwladol Cod 552L Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn cychwyn ar gyfnod cyffrous a hynod ddiddorol. Mae’r drefn fydol yn cael ei hailffurfio gan y pwerau newydd sy’n datblygu yn ogystal â chymhlethdod cynyddol gwleidyddiaeth ar lefel leol, cenedlaethol, rhanbarthol, rhyngwladol a byd-eang.

Bydd y radd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn Prifysgol Aberystwyth yn rhoi ichi’r cyfle i archwilio’r ffyrdd y mae’r holl ffactorau sy’n rhan annatod o gysylltiadau rhyngwladol yn cael eu trawsnewid mewn ffordd radical yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’r cwrs hwn yn tynnu ar nifer o bynciau er mwyn deall amrywiol ddimensiynau cysylltiadau rhyngwladol a’r trawsnewid parhaus yn y maes. Byddwch yn trafod yr heriau sy’n wynebu’r byd heddiw, fel globaleiddio, yr hinsawdd a’r amgylchedd, anghydraddoldeb a iechyd byd-eang. Byddwch hefyd yn dysgu i weld y byd o amrywiol safbwyntiau damcaniaethol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Cysylltiadau Rhyngwladol yn Aberystwyth?

  • Amcan y radd Cysylltiadau Rhyngwladol yw edrych yn fanwl ar waith a phatrymau llywodraeth, ac yn bwysicach fyth, ar ganlyniadau’r gwaith a’r patrymau rheiny. Mae’n ymwneud â gwleidyddion a llywodraethau, ond hefyd â grwpiau a mudiadau eraill megis cwmnïau rhyngwladol, undebau llafur, grwpiau cymdeithas sifil, ac eraill sy’n dylanwadu ar fywyd gwleidyddol.
  • Mae’r radd hon yn trafod y syniadau sy’n sail i’n bywydau o ddydd i ddydd, megis cyfiawnder, rhyddid, grym, cymuned, cydraddoldeb a dinasyddiaeth, a gwneir hynny wrth astudio ystod eang o wledydd a sefyllfaoedd.
  • Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyma’r adran brifysgol gyntaf o’i bath, ac mae’n parhau i fod yn un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol mwyaf yn Ewrop, a chanddi dros 40 o staff academaidd.
  • Mae’r awyrgylch dysgu cynhyrfus a chosmopolitaidd yma yn croesawu myfyrwyr o bedwar ban byd, ac yn gartref bywiog i drafodaeth wleidyddol gyfoes. Mae gan yr adran hanes hir o edrych ar y byd a gofyn cwestiynau sylfaenol am ystod o bynciau – materion megis rhyfel, cudd-wybodaeth a diogelwch, tlodi byd-eang, moeseg a newid hinsawdd; sut y daeth y byd i fod fel ag y mae, a sut y mae hynny’n newid o hyd. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol a pheth o’r gwaith ymchwil mwyaf cyffrous yn y maes yn creu profiad unigryw ac eithriadol.
  • Mae’r Adran yn enwog am ei gwaith ymchwil arloesol ac yn cael ei chydnabod yr orau yn y Deyrns Unedig ar gyfer astudio gwleidyddiaeth ryngwladol.
  • Mae’r adran yn rhedeg Cynllun Lleoliadau Tŷ’r Cyffredin a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r lleoliadau yma’n darparu profiad gwaith gwerthfawr dros ben fydd yn ychwanegu llawer at CV myfyrwyr yn ogystal â chynnig profiad go iawn o wleidyddiaeth wrth iddo ddigwydd. Caiff myfyrwyr eu gosod gydag Aelod Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin, San Steffan neu gydag Aelod Cynulliad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf, sydd yn brofiad gwych i unrhyw fyfyriwr Gwleidyddiaeth.
  • Mae gan yr Adran gysylltiadau hefyd â phrifysgolion dethol yn Ewrop, Awstralia a Chanada, a dyma gyfle gwych i ti ehangu dy orwelion academaidd a chymdeithasol drwy dreulio rhan o dy brofiad prifysgol dramor.
  • Ymhlith y cymdeithasau myfyrwyr bywiog sy’n meithrin ymdeimlad cryf o gymuned o fewn yr Adran, mae Cymdeithas Wleidyddiaeth Gymraeg Aberystwyth (CWGA). Cynhelir cyfarfodydd y Gymdeithas ddwywaith neu dair y tymor, gyda’r bwriad o glywed ysgolheigion ac ymarferwyr yn rhannu eu syniadau a’u hymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg, cynnal trafodaethau bywiog ar ystod o bynciau perthnasol, a rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff cyfrwng Cymraeg yr adran a’r brifysgol ac unigolion brwdfrydig lleol i rannu syniadau a chymdeithasu.
  • Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yma, cafwyd darlithoedd gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Carwyn Jones AC, Arglwydd Elystan Morgan, y Gwir Anrhydeddus Dafydd Wigley, Glyn Davies AC, a’r Arglwydd John Morris, sgyrsiau am yr Ariannin gan Dr Lucy Taylor, ar etholiadau gan yr Athro Roger Scully, ac am brofiadau newyddiadurwr gwleidyddol yng Nghymru gan Betsan Powys.

Ein Staff

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
International Relations: Perspectives and Debates IP20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP28320 20
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP28820 20
Britain and World Politics from Global Empire to Brexit: The Diplomacy of Decline IQ22620 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Cenedlaetholdeb mewn Theori a Realiti GW29920 20
China From the Opium War to the Present IP29820 20
Climate Change Politics IP21420 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP20720 20
Contemporary Latin America IP28720 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW25820 20
Datganoli a Chymru GW25020 20
Devolution and Wales IP25020 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ24320 20
European Security in 21st Century IP23620 20
Gender, Conflict and Security IP26720 20
Global Politics and the Refugee Regime IQ25520 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ23720 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ23820 20
International Politics and Global Development IP29220 20
International Politics and the Nuclear Age IP20420 20
Intervention and Humanitarianism IQ20220 20
Knowing about Violent Conflict in International Politics IQ24420 20
Middle Powers in the Global Political Economy IQ27120 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP20820 20
Nationalism in Theory and Practice IP29920 20
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw GQ23920 20
Political Theory IP22220 20
Politics in Diverse Societies IQ23720 20
Questions of International Politics IP26820 20
Race in Global Politics IQ20020 20
Refugee Simulation IQ25620 20
Russian Security in the 21st Century IP21820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ24920 20
Science, Technology, and International Relations IP23020 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP24520 20
The Arab-Israeli Wars IP21320 20
The BRICS in World Politics IQ20320 20
The British Army's Image in Battle, from the Crimean to the Present IQ20920 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP23820 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
The Long Shadow of the Second World War IP22720 20
The Past and Present US Intelligence IP26020 20
The Politics and Paradoxes of International Organisations IQ26020 20
The Second World War in Europe IP26420 20
Total War, Total Peace IQ23420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ21620 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ23820 20
War Crimes IQ25720 20
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20
Women and Global Development IP29620 20
Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ20920 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig GW30040 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP38320 20
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP38820 20
Britain and World Politics from Global Empire to Brexit: the Diplomacy of Decline: IQ32620 20
Capitalism and International Politics IQ32820 20
Cenedlaetholdeb Mewn Theori a Realiti GW39920 20
China From the Opium War to the Present IP39820 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP30720 20
Contemporary Latin America IP38720 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW35820 20
Datganoli a Chymru GW35020 20
Devolution and Wales IP35020 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ34320 20
European Security in the 21st Century IP33620 20
Gender, Conflict and Security IP36720 20
Global Politics and the Refugee Regime IQ35520 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ33720 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ33820 20
International Politics and the Nuclear Age IP30420 20
Intervention and Humanitarianism IQ30220 20
Knowing about Violent Conflict in International Politics IQ34420 20
Middle Powers in the Global Political Economy IQ37120 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP30820 20
Nationalism in Theory and Practice IP39920 20
Political Theory IP32220 20
Politics in Diverse Societies IQ33720 20
Race in Global Politics IQ30020 20
Refugee Simulation IQ35620 20
Russian Security in the 21st Century IP31820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ34920 20
Science, Technology, and International Relations IP33020 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP34520 20
The Arab Israeli Wars IP31320 20
The BRICS in World Politics IQ30320 20
The British Army's Image in Battle, from the Crimean to the Present IQ30920 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP33820 20
The Long Shadow of the Second World War IP32720 20
The Past and Present of US Intelligence IP36020 20
The Politics and Paradoxes of International Organisations IQ36020 20
The Second World War in Europe IP36420 20
Total War, Total Peace IQ33420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ31620 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ33820 20
War Crimes IQ35720 20
Women and Global Development IP39620 20
Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ30920 20

Gyrfaoedd

Mae graddedigion y adran wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth ddilyn eu gyrfaoedd. Mae rhai graddedigion wedi dilyn gyrfa yn:

  • y gwasanaeth sifil (yn enwedig y Swyddfa Dramor, Y Weinyddiaeth Amddiffyn, a’r Adran Datblygu Rhyngwladol)
  • sefydliadau rhyngwladol (NATO, yr Undeb Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig)
  • mudiadau anllywodraethol (Amnest Rhyngwladol, Oxfam)
  • ymchwil wleidyddol, gyda chwmnïau preifat yn ogystal ag yn San Steffan, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Ewrop.

Mae eraill yn dilyn gyrfa yn:

  • y lluoedd arfog
  • y cyfryngau (fel newyddiadurwyr neu gyflwynwyr radio neu deledu)
  • y gyfraith
  • y byd addysg.

Dewis poblogaidd arall yw aros mewn addysg uwch, ac mae nifer da o raddedigion yn dewis aros i astudio am radd Feistr neu PhD yn ysgol uwchraddedig nodedig yr Adran.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn dy arfogi ag amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy sydd yn werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:

• ymchwilio a dadansoddi data

• meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon

• gallu gweithio’n annibynnol

• trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn

• mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig

• hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth

• gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb

• sgiliau technoleg gwybodaeth

Blwyddyn Mewn Gwaith

Mae’r Brifysgol yn rhedeg cynllun Blwyddyn mewn Gwaith, sy’n cynnig cyfle arbennig i fyfyriwr israddedig gymryd blwyddyn allan rhwng ail a thrydedd blwyddyn y cwrs er mwyn gweithio i sefydliad yn y Derynas Unedig neu dramor. Mae’r cynllun yn rhoi profiad gwerthfawr a buddiol i fyfyrwyr, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall dy helpu i sefyll allan mewn marchnad waith gystadleuol iawn. Gall Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol dy helpu i ystyried dy opsiynau a dod o hyd i leoliad gwaith addas.

GO Wales

Gweinyddir GO Wales gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, sy’n gweithio gyda busnesau lleol er mwyn creu lleoliadau gwaith cyflogedig dros gyfnod o ychydig wythnosau ar gyfer myfyrwyr. Mae’n rhoi’r cyfle iti ennill profiad gwaith gwerthfawr a fydd yn cyfoethogi dy CV ac yn dy wneud yn fwy atyniadol i ddarpar gyflogwyr.

Dysgu ac Addysgu

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?

  • Bwriad modiwlau’r flwyddyn gyntaf yw rhoi sail eang o wybodaeth wrth i chi baratoi i astudio’n ddwysach yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Bydd y modiwlau yn eich cyflwyno i gysyniadau a dadleuon allweddol yn ogystal â phynciau pwysicaf gwleidyddiaeth ryngwladol. Rhaid dilyn y modiwl craidd, wedyn gallwch ddewis o blith nifer o fodiwlau eraill sy’n adlewyrchu amrywiaeth gronolegol a thematig, fel y gallwch ddewis y pynciau sydd o ddiddordeb penodol i chi.
  • Yn yr ail a’r drydded flwyddyn, cewch gyfle i arbenigo yn y meysydd sydd o’r diddordeb mwyaf i chi. Bydd disgwyl ichi gwblhau’r modiwl craidd ar gyfer y cynllun gradd sef ‘Dulliau Ymchwil’ a thraethawd hir (12,000 o eiriau) yn ogystal â’r modiwl ‘Damcaniaethau Gwleidyddiaeth’. Fel arall, gallwch adeiladu eich cwrs eich hun drwy ddewis modiwlau o raglen ddysgu Rhan Dau. Mae’r modiwlau hyn yn adlewyrchu’r ymchwil ddiweddaraf yn y maes, gan olygu fod myfyrwyr Aberystwyth yn cael clywed y syniadau diweddaraf cyn iddynt hyd yn oed gael eu cyhoeddi a’u gwerthu yn y siopau llyfrau!

Sut byddwch yn cael eich dysgu?

  • Ar y cwrs hwn byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Yn y darlithoedd cyflwynir pwnc a thrafodir materion allweddol, ac mewn seminarau byddwch yn ymuno â grŵp llai o fyfyrwyr er mwyn trafod yn fwy anffurfiol a dadansoddi pwnc mewn mwy o ddyfnder. Bydd seminarau felly yn ffordd wych i chi roi eich syniadau eich hun ar brawf a thrafod eich profiadau eich hun, yn ogystal â rhannu profiadau a syniadau eich cyd-fyfyrwyr. Mae rhai modiwlau yn Rhan Dau (yr ail a’r drydedd flwyddyn) yn defnyddio fformat seminarau’n unig, sydd fel rhagflas o astudiaethau Meistr, tra bod eraill yn defnyddio efelychiadau, chwarae rôl, a thechnegau diweddaraf e-ddysgu.
  • Nid yw addysg o’r safon uchaf yn dechrau a gorffen yn y ddarlithfa neu’r ystafell seminar, ac mae’r Adran yn cynnig ystod eang o weithgareddau allgyrsiol sy’n datblygu sgiliau bywyd pwysig ac yn cynnig profiad gwaith perthnasol a sgiliau trosglwyddadwy eraill. Mae’r gweithgareddau hyn i gyd yn rhoi cyfle i ddarganfod diddordebau newydd, profi syniadau newydd, a datgelu doniau cudd. Mae’r cyfan yn rhan o daith sy’n paratoi myfyrwyr Gwleidyddiaeth am heriau’r dyfodol.
  • Mae Gemau Argyfwng yn chwarae rhan bwysig iawn ym mywyd yr Adran, ac fe’u cynhelir ddwywaith y flwyddyn ar gyrsiau preswyl. Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol oedd y Brifysgol gyntaf yn y DU i gysylltu dysgu o fewn y dosbarth â chymhlethdodau gwleidyddiaeth ryngwladol go iawn. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r Gemau Argyfwng wedi eu seilio ar yr argyfyngau dyngarol yn y Congo a Darfur, profion niwclear yng Ngogledd Korea, Saudi Arabia a gwleidyddiaeth y Dwyrain Canol, proses heddwch Gogledd Iwerddon, a’r rhyfel rhwng Rwsia a Georgia. Yn ystod y gêm argyfwng, mae’r myfyrwyr yn dysgu llawer am gymhlethdodau gwleidyddiaeth ryngwladol, pethau na ellir eu dysgu mewn darlithoedd a seminarau, yn enwedig y cyfyngiadau a wynebir gan arweinyddion gwleidyddol mewn argyfyngau. I lawer o’n myfyrwyr, y Gemau Argyfwng yw pinacl y cwrs.
  • Asesir y rhan fwyaf o fodiwlau drwy gyfuniad o arholiadau a thraethodau, ond defnyddir prosiectau, cyflwyniadau ac adolygiadau llyfr i asesu myfyrwyr o bryd i’w gilydd.

Eich Tiwtor Personol

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi am y cwrs gradd cyfan, ac fe fydd yn gallu eich helpu os bydd gennych broblemau neu ymholiadau, boed rheiny’n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os byddwch angen cymorth.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Cefais fy nenu gyntaf i’r Adran hon pan ddeuthum i ymweld ar Ddiwrnod Agored. Gwnaeth brwdfrydedd y staff, y dewis eang o fodiwlau oedd ar gael, yn ogystal â’r posibiliad o astudio drwy’r Gymraeg, gryn argraff arnaf. Ers fy mlwyddyn gyntaf, pan oedd fy modiwlau gorfodol yn amrywio’n fawr, o ddatganoli i ryddfrydiaeth i ryfel, diogelwch a gwleidyddiaeth y trydydd byd, rwyf wedi llwyddo i wneud yn fawr o nifer o gyfleoedd a gynigir gan yr adran y tu hwnt i’r stafell ddarlithio. Bu’r dysgu bob amser yn ysbrydoledig, gyda grwpiau seminar bychain yn hybu trafodaeth, a nifer o’r modiwlau yn cynnig amrywiaeth o ran y gwaith asesedig, oedd yn cynnwys dyddiaduron dysgu, adolygiadau o lyfrau ac arolygon. Ac o ran adnoddau, nid oes angen edrych ymhellach na llyfrgell Hugh Owen neu’r Llyfrgell Genedlaethol ragorol sydd ar ein stepen drws. Bûm yn ffodus dros ben i allu bod yn rhan o nifer o gynlluniau yn yr adran, gan gynnwys semester dramor yn astudio ym Mhrifysgol McGill yn Montreal, Canada. Roedd yn brofiad ffantastig, cyfle i deithio a phrofi diwylliant newydd a gwneud nifer o ffrindiau, a rhoi persbectif gwahanol ar ddysgu’r pwnc hefyd. Roeddwn hefyd yn ffodus i gael fy nerbyn ar y Cynllun Lleoliadau Seneddol, a bum yn gweithio am bum wythnos yn cysgodi fy Aelod Seneddol lleol yn San Steffan – profiad gwych i fod yn rhan o wleidyddiaeth real dros ben. Treuliais i ddeg wythnos ar leoliad gwaith gyda Chysylltiadau Cyhoeddus lleol hefyd – profiad heb ei ail a fydd yn help gobeithio wrth chwilio am swydd yn y dyfodol!

Iolo Cheung

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|