BSc

Gwyddor Data (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Gwyddor Data (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod 7G74 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Gwyddor Data ym Mhrifysgol Aberystwyth. A oes gennych ddiddordeb yn y ffordd rydym yn gwneud synnwyr o'r terabeitiau o wybodaeth mae ein cyfrifiaduron yn eu casglu bob dydd? Ydych chi am ennill y sgiliau i ragfynegi beth fydd pobl yn ei brynu? Neu ble mae angen i ni roi rhagor o adnoddau ar gyfer effeithlonrwydd a threfniadaeth?

Mae galw cynyddol am bobl sy'n gallu dadansoddi a gwneud synnwyr o'r data sydd bellach ar gael. Yn enwedig, Data "Mawr". Mae ein gradd mewn Gwyddor Data yn fan cychwyn delfrydol i weithio yn y maes hwn. Byddwch yn mwynhau addysgu sy'n cael ei arwain gan ymchwil mewn amgylchedd meithringar sy'n hybu dyfeisgarwch a meddwl "y tu allan i'r bocs" i fynd i'r afael â'r galw cynyddol o ran data.

Mae'r cwrs gradd hwn hefyd yn cynnwys Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant, er mwyn rhoi'r dechrau i chi yn y farchnad swyddi gystadleuol, gyda'r profiad gwerthfawr y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Gwyddor Data ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Addysgir y cwrs hwn ar y cyd gan yr Adran Gyfrifiadureg a'r Adran Fathemateg. Mae Mathemateg wedi bod yn cael ei addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth ers 1872, sy'n golygu mai dyma'r Brifysgol gyntaf yng Nghymru i addysgu'r pwnc. Mae ein treftadaeth sefydledig ynghyd â'n haddysgu cadarn ar sail ymchwil yn sicrhau profiad arloesol ac ysgogol.
  • Bydd y cyfuniad o'r modiwlau a gyflwynir gan yr adrannau Mathemateg a Chyfrifiadureg yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn namcaniaeth sylfaenol Gwyddor Data, yn ogystal â'r sgiliau ymarferol i gymhwyso'r ddamcaniaeth honno wrth ddadansoddi data'r byd go iawn.
  • Ar ôl cwblhau'r radd hon yn llwyddiannus, bydd modd i chi ddylunio a chynnal dadansoddiad o setiau mawr o ddata a chanfod goblygiadau o'r canlyniadau. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddeall sut y gall data a gaiff ei gasglu gan gwmnïau gael effaith fawr ar eu gweithrediadau.
Ein Staff

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algebra MT10510 10
Calcwlws MT10610 10
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Introduction to Computer Infrastructure CS10220 20
Cyflwyniad i Raglennu CC12020 20
Dadansoddi Mathemategol MT11110 10
Probability MA10310 10
Rhaglennu gan ddefnyddio Iaith Gwrthrych-Gyfeiriadol CC12320 20
Statistics MA11310 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algorithm Design and Data Structures CS21120 20
Applied Statistics MA26620 20
Distributions and Estimation MA26010 10
Introduction to Numerical Analysis and its applications MA25220 20
Algebra Llinol MT21410 10
Modelu Data Parhaus CC27020 20
Peirianneg Meddalwedd CC22120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Sandwich Year CSS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Agile Development and Testing CS31310 10
Linear Statistical Models MA36510 10
Prosiect Hir CC39440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Comparative Statistical Inference MA36010 10
Graffiau a Rhwydweithiau MT32410 10
Graphs and Networks MA32410 10
Probability and Stochastic Processes MA37410 10
Stochastic Models in Finance MA37810 10
Topics in Biological Statistics MA35210 10

Gyrfaoedd

Rhagolygon Gyrfaol

Mae prinder Gwyddonwyr Data medrus, sy'n golygu bod galw am raddedigion yn y maes hwn! Mae un astudiaeth yn amcangyfrif y bydd angen tua 200,000 o Wyddonwyr Data.

Disgrifiodd cylchgrawn Forbes swydd Gwyddonydd Data fel "swydd fwyaf rhywiol yr unfed ganrif ar hugain."

Rôl Gwyddonydd Data yw canfod a dehongli patrymau mewn data mawr, ac mae angen dealltwriaeth ardderchog o ystadegau a sgiliau cyfrifiadura da arnynt. 

Mae ein graddedigion wedi dod o hyd i waith gyda chyflogwyr fel:

  • IBM
  • HP
  • Gloversure
  • Labordai Morol Plymouth
  • CERN
  • Walt Disney
  • Pencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU (GCHQ) 

Sgiliau trosglwyddadwy:

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, cewch gyfle i gymryd rhan mewn penwythnos o weithgareddau yn Neuadd Gregynog ger y Drenewydd. Bydd y penwythnos preswyl yn canolbwyntio ar:

  • Weithgareddau grŵp
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Rheoli amser yn dda 
  • Meddwl yn greadigol 

Eich blwyddyn mewn diwydiant:

Yn ôl adroddiad Highflyers 2016, mae 32% o swyddi gwag i raddedigion yn cael eu cymryd gan y rhai sydd wedi gweithio'n flaenorol i gwmni ar leoliad neu/a interniaeth. Byddwch yn magu hyder, a bydd ennill profiad yn y diwydiant yn ysgogi eich brwdfrydedd am y pwnc.

Bydd cwblhau blwyddyn mewn diwydiant yn eich galluogi:

  • i gymhwyso'r dysg o'ch cwrs i'r amgylchedd gwaith
  • i wneud cysylltiadau yn y diwydiant
  • i ddatblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio
  • i gymhwyso eich sgiliau ymarferol a'ch gwybodaeth dechnegol ar ôl dychwelyd i astudio
  • i wella eich CV a pharatoi eich hun yn well am swydd ar ôl graddio.

Dylai myfyrwyr ar y cynllun hwn nodi nad oes gan yr athrofa leoliadau awtomatig ar gyfer pob ymgeisydd. Chi fydd yn gyfrifol am ddod o hyd i'r profiad gwaith. Fodd bynnag, bydd Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd ein athrofa yn gallu eich cynorthwyo. Os na fyddwch yn dod o hyd i brofiad gwaith, bydd modd i chi drosi eich cwrs yn fersiwn tair blynedd o'r pwnc yn lle.

Mae'r adran yn cefnogi myfyrwyr sy'n chwilio am waith gwirfoddol, yn enwedig yn addysgu mathemateg ym mhob sector. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan yr adran. 

Fel myfyriwr yma, byddwch yn gallu manteisio ar y gwahanol gyfleoedd sy'n bodoli, megis GwaithAber, AberYmlaen, BMG a GO Wales.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

  • Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cyfuno modiwlau mewn rhaglennu a meddalwedd gyda mathemateg ac ystadegau sylfaenol.
  • Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn ehangu'ch gwybodaeth am ystadegau ar y cyd â dadansoddi data a chronfeydd data.
  • Yn y drydedd flwyddyn, gyda chymorth staff y Brifysgol, byddwch yn dewis ac yn ymgymryd â'ch lleoliad gwaith. 
  • Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn dod â'ch astudiaeth ynghyd mewn prosiect unigol mawr, gan ymdrin â phroblem dadansoddi data realistig, yn ogystal â modiwlau craidd a dewisol mewn ystadegau a chyfrifiadura.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

  • Byddwch yn cael eich addysgu gan staff brwdfrydig drwy gyfres o ddulliau ac ymagweddau dysgu ac addysgu, sy'n amrywio o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau ffurfiol i waith ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp.
  • Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, ymarferion, prosiectau, gweithdai ac arholiadau.
  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau yn y dyfodol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Mathemateg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM gyda B Safon Uwch Mathemateg

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 gyda 5 pwynt mewn Mathemateg ar lefel uwch

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol gyda 7 mewn Mathemateg

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|