Gwyddor Data
BSc Gwyddor Data Cod 7G73
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
7G73-
Tariff UCAS
104 - 120
-
Hyd y Cwrs
3 Blwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
50%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrGwyddor Data ym Mhrifysgol Aberystwyth. A oes gennych ddiddordeb yn y ffordd rydym yn gwneud synnwyr o'r terabeitiau o wybodaeth mae ein cyfrifiaduron yn eu casglu bob dydd? Ydych chi am ennill y sgiliau i ragfynegi beth fydd pobl yn ei brynu? Neu ble mae angen i ni roi rhagor o adnoddau ar gyfer effeithlonrwydd a threfniadaeth?
Mae galw cynyddol am bobl sy'n gallu dadansoddi a gwneud synnwyr o'r data sydd bellach ar gael, yn enwedig Data "Mawr". Mae ein gradd mewn Gwyddor Data yn fan cychwyn delfrydol i weithio yn y maes hwn. Byddwch yn mwynhau addysgu sy'n cael ei arwain gan ymchwil mewn amgylchedd meithringar sy'n hybu dyfeisgarwch a meddwl "y tu allan i'r bocs" i fynd i'r afael â'r galw cynyddol o ran data.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
92% boddhad cyffredinol yn yr Adran Fathemateg (ACF 2020).
2ail yn y DU am Ansawdd y Dysgu ym maes Mathemateg, a 5ed yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
96% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Mathemategol yn genedlaethol. (HESA 2018*)
90% o’r myfyrwyr ym maes Cyfrifiadureg wedi cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda; 83% yw'r cyfartaledd i'r sector (ACF 2020).
Ymhlith y 15 uchaf yn y DU am Ragolygon Graddedigion (canlyniadau cyflogaeth) ym maes Cyfrifiadureg (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 8% yn uwch na graddedigion Cyfrifiadureg yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Modiwlau
Cyflogadwyedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 104 - 120
Lefel A BBB-BCC to include B in Mathematics
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with B in A level Mathematics
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Mathematics at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Mathematics
Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk
|