BSc

Marchnata Digidol

Trwy ddewis astudio’r radd Marchnata Digidol yn Ysgol Fusnes Aberystwyth byddwch yn sicrhau eich bod yn magu’r sgiliau diweddaraf mewn disgyblaethau megis Caffael Cwsmeriaid, Dadansoddi, Strategaeth eFasnach, Datblygu Digidol (yn cynnwys gwefannau, apiau, amgylcheddau cyfryngau cymdeithasol), Marchnata Cynnwys a Rheoli’r Berthynas â Chwsmeriaid yn Ddigidol.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r radd Marchnata Digidol yn Ysgol Fusnes Aberystwyth yn sicrhau bod gennych ddealltwriaeth lawn o’r modelau, y fframweithiau a’r methodolegau allweddol sy’n rhan gynhenid o’r ddisgyblaeth hon, ac mae’n eich galluogi i ddeall a chyfuno eich gwaith dysgu fel ei fod yn berthnasol i ystyriaethau a heriau cyfoes y ddisgyblaeth. Erbyn ichi orffen eich gradd, byddwch wedi eich arfogi â’r sgiliau a’r cymwyseddau y mae cyflogwyr heddiw yn edrych amdanynt, a byddwch mewn sefyllfa dda i ddatblygu’ch gyrfa.

Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth wedi’i hachredu yn ganolfan Porth Graddedigion y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM).

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Marchnata Digidol yn Aberystwyth:

  • cael eich dysgu gan ddarlithwyr sy’n brofiadol yn academaidd ac fel ymarferwyr yn y diwydiant, ac sy’n ymwybodol o’r galw am raddedigion sydd â sgiliau technegol ac sy’n deall y farchnad
  • archwilio’r technolegau y mae’r byd busnes yn eu defnyddio, a rhoi atebion busnes ar waith mewn modd effeithiol
  • gallu astudio am gymhwyster CIM tra’n dilyn y cwrs gradd, neu gael eithriad o rai modiwlau CIM.


Ein Staff

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20
Understanding the Economy AB13120 20
Hanfodion Datblygu'r We CC11010 10
Diogelwch Gwybodaeth CC11110 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Programming for the Web CS25320 20
Web Design and the User Experience CS22620 20
Applied Brand Management AB27420 20
Consumer and Buyer Behaviour * AB27220 20
Marketing Management * AB27120 20
Research Methods * AB25320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Digital Marketing AB37220 20
Traethawd Estynedig CB35540 40
Global Marketing AB37320 20
Marketing and Digital Marketing Communication AB37120 20
Strategic Leadership AB35120 20

Gyrfaoedd

Bydd y radd BSc Marchnata Digidol yn datblygu’r sgiliau a werthfawrogir gan gyflogwyr, yn cynnwys meddwl mewn modd arloesol, datrys problemau yn greadigol, defnyddio dulliau arbrofol, gweithio fel tîm, a chanolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae Marchnatwyr Digidol yn arloesi ac yn dylanwadu ar fusnes mewn amrywiaeth o ffyrdd ac mae’r cyfleoedd ar ddechrau gyrfa i raddedigion Marchnata yn parhau’n amrywiol ac yn fuddiol yn ariannol. Yn ddiweddar mae ein graddedigion wedi cael swyddi gydag Acorn Digital (Shanghai), TravelPerk (Barcelona), Next, The Drum (Llundain), McGregor Boyall (Manceinion), Reckitt Benckiser, EE, ac Aegis Network (Llundain)

Dysgu ac Addysgu

Dyma’r modiwlau y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes/Marketing Principles and Contemporary Practice
  • Web Design
  • Information Security
  • Data Analytics
  • Hanfodion Rheolaeth a Busnes/Fundamentals of Management and Business
  • Understanding the Economy
  • Hanfodion Cyfrifeg a Chyllid/Fundamentals of Accounting and Finance.

Yr ail flwyddyn:

  • Web Design and the User Experience
  • Programming for the Web
  • Ymddygiad Defnyddwyr a Phrynwyr/Consumer and Buyer Behaviour
  • Applied Brand Management
  • Digital Research Methods
  • Rheolaeth Marchnata/Marketing Management.

Y flwyddyn olaf:

  • Digital Marketing (Strategy)
  • Digital Marketing Communications
  • Digital Analytics
  • Traethawd Hir Marchnata Digidol/Digital Marketing Dissertation
  • Arweinyddiaeth Strategol/Strategic Leadership.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|