Drama a Theatr / Cysylltiadau Rhyngwladol
BA Drama a Theatr / Cysylltiadau Rhyngwladol Cod 42WL Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
42WL-
Tariff UCAS
120 - 96
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
47%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrBydd astudio Drama a Theatr / Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn caniatáu i chi archwilio'r ffurfiau hanesyddol a sefydledig sydd wedi llunio drama, theatr a pherfformiad ynghyd â disgyblaeth a fydd yn eich cynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o wleidyddiaeth fyd-eang. Bydd cyfuno'r pynciau hyn yn rhoi'r cyfle ichi edrych ar theatr o safbwynt rhyngwladol ac i gyfoethogi'ch dealltwriaeth o faes cysylltiadau rhyngwladol o safbwynt ddiwylliannol.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn archwilio ystod eang o arferion a ffurfiau beirniadol a chreadigol, ac yn datblygu eich gallu fel ysgolhaig, meddyliwr a gwneuthurwr theatr annibynnol. Byddwch yn gallu defnyddio eich brwdfrydedd dros Theatr i fynd i'r afael â heriau byd-eang y cyfnod sydd ohoni. Mae gan Theatr y pŵer i ofyn cwestiynau ac i herio syniadau a chredoau. Mae'n ein helpu i feddwl am sut yr ydym yn byw, sut mae ein gweithredoedd ni'n effeithio ar eraill, ein heffaith ar y byd a sut y gallwn wneud newidiadau er gwell. Drwy astudio Cysylltiadau Rhyngwladol, byddwch yn dysgu sut i wynebu problemau o sawl safbwynt a sut i feddwl yn greadigol a chroesawu syniadau newydd. Ymunwch â ni yn Aberystwyth a rhowch gyfle i staff a myfyrwyr yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, a'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol eich ysbrydoli i ddatblygu'n berson sy'n meddwl mewn modd annibynnol a chreadigol.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Y Tu ôl i'r Penawdau | GW12620 | 20 |
Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 1: Cysyniadau Canolog a Sgiliau Craidd | GW12420 | 20 |
Theatre in Context 1 | TP11020 | 20 |
Theatre in Context 2 | TP11320 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Globaleiddio a Datblygiad Byd-eang | GW12520 | 20 |
Globalization and Global Development | IP12520 | 20 |
Gwleidyddiaeth yn yr Unfed Ganrif ar Hugain | GW12920 | 20 |
Gwleidyddiaeth yn yr Unfed Ganrif ar Hugain | GW12920 | 20 |
Site-Specific Performance Project | TP11420 | 20 |
Studio Theatre Project | TP11120 | 20 |
The Making of the Modern World: War Peace and Revolution since 1789 | IP12820 | 20 |
War, Strategy and Intelligence | IP10320 | 20 |
Body, Voice, Expression. | TP10220 | 20 |
Body, Voice, Perception | TP10120 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
International Relations: Perspectives and Debates | IP20120 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|
Opsiynau
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Tystiolaeth Myfyrwyr
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 96
Safon Uwch BBB-CCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|