BA

Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar

BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar Cod X322 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Gyda thros 700 o oriau o ymarfer mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar, diben y radd hon yw eich helpu i ddod yn berson graddedig medrus a chyflogadwy. Gwneir hyn trwy ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth, a sgiliau ymarferol.

Bydd astudio yn y Brifysgol yn creu cefndir academaidd i'ch profiadau ar leoliad, lle byddwch yn gweithio mewn tîm gyda staff i ofalu am ac addysgu plant ifanc. Yn ogystal â'ch profiadau ar leoliad, byddwch yn cael cyfle i ymgysylltu â phartneriaid proffesiynol a rhannu arfer da. Mae'r dull cydweithredol hwn yn sicrhau eich bod yn dysgu gan weithwyr proffesiynol blaenllaw yn y maes, gan wella eich ymarfer addysgeg a'ch datblygiad proffesiynol. Yn y flwyddyn gyntaf, mae'r lleoliadau hyn yn arsylwadol, ac yn yr ail a'r drydedd flwyddyn, caiff y lleoliadau hyn eu hasesu.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar ym Prifysgol Aberystwyth?

  • Mae'r Ysgol Addysg wedi bod yn cynnig rhaglenni astudio ysgogol ac arloesol am dros gan mlynedd.
  • Mae ein hymchwil yn bwydo i mewn i'n dysgu sy'n golygu y byddwch chi'n elwa o'r wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf yn y pwnc, ac yn cael cyfle i ystyried y materion allweddol mewn modd beirniadol.
  • Bydd y BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar yn eich galluogi i ennill cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn rhan annatod o'ch gradd.
  • Byddwch yn dysgu am y rôl hanfodol y mae'n rhaid i ymarferwyr ei chwarae ym mlynyddoedd cynnar plant a sut i weithio'n effeithiol yn y rôl hon.
  • Byddwch yn cael cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o'r wybodaeth gymhleth sy'n gysylltiedig â datblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar.
  • Byddwch yn myfyrio'n feirniadol ac yn rheoli eich dysgu a'ch perfformiad eich hun.
  • Byddwch yn meithrin sgiliau cyflogadwyedd a'r priodoleddau a'r gwerthoedd personol sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, hyfforddiant neu addysg bellach.
Ein Staff

Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Datblygiad a Dysgu Plant AD14520 20
Health and Wellbeing in the Early Years ED14620 20
Key Skills for University ED13620 20
Language Development ED14320 20
Partneriaethau - Egwyddorion ac Ymarfer AD14420 20
Play and Learning:Theory and Practice ED13720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Education, Diversity and Equality ED20420 20
Literacy in Young Children ED20220 20
Safeguarding and Professional Practice ED24320 20
Lleoliad Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar Blwyddyn 2 AD25860 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Communication ED34720 20
Emotional and Social Development ED34820 20
Mathematical Development in the Early Years ED30320 20
Lleoliad Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar Blwyddyn 3 AD35860 60

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Er mwyn gallu astudio rhai modiwlau ar gyfer y radd hon, mae’n bosibl y bydd angen gwiriad uwch gan y DBS (Datgelu a Gwahardd) drwy’r Ysgol Addysg am gost o £40. Mewn rhai amgylchiadau, gall y gost fod yn uwch, yn enwedig os ydych wedi byw y tu allan i'r DU am gyfnod.

Gyrfaoedd

Mae cyflawni’r radd hon yn llwyddiannus yn arwain at ‘Statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar’. Golyga hyn y bydd gennych radd sy’n eich galluogi i fod yn ymarferydd proffesiynol mewn lleoliad gwaith y blynyddoedd cynnar (yn amodol ar gymwysterau llythrennedd a rhifedd perthnasol).

Mae eraill yn dilyn y Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR).

Mae’r radd hon hefyd yn addas i’r rhai sy’n dymuno ymuno â’r proffesiwn gwaith cymdeithasol neu’r maes therapi addysgol.

Dysgu ac Addysgu

Sut fydda i'n ei ddysgu?

Yn yr Ysgol Addysg, rydym yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu:

  • Mae darlithoedd mewn grwpiau mwy yn eich galluogi i gael gwybodaeth amlinellol o'r syniadau a'r cysyniadau sy'n gysylltiedig â phob modiwl. Fe'ch anogir i drafod pwyntiau allweddol gyda'ch cyd-fyfyrwyr, i ateb cwestiynau ac i ddatblygu eich barn ac atgyfnerthu eich dysgu. Mae recordiadau o'n holl ddarlithoedd ar gael cyhyd â'ch bod wedi cofrestru ar y cwrs yn Aberystwyth.
  • Mae seminarau mewn grwpiau llai yn cynnwys gweithio’n fanylach ar agweddau penodol ar fodiwlau. Gall y rhain gynnwys cymhwyso syniadau o ddarlithoedd yn fwy ymarferol neu ddadansoddiad manwl o ddarnau ymchwil neu ddarlleniadau eraill.
  • Mae'r gweithdai yn ymarferol. Gosodir tasgau sy'n cynnwys gwaith grŵp a gwaith unigol ar bynciau megis ymarfer proffesiynol. Weithiau mae'r rhain hefyd yn cynnwys siaradwyr gwadd. Mae datblygiadau arloesol diweddar yn cynnwys defnyddio clustffonau Realiti Rhithwir i ddod â'ch dysgu'n fyw. 
  • Lleoliadau - Byddwch yn ymgymryd â 700 awr o leoliadau mewn lleoliadau meithrin yn ardal Aberystwyth er mwyn meithrin sgiliau proffesiynol. Oherwydd elfen ymarferol y cwrs, bydd angen gwiriad DBS uwch arnoch y bydd angen i chi dalu amdano. Mae'n bosib hefyd y bydd costau teithio o fewn ardal Aberystwyth. 

Beth fydda i’n ei astudio?

Ym mhob blwyddyn, mae modiwlau yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn agweddau hanfodol ar Astudiaethau Plentyndod Cynnar, er enghraifft:

  • Blwyddyn 1, Mae’r modiwlau'n ymdrin â phynciau megis sut mae plant ifanc yn dysgu, pwysigrwydd iechyd a lles yn y blynyddoedd cynnar a dysgu trwy chwarae. Byddwch hefyd yn cynnal sesiynau sy'n ymwneud ag ymarfer proffesiynol mewn lleoliad blynyddoedd cynnar.
  • Blwyddyn 2, byddwch yn ystyried pwysigrwydd datblygu llythrennedd, gwaith amlasiantaethol a diogelu plant ifanc. Mae Blwyddyn 2 hefyd yn cynnwys cyfle am leoliad helaeth.
  • Blwyddyn 3, byddwch unwaith eto yn datblygu eich sgiliau ymarferol drwy leoliad. Byddwch yn ystyried pwysigrwydd datblygiad cymdeithasol ac emosiynol ac yn edrych ar ba mor allweddol yw cyfathrebu i bawb sy'n ymwneud â dysgu a datblygiad plant ifanc.

Sut y caiff fy ngwaith ei asesu?

Bydd amrywiaeth o dechnegau asesu yn eich galluogi i fanteisio ar eich cryfderau.

Caiff rhai modiwlau eu hasesu trwy draethodau, ond gallwch hefyd gwblhau prosiectau, ymarferion llyfryddiaethol, dyddiaduron myfyriol, posteri, a chyflwyniadau. Yn ystod eich lleoliadau, byddwch yn cadw ffolder o dystiolaeth i ddangos bod gennych y sgiliau i weithio fel ymarferydd blynyddoedd cynnar.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|