BSc Ecoleg Cod C180
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
C180-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y Cwrs
3 Blwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
41%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrMae Ecoleg yn canolbwyntio ar y rhyngweithiadau rhwng organebau a'u hamgylchedd. Mae gwybodaeth am y rhyngweithiadau hyn yn sail i'n dealltwriaeth o sut y bydd bywyd gwyllt yn ymateb i fygythiadau amgylcheddol presennol ac yn y dyfodol, gan gynnwys llygredd, newid yn yr hinsawdd, rhywogaethau goresgynnol a dinistrio cynefinoedd. Ein cenhadaeth yw hyfforddi'r genhedlaeth nesaf a fydd yn ymateb i'r problemau hyn, gan nodi atebion a diogelu bioamrywiaeth yn y dyfodol.
Aberystwyth yw'r lle i astudio Ecoleg oherwydd:
- bod gennym staff addysgu angerddol sy'n cynnal ymchwil ym mhob maes ecoleg ac mewn gwahanol rannau o'r byd;
- ein bod yn canolbwyntio ar sgiliau maes a dysgu drwy brofiad;
- bod gennym fynediad uniongyrchol i leoliadau a chynefinoedd gwych, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, a Pharciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog;
- cyrsiau maes a chyfleoedd hyfforddi rhyngwladol.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
95% o’r myfyrwyr yn cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020).
Ymhlith y 15 uchaf yn y DU am Ansawdd y Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym maes y Gwyddorau Biolegol (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Modiwlau
Cyflogadwyedd
Dysgu ac Addysgu
Barn ein Myfyrwyr
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Lefel A BBB-BCC with B in Biology
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM in Applied Science. Alternative biology based Level 3 courses may be considered.
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology
Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk
|