BSc

Ecoleg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Ecoleg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod C181 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Yn sgil yr angen brys i gofnodi, deall ac, yn y pen draw, atal dirywiad bioamrywiaeth, ceir galw mawr am ecolegwyr. Nod y radd hon yw rhoi ichi’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol er mwyn diwallu’r galw hwn. 

Ar ein gradd Ecoleg byddwch yn astudio’r rhyngweithio rhwng organebau a’u hamgylchedd, gan greu’r sylfaen hanfodol er mwyn datblygu eich dealltwriaeth o sut y bydd bywyd gwyllt yn ymateb i fygythiadau amgylcheddol yn awr ac yn y dyfodol, gan gynnwys llygredd, newid yn yr hinsawdd, rhywogaethau ymledol, a dinistrio cynefinoedd.

Ein nod ar y radd hon yw eich hyfforddi i fod yn rhan o’r genhedlaeth nesaf o ecolegwyr a fydd yn ymateb i fygythiadau amgylcheddol, yn canfod atebion, ac yn helpu i gynnal bioamrywiaeth i’r dyfodol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ecoleg yn Aberystwyth?

  • Yn Aberystwyth byddwch yn astudio mewn ardal a chanddi gyfoeth o dirweddau trawiadol amrywiol. Mae’n darparu cyfleoedd gwaith maes rhagorol mewn cynefinoedd ac ecosystemau naturiol a lled-naturiol, gan gynnwys arfordir Bae Ceredigion, amgylcheddau dŵr croyw, coetiroedd, rhostiroedd, gweundir a chynefinoedd alpaidd. Mae llawer o warchodfeydd natur o fewn cyrraedd hwylus, gan gynnwys Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog. 
  • Mae gwaith maes a dosbarthiadau ymarferol yn rhan annatod o'r cwrs trwyddo draw, a byddwch yn gwneud gwaith maes lleol gan ddefnyddio cyfoeth o gynefinoedd lleol.
  • Mae ein staff dysgu yn cynnal ymchwil ym mhob maes o ecoleg ac mewn gwahanol rannau o'r byd. Rydym wedi sefydlu cysylltiadau ag Ymddiriedolaeth Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prydain, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yr RSPB ac amrywiol ymddiriedolaethau bywyd gwyllt a choetiroedd. 
  • Mae'r elfen a ddysgir o'r radd Ecoleg gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant (C181) yn union yr un fath â’r BSc Ecoleg (C180). Mae’r drydedd flwyddyn yn cael ei threulio yn gweithio ym myd diwydiant, yn y DU neu dramor. Mae’n cael ei goruchwylio a’i hasesu, a bydd yn cyfrif tuag at eich gradd derfynol. Yn ystod eich blwyddyn mewn diwydiant, byddwch yn talu ffi ddysgu ostyngedig. 
Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Climate and Climate Change BR16620 20
Comparative Animal Physiology BR16720 20
Ecoleg a Chadwraeth BG19320 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Sgiliau ar gyfer Gwyddonwyr Bywyd Gwyllt BG15720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An Introduction to Landscape Ecology and Geographic Information Systems BR25520 20
Climate Change: Plants, Animals and Ecosystems BR21120 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Wildlife Surveying BR29620 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Monitro a Microbioleg Amgylcheddol BG26020 20
Freshwater Biology BR22020 20
Invertebrate Zoology BR25420 20
Marine Biology BR22620 20
Monitro a Microbioleg Amgylcheddol BG26020 20
Pynciau llosg yn y Biowyddorau BG21720 20
Vertebrate Zoology BR26820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Environmental Regulation and Consultancy BR35620 20
Population and Community Ecology BR33920 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advances in Crop and Grassland Production BR37220 20
Behavioural Neurobiology BR35320 20
Cwrs Maes Ecoleg Ddaearol BG36620 20
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
Sustainable Land Management BR30420 20
Terrestrial Ecology Fieldcourse BR36620 20
Wildlife Conservation BR34520 20

Gyrfaoedd

Mae llawer o’n graddedigion Ecoleg yn canfod swyddi ym maes cadwraeth a diogelu’r amgylchedd, neu mewn addysg amgylcheddol mewn ysgolion, colegau neu warchodfeydd natur. Mae rhai o’n graddedigion wedi sicrhau cyflogaeth mewn sefydliadau fel DEFRA, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Comisiwn Coedwigaeth, Natural England, ADAS, ymddiriedolaethau bywyd gwyllt, Cyswllt Amgylchedd Cymru, y Grid Cenedlaethol ac awdurdodau dŵr.

Sut bydd fy ngradd yn fy mharatoi ar gyfer y dyfodol?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu. Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth gyda'r sgiliau canlynol: 

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Ar ôl cwblhau blwyddyn mewn diwydiant byddwch yn gallu: 

  • defnyddio’r hyn a ddysgwch ar eich cwrs ym myd gwaith 
  • gwneud cysylltiadau gwerthfawr yn y diwydiant 
  • datblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio 
  • cyfoethogi blwyddyn olaf eich astudiaethau am eich bod yn sylweddoli’n well sut i’w chymhwyso i'ch gyrfa 
  • cyfoethogi eich CV yn sylweddol a chynyddu eich rhagolygon o lwyddiant yn y farchnad swyddi.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn trin a thrafod amrywiaeth anhygoel bywyd ar y Ddaear. Fe’ch cyflwynir i elfennau sylfaenol ac amserol ecoleg a byddwch yn ystyried heriau'r dyfodol megis ymateb i’r hinsawdd fyd-eang a gwarchod bioamrywiaeth. Byddwch yn dysgu am bwysigrwydd gwarchod bioamrywiaeth ar wahanol raddfeydd, o amrywiaeth geneteg i fiomau ac ecosystemau, a byddwch yn edrych ar yr wyddoniaeth sy'n sail i'r hinsawdd a newid yn yr hinsawdd. Byddwch yn astudio fflora tir a chynefinoedd ym Mhrydain ac yn meithrin y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol a fydd yn sail i yrfaoedd mewn arolygu neu reoli ecolegol. 

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn ystyried cynefinoedd, tirweddau a’r cymunedau o rywogaethau sy'n byw ynddynt, ac yn meithrin y sgiliau ymarferol sy'n ofynnol i ecolegwyr proffesiynol heddiw. Byddwch yn cael sylfaen drylwyr wrth ddefnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) i ymdrin â phatrymau dosbarthu gofodol cynefinoedd a deall eu goblygiadau ecolegol. Byddwch yn gwneud ymchwil pellach i effaith newid yn yr hinsawdd fel un o’r prif heriau i fioamrywiaeth fyd-eang yn y dyfodol; a thrwy deithiau maes a dosbarthiadau ymarferol byddwch yn defnyddio’r hyn rydych wedi ei ddysgu er mwyn mynd i’r afael â phroblemau a dod o hyd i atebion. Ceir modiwlau dewisol mewn bioleg ddyfrol, sŵoleg a microbioleg amgylcheddol a fydd yn eich galluogi i arbenigo mewn meysydd penodol, a chewch gyfle i ymweld â rhai o fannau allweddol bioamrywiaeth y byd trwy ddilyn cwrs maes trofannol dewisol. 

Yn y drydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch lleoliad profiad gwaith ecolegol. Gallwch ymgymryd â rhywfaint neu'r cyfan o'ch blwyddyn mewn diwydiant yn gweithio dramor.

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn edrych ar bynciau diogelu'r amgylchedd a chynaliadwyedd ac yn ystyried y ddeddfwriaeth a'r egwyddorion sy'n llywodraethu rheoleiddio'r amgylchedd yn y DU, gan gynnwys Asesu Effeithiau ar yr Amgylchedd (AEA). Byddwch yn ymdrin ag ecoleg poblogaethau a chymunedau a bydd prosiect ymchwil gorfodol yn rhoi cyfle i chi i wneud ymchwil fanwl o dan arweiniad arolygydd.  Gall eich prosiect fod yn seiliedig ar arbrofion yn y labordy neu ymarferion gwaith maes, a chynnwys ymarferion modelu cyfrifiadurol neu ddadansoddi data. Byddwch hefyd yn dilyn modiwlau dewisol o’r ddetholiad sydd ar gael, sy’n cynnwys cadwraeth bywyd gwyllt, astudio effeithiau mathau o systemau amaethyddol ar yr amgylchedd gan gynnwys amaethyddiaeth ddwys, eang ac organig a mathau eraill, cadwraeth bioamrywiaeth fyd-eang, ac amrywiaeth o effeithiau anthropogenig ar y biosffer, gan gynnwys llygredd, newid yn yr hinsawdd a gor-ecsbloetio adnoddau. Byddwch hefyd yn cael cyfle i fynd ar gyrsiau maes, gan gynnwys taith astudio ecoleg coedwigoedd glaw trofannol. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng darlithoedd, gweithdai a sesiynau tiwtora, seminarau, cyrsiau maes a sesiynau ymarferol.  

Asesu 

Cewch eich asesu trwy draethodau, gweithgareddau ymarferol, cyflwyniadau llafar, taflenni gwaith, adroddiadau ar arbrofion, cynlluniau cadwraeth, ymarferion ystadegol, posteri, wicis, adolygiadau o destunau perthnasol, llyfr nodiadau maes ac arholiadau. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Pippa - BSc Ecology

"Mae'r cwrs Ecoleg yn Aberystwyth wedi rhoi set dda o sgiliau i mi y gallaf eu defnyddio a'u cymhwyso i'm swydd bresennol. Mae'r gwaith maes sydd yn llawer o fodiwlau'r cynllun gradd Ecoleg wedi sicrhau bod gen i brofiad o weithio mewn amgylcheddau awyr agored, sy'n angenrheidiol ar gyfer llawer o yrfaoedd ym maes ecoleg."

Alex - BSc Ecology

"Rwy'n falch iawn fy mod wedi dewis y cynllun gradd hwn. Cynnwys diddorol drwyddo draw, cefnogaeth wych gan y darlithwyr, ac adborth cynhwysfawr. Dewis gwych, ddim yn difaru dim."

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|