BSc

Economeg a Newid Hinsawdd

Gall economeg chwarae rhan allweddol wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd trwy roi dealltwriaeth o strwythurau cymell defnyddwyr a chwmnïau, gan esbonio sut a pham y gallai llywodraethau ymyrryd â marchnadoedd economaidd er mwyn cyflwyno polisïau a sefydliadau sy’n ystyriol o’r hinsawdd. Bydd astudio Economeg a Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gychwyn ar daith lawn boddhad o gael effaith gadarnhaol ar eich byd ac yn eich paratoi i ddod yn arweinwyr y dyfodol yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Economeg a Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Trwy astudio economeg, byddwch yn magu dealltwriaeth o fethiannau marchnadoedd ‘confensiynol’ i fynd i’r afael yn effeithiol â newid hinsawdd. Gan ddefnyddio isddisgyblaethau economeg amgylcheddol ac ecolegol, bydd myfyrwyr yn datblygu gwerthfawrogiad o sut y gellir datblygu polisïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol er mwyn darparu cymhellion megis cynlluniau masnachu carbon a threthi i ostwng allyriadau.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn cyfuno gwybodaeth am y wyddoniaeth sy’n sail i newid hinsawdd ac ystod eang o arfau economaidd a fydd yn 

eich galluogi i ddeall a datblygu polisïau a chymhellion sy’n cefnogi’r trawsnewid i fod yn economi sy’n niwtral o ran carbon. Byddwch yn archwilio ffyrdd creadigol o ddatblygu polisïau i ymateb i her a chyfleoedd yr argyfwng hinsawdd sy’n ein wynebu ar hyn o bryd. Bydd y cwrs hefyd yn rhoi ichi wybodaeth bwnc-benodol berthnasol ynghyd â sgiliau rhyngbersonol a rhyngddisgyblaethol a’r priodoleddau angenrheidiol i greu byd mwy cyfiawn a chynaliadwy.  

Ein Staff

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Economic Theory and Policy AB13220 20
Understanding the Economy AB13120 20
Climate and Climate Change BR16620 20
Interdisciplinary Approaches to Climate Change EN19920 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Fundamentals of Accounting and Finance AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Hanfodion Cyfrifeg a Chyllid CB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Traethawd Estynedig CB35540 40
Environmental Economics AB33220 20
Growth, Development and Sustainability AB33420 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Issues in Economics and Policy AB33120 20
Crisis Writing WR31820 20
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
History of Economic Thought AB33320 20
Population and Community Ecology BR33920 20

Gyrfaoedd

Ar ôl graddio, byddwch mewn sefyllfa dda i ddilyn gyrfa ym maes newid yn yr hinsawdd - ei reoli, ei addasu, a’i liniaru - yn y DU a thramor. Byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer gyrfaoedd mewn meysydd megis addysg amgylcheddol ac ymgynghori neu gadwraeth.

Dysgu ac Addysgu

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg, Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|