BSc

Economeg / Busnes a Rheolaeth

Economeg / Busnes a Rheolaeth Cod L1N1 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Mae byd menter yn ymaddasu ac yn esblygu'n gyson. Mae’r gwahaniaeth rhwng cwmnïau’n llwyddo neu’n methu yn gallu dibynnu ar effeithiau a newidiadau yn yr amgylchedd busnes sy’n deillio o ddigwyddiadau economaidd, newidiadau mewn arferion cyfrifeg, newidiadau yn yr amgylchedd rheoleiddiol a chyfreithiol, penderfyniadau marchnata, a datblygu strategaethau busnes. 

Yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, mae Economeg yn edrych ar ddewisiadau pobl ac effaith dewisiadau ar gynhyrchu, dosbarthu a defnyddio adnoddau. Mae micro-economeg yn ymdrin â dewis ar lefel yr unigolyn ac mae macro-economeg yn dadansoddi'r economi yn ei chyfanrwydd. Yn Aberystwyth, drwy gyfuno Economeg â Busnes a Rheoli rydym yn canolbwyntio ar roi syniadau, gwybodaeth a dulliau economaidd ar waith yn ymarferol yng nghyd-destun sefyllfaoedd penderfynu proffesiynol. Yn ogystal, byddwch hefyd yn datblygu’ch gwybodaeth am elfennau hanfodol, gan gynnwys adnoddau dynol, rheolaeth, ymddygiad sefydliadol, strategaethau busnes, busnes a rheolaeth. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Economeg / Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Cewch eich dysgu yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, adran arloesol a deinamig.
  • Byddwch yn meithrin dealltwriaeth am fyd menter;
  • Dealltwriaeth am effaith newidiadau yn yr amgylchedd busnes e.e. digwyddiadau economaidd.

Meithrin gwybodaeth am y canlynol:

  • Newidiadau mewn arferion cyfrifeg;
  • Newidiadau yn yr amgylchedd rheoleiddiol a chyfreithiol;
  • Penderfyniadau marchnata;
  • Strategaethau busnes.

Ar ôl cwblhau'r cwrs gradd hwn, bydd gennych chi:

  • Ddealltwriaeth eang am reolaeth ymarferol;
  • Gwybodaeth fanwl am fasnach yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat;
  • Gafael gadarn ar gymhlethdod yr heriau sy'n wynebu rheolwyr, ac effaith gyfunol y materion economaidd, ariannol, dynol a chyfreithiol y mae arweinwyr yn ymdrin â hwy
Ein Staff

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Economic Theory and Policy AB13220 20
Fundamentals of Accounting and Finance * AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20
Understanding the Economy AB13120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Human Resource Management * AB25420 20
Macroeconomics: Theory and Policy Applications AB23220 20
Microeconomics Theory and Policy Applications AB23120 20
Operations and Supply Chain Management AB25120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Econometrics AB23420 20
Entrepreneurship and New Venture Creation AB25220 20
Entreprenwriaeth a Chreu Menter Newydd CB25220 20
Managerial Economics AB23320 20
Marketing Management * AB27120 20
Rheolaeth Marchnata CB27120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Issues in Economics and Policy AB33120 20
Financial Strategy AB31720 20
Growth, Development and Sustainability AB33420 20
Strategic Leadership * AB35120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Digital Business: Leadership and Management AB35220 20
Environmental Economics AB33220 20
Global Logistics AB35320 20
History of Economic Thought AB33320 20
Organizational Psychology AB35420 20

Gyrfaoedd

Rhagolygon o ran Gyrfa

Mae gradd mewn Economeg / Busnes a Rheolaeth yn fawr ei bri ymhlith cyflogwyr ac ar gyfartaledd mae'n denu lefelau arbennig o uchel o gyflogau graddedigion. 

Mae ein graddedigion wedi symud ymlaen i'r llwybrau arbenigol hyn:

  • Cyfrifydd Siartredig;
  • Cyfrifydd Ardystiedig Siartredig;
  • Cyfrifydd Rheoli Siartredig;
  • Cyfrifydd Cyllid Cyhoeddus Siartredig;
  • Economegydd;
  • Dadansoddi buddsoddi;
  • Dadansoddwr Risg Ariannol;
  • Actiwari;
  • y Gwasanaeth Sifil;
  • y Gwasanaeth Diplomyddol;
  • Llywodraeth Leol;

Pa sgiliau fydd y radd hon yn eu rhoi i fi?

O astudio am ein gradd mewn Economeg / Busnes a Rheolaeth fe gewch y sgiliau canlynol:

  • Deall ymddygiad a strwythur sefydliadau; 
  • Gwell sgiliau rhifedd a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol;
  • Dealltwriaeth ddofn o’r hyn sy’n achosi newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill, ac o’u heffeithiau;
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar;
  • Datrys problemau’n effeithiol;
  • Sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol;
  • Gwneud penderfyniadau;
  • Gallu gweithio'n annibynnol ac yn aelod o dîm; 
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu;
  • Hunanddibyniaeth a'r gallu i’ch ysgogi eich hun.

Pa gyfleoedd profiad gwaith a geir ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

Dysgwch fwy am y gwahanol gyfleoedd am gyflogaeth y mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf, efallai y byddwch yn dysgu am:

  • Egwyddorion economaidd;
  • Mathemateg ac ystadegaeth economaidd;
  • Egwyddorion sylfaenol rheoli; 
  • Dynameg yr amgylchedd busnes modern; 
  • Defnyddio gwybodaeth ariannol a chyfrifeg mewn penderfyniadau rheoli ar y lefelau gweithredol a strategol;
  • A detholiad o fodiwlau dewisol (gan gynnwys ystadegaeth ar gyfer economegwyr, rheoli cyllid a chyflwyniad i reolaeth). 

Yn eich ail flwyddyn, efallai y byddwch yn edrych ar:

  • Policy implications of economic theory;
  • Goblygiadau damcaniaeth economaidd o ran polisi;
  • Dehongli economaidd;
  • Ymddygiad a damcaniaeth sefydliadol; 
  • Cyflwyniad i econometreg; 
  • Ymddygiad a Systemau Macro-economaidd; 
  • Strwythurau’r farchnad a strategaethau prisio; 
  • Y sgiliau, yr offer dadansoddol a'r technegau i adnabod a mynd i'r afael â phroblemau a chyfleoedd ym maes rheoli a marchnata busnes;
  • Economeg Datblygu. 

Yn eich trydedd flwyddyn, efallai y byddwch yn astudio:

  • Dealltwriaeth greiddiol am ficro-economeg a macro-economeg;
  • Buddsoddiadau ac Offerynnau Ariannol;
  • Strategaethau busnes a sut maent yn gweithredu y mewn a’r tu allan i'r amgylchedd busnes; 
  • Treth;
  • Datblygiad Economeg;
  • Rheoli Adnoddau Dynol; 
  • Dealltwriaeth am y syniadaeth bresennol am reoli, o safbwyntiau ymarferol a damcaniaethol fel ei gilydd;
  • Economeg Llafur a Chysylltiadau Diwydiannol;
  • Polisi Masnach a Masnach Ryngwladol.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Byddwch yn cael eich dysgu drwy ddarlithoedd, seminarau a sesiynau tiwtora mewn grwpiau bach. Ar rai modiwlau bydd gofyn i chi roi cyflwyniadau, gweithio'n effeithiol yn rhan o grŵp a gwneud unrhyw draethodau sy'n ofynnol.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae ein holl fodiwlau yn cael eu rhoi ar-lein fel y gallwch eu hastudio ymhellach yng nghysur eich ystafell eich hun. Mae gennym hefyd gyfoeth o destunau printiedig sydd ar gael yn ein llyfrgell a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae'r cwrs yn cael ei asesu trwy:

  • ⁠Arholiadau;
  • Traethodau wedi'u hasesu;
  • Prosiectau;
  • Cyflwyniadau;
  • Traethawd Hir (rhai modiwlau).

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi ar gyfer eich holl gyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|