Mae’r cwrs BSc Economeg gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Aberystwyth yn canolbwyntio ar y materion economaidd sy’n effeithio ar fywyd bob dydd, gan gynnwys creu swyddi, pwysau chwyddiant, materion yn ymwneud â masnach ryngwladol, proses cystadleuaeth mewn busnes, arloesi a thwf, datblygiad gwledydd y trydydd byd, diogelu adnoddau naturiol a llunio polisi gan y llywodraeth. 

Gydag amrywiaeth eang o fodiwlau i ddewis ohonynt, gallwch ddatblygu a mireinio eich diddordebau. Mae addysgu a arweinir gan ymchwil a chyfleusterau rhagorol yn sicrhau bod gennych yr wybodaeth berthnasol a'r sgiliau trosglwyddadwy i symud ymlaen i'ch gyrfa ddewisol. 

Mae'r flwyddyn sylfaen integredig wedi'i chynllunio ar gyfer darpar fyfyrwyr nad oes ganddynt gefndir academaidd digonol neu berthnasol - mae'n llwybr delfrydol i gael mynediad i'r cynllun poblogaidd hwn. Yn y Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn dysgu am gysyniadau allweddol Economeg o safbwynt rhyngddisgyblaethol. Mae hyn yn rhoi profiad unigryw a golwg feirniadol ichi ar gyfer gwneud y mwyaf o'ch gradd israddedig gyflawn.

Modiwlau Blwyddyn 3 a 4. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Economeg yn Aberystwyth? 

  • Ar ôl y flwyddyn sylfaen, mae maes llafur y cwrs hwn yn union yr un fath â'i chwaer gwrs [Economeg, L100].  
  • Dewch i fod yn fyfyriwr mewn adran sefydledig ar gyfer ymchwil ac ymarfer a chael eich addysgu gan ddarlithwyr arbenigol a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth am egwyddorion economaidd, a dod yn hyderus gydag agweddau technegol a meintiol Economeg fel astudiaeth; 
  • Byddwch yn gwella eich cyfleoedd gyrfa drwy ein partneriaethau â busnes, diwydiant a masnach. 
  • Cewch eich cyfoethogi gan ein siaradwyr gwadd sy'n dod â'u profiad proffesiynol i'r ystafell ddosbarth; 
  • Mae gennym drefniadau gyda llawer o brifysgolion partneriaethol dramor i ddarparu rhaglenni academaidd byr (2 wythnos) i grwpiau bach o fyfyrwyr rheolaeth a busnes (ar sail hunan-ariannu), i'ch galluogi i brofi effaith yr amgylchedd diwylliannol wrth gynnal busnes dramor. Ar hyn o bryd mae gennym brifysgolion partneriaethol yn India, Tsieina, Rwsia, Japan, yr Emiradau Arabaidd Unedig a Brasil ac mae ein portffolio o wledydd yn ehangu'n gyflym. 
Ein Staff

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Understanding the Economy AB13120 20
Economic Theory and Policy AB13220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Econometrics AB23420 20
Macroeconomics: Theory and Policy Applications AB23220 20
Managerial Economics AB23320 20
Microeconomics Theory and Policy Applications AB23120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Issues in Economics and Policy AB33120 20
Environmental Economics AB33220 20
Labour Economics AB33620 20
Trade and International Monetary Systems AB33520 20

Gyrfaoedd

Rhagolygon o ran Gyrfa  

 Mae gradd mewn Economeg yn fawr ei bri ymhlith cyflogwyr ac ar gyfartaledd mae'n denu lefelau arbennig o uchel o gyflogau graddedigion.  

 Mae ein graddedigion wedi symud ymlaen i'r llwybrau arbenigol hyn: 

  •  Cyfrifydd Siartredig; 
  • Cyfrifydd Ardystiedig Siartredig; 
  • Cyfrifydd Rheoli Siartredig; 
  • Cyfrifydd Cyllid Cyhoeddus Siartredig; 
  • Economegydd; 
  • Dadansoddi buddsoddi; 
  • Dadansoddwr Risg Ariannol; 
  • Actiwari; 
  • y Gwasanaeth Sifil; 
  • Y Gwasanaeth Diplomyddol; 
  • Llywodraeth Leol; 

Sgiliau Trosglwyddadwy  

Bydd astudio gradd mewn Economeg yn rhoi’r sgiliau canlynol i chi:  

  • Deall ymddygiad a strwythur sefydliadol; 
  • Sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol; 
  • Dealltwriaeth ddofn o achosion ac effeithiau newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill; 
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar; 
  • Datrys problemau’n effeithiol; 
  • Sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol; 
  • Gwneud penderfyniadau; 
  • gallu gweithio'n annibynnol ac yn aelod o dîm; 
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu; 
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i’ch ysgogi eich hun; 

Pa gyfleoedd profiad gwaith a geir wrth astudio?  

Dysgwch fwy am y cyfleoedd amrywiol y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda  GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.  

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd. 

Yn y flwyddyn sylfaen, cewch gyflwyniad i elfennau craidd Economeg.  

Yn yr ail flwyddyn, mae’n bosibl y byddwch yn darganfod: 

  • Egwyddorion economaidd; 
  • Mathemateg ac ystadegaeth economaidd; 
  • A detholiad o fodiwlau dewisol (gan gynnwys ystadegau ar gyfer economegwyr, rheoli cyllid a chyflwyniad i reolaeth).  

Yn y drydedd flwyddyn, mae’n bosibl y byddwch yn ystyried: 

  •  Goblygiadau polisi damcaniaeth economaidd; 
  • Dehongli economaidd; 
  • Cyflwyniad i econometreg;  
  • Ymddygiad a Systemau Macro-economaidd;  
  • Datblygiad Economeg.  

Yn y flwyddyn olaf, gallech astudio: 

  • Dealltwriaeth graidd am ficro-economeg a macro-economeg; 
  • Buddsoddiadau ac offerynnau ariannol; 
  • Treth; 
  • Datblygiad Economeg; 
  • Economeg Llafur a Chysylltiadau Diwydiannol; 
  • Polisi Masnach a Masnach Ryngwladol. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Byddwch yn cael eich dysgu drwy ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau sydd mewn grwpiau bach.  Ar rai modiwlau bydd gofyn i chi roi cyflwyniadau, gweithio'n effeithiol yn rhan o grŵp ac ymgymryd ag unrhyw draethodau sy'n ofynnol. 

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae ein holl fodiwlau yn cael eu rhoi ar-lein i chi eu hastudio ymhellach yng nghysur eich ystafell. Mae gennym hefyd gyfoeth o destunau printiedig sydd ar gael yn ein llyfrgell a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 

 Mae'r cwrs yn cael ei asesu trwy:  

  • ⁠Arholiadau; 
  • Traethodau wedi'u hasesu; 
  • Prosiectau; 
  • Cyflwyniadau; 
  • Traethawd Hir (rhai modiwlau). 

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo ar eich cyfer trwy gydol eich gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|