BSc

Economeg a Gwleidyddiaeth

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2025

Mae gradd BSc Economeg a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig profiad gwerthfawr gyda heriau deallusol cyffrous gan ddwy adran sydd ag enw da am eu haddysg a’u hymchwil. Trwy gyfuno Economeg â Gwleidyddiaeth cewch ddatblygu dealltwriaeth gadarn am farchnadoedd byd-eang a sut mae pandemigau a thrychinebau naturiol yn effeithio arnynt, a sut mae systemau gwleidyddol yn ymateb a llunio eu hymatebion iddynt. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Economeg a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Cewch eich dysgu gan ymchwilwyr blaenllaw yr Ysgol Fusnes a’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth.
  • Prifysgol Aberystwyth oedd y brifysgol gyntaf yn y byd i sefydlu adran Gwleidyddiaeth. Fe’i sefydlwyd ym 1919 ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf i helpu'r byd i ddeall y byd.
  • Mae Economeg yn astudio sut mae unigolion, cwmnïau, marchnadoedd, llywodraethau a sefydliadau eraill yn cyfuno i gynhyrchu a dosbarthu nwyddau a gwasanaethau er mwyn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir i’r gymdeithas, a pha mor effeithiol ydynt yn hynny o beth.
  • Mae elfen Economeg y radd hon yn cynnig i chi gyfle i astudio sut mae damcaniaeth economaidd yn cael ei chymhwyso a sut mae hynny wedi esblygu, i ystyried materion cyfoes fel sut mae pandemigau fel COVID-19 yn effeithio ar y gymdeithas ar y lefelau domestig a rhyngwladol, yr argyfwng ariannol sy’n deillio ohonynt, a'r atebion a gynigir i leddfu'r effeithiau ar fasnach, globaleiddio, anonestrwydd ac, yn y pen draw, newid yn yr hinsawdd.
  • Mae gwleidyddiaeth yn astudio sut mae cymdeithas yn mynd i'r afael â heriau. Mae gwleidyddiaeth y byd yn sefyll wrth groesfan hanesyddol hynod ddiddorol ond anodd, sefyllfa y mae angen i ni i gyd ei deall, ei hegluro ac - fel bodau gwleidyddol - chwarae ein rhan ni yn ei dyfodol.
  • ]Mae’r elfen o’r radd hon sy’n ymwneud â gwleidyddiaeth yn cynnig cyfle i astudio'r cysyniadau, yr arferion, y polisïau, yr hanesion a’r rhanbarthau sy'n rhoi ffurf i wleidyddiaeth fel disgyblaeth, ac i archwilio sut mae'r holl ffactorau hyn yn dylanwadu ar economeg.
  • O wneud y radd hon fe ddatblygwch sgiliau gwerthfawr o ran dadansoddi, rhifau, dadansoddi data a datrys problemau, a fydd yn eich galluogi i ddeall sut mae pobl, busnesau, sefydliadau a llywodraethau yn gwneud penderfyniadau, ac effeithiau penderfyniadau o'r fath ar unigolion a’r gymdeithas.
Ein Staff

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Modiwlau Dechrau medi - 2026

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20
Macroeconomics: Theory and Policy Applications AB23220 20
Microeconomics Theory and Policy Applications AB23120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP28820 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Cenedlaetholdeb mewn Theori a Realiti GW29920 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW25820 20
Cysylltiadau Rhyngwladol: Safbwyntiau a Thrafodaethau GW20120 20
EU Simulation IP24020 20
Econometrics AB23420 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ24320 20
Fear, Cooperation and Trust in World Politics IQ22920 20
From Mincemeat to Cyberwars: A Global Perspective on Covert Operations since 1945 IQ20520 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ23820 20
International Politics and Global Development IP29220 20
International Relations: Perspectives and Debates IP20120 20
Justice, Order, Human Rights IQ21720 20
Knowing about Violent Conflict in International Politics IQ24420 20
Managerial Economics AB23320 20
NATO: From Cold War to Hybrid War IP23320 20
Nationalism in Theory and Practice IP29920 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
The Arab-Israeli Wars IP21320 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
The Past and Present of US Intelligence IP26020 20
The Strategy and Politics of Nuclear Weapons IP20420 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ23820 20
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20
Women and Global Development IP29620 20
Women and Military Service IP21620 20

Gyrfaoedd

Bydd eich gradd Economeg a Gwleidyddiaeth yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer gyrfa broffesiynol mewn busnes, y byd ariannol neu’r byd gwleidyddol. Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth yn cynnig modiwl cyflogadwyedd penodol ar ymgynghoriaeth lle mae myfyrwyr yn gwneud cais am waith ymgynghori ym myd diwydiant. Yn ystod y semester pan fo’r myfyrwyr yn gwneud gwaith ymgynghoriaeth ar gyfer diwydiant, gan roi iddynt brofiad ymarferol o waith datblygu cyfleoedd, fe fydd galw mawr am yr economegwyr dan hyfforddiant hynny oherwydd eu gallu cynhenid wrth ymdrin â data.

Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol hefyd yn cynnig profiad gwaith i'w myfyrwyr, gyda'r cyfle i gysgodi Aelod Seneddol yn San Steffan neu gynrychiolydd etholedig Senedd Cymru yng Nghaerdydd. 

Bydd astudio Economeg a Gwleidyddiaeth yn eich galluogi i ddatblygu'r sgiliau allweddol canlynol:

  • gallu defnyddio sgiliau dadansoddi a meddwl creadigol ar gyfer gwneud penderfyniadau lefel uchel a datrys problemau
  • sgiliau rhifedd uwch a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol
  • gallu cyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gallu gweithio'n llwyddiannus yn rhan o dîm
  • gallu gweithio'n annibynnol

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio:

  • elfennau sylfaenol economeg
  • egwyddorion sylfaenol busnes
  • y mecanweithiau a ddefnyddir i gyflawni gwaith rheoli mewn gwahanol ddiwydiannau
  • yr effaith y mae'r amgylchedd busnes a'r elfennau macro-amgylcheddol (fel Brecsit, COVID-19) yn ei chael ar reolaeth
  • cysyniadau, modelau a fframweithiau economaidd cyfoes
  • effeithiau ar gwsmeriaid a marchnadoedd
  • damcaniaeth wleidyddol
  • syniadau gwleidyddol allweddol a sut y maent yn cael eu cymhwyso i wleidyddiaeth ryngwladol a domestig
  • y materion gwleidyddol allweddol sy'n wynebu'r byd a maes economeg, a’r canlyniadau cymdeithasol ac ariannol ehangach sy’n deillio o faterion o'r fath. 

Yn eich ail a’ch trydedd flwyddyn byddwch yn astudio:

  • themâu gwleidyddol allweddol fel cenedlaetholdeb, datganoli, anghydraddoldeb byd-eang, amlddiwylliannaeth
  • ymddygiad a damcaniaeth sefydliadol
  • effeithiau strwythurau’r farchnad a strategaethau prisio
  • datblygu a defnyddio technegau a ddefnyddir mewn diwydiannau penodol yn effeithiol ar gyfer rheoli gweithrediadau, megis econometreg
  • ymddygiad a systemau macro-economaidd.

Er mwyn atgyfnerthu’ch dealltwriaeth, cewch gyfle i gymhwyso'r damcaniaethau a nodwyd uchod mewn prosiect ymchwil annibynnol a fydd yn rhoi modd i chi archwilio'r sgiliau dadansoddol sy'n gysylltiedig â rhagoriaeth ym meysydd economeg a gwleidyddiaeth.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Bydd ein staff brwd yn eich dysgu trwy ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, sesiynau ymarferol, a gwaith prosiect unigol ac mewn grwpiau.

Sut y caf fy asesu?

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, sesiynau ymarferol, prosiectau, gweithdai ac arholiadau.

Tiwtor Personol

Er mwyn sicrhau eich bod yn perfformio'n gyson ac er mwyn i chi allu manteisio i’r eithaf ar eich profiad yn y brifysgol, bydd tiwtor personol yn cael ei glustnodi i chi. Bydd rôl y tiwtor personol yn hanfodol i'ch profiad myfyriwr cyffredinol wrth astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a bydd eich tiwtor personol yn eich cynorthwyo â phob mater, yn rhai academaidd ac anacademaidd fel ei gilydd.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|