Pam astudio Economeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Mae Economeg yn astudio sut mae cwmnïau, marchnadoedd, llywodraethau a sefydliadau eraill unigol yn dod at ei gilydd i gynhyrchu a dosbarthu nwyddau a gwasanaethau er mwyn cyflawni'r canlyniad dymunol i gymdeithas, a pha mor effeithiol maen nhw'n gwneud hynny. Mae cymhwysiad damcaniaeth economaidd hefyd wedi esblygu i archwilio materion cyfoes fel achosion ac effaith pandemigau fel COVID-19 ar gymdeithas ar lefel ddomestig a rhyngwladol, a'r argyfwng ariannol dilynol a'r datrysiadau a gynigir er mwyn lliniaru'r effaith ar fasnach, globaleiddio, llygredigaeth ac yn y pen draw, newid hinsawdd.
Mae Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn archwilio sut mae cymdeithas yn mynd i'r afael â heriau. Mae Gwleidyddiaeth Fyd-eang yn sefyll mewn man hanesyddol diddorol ond anodd, un y mae angen i ni, fel bodau gwleidyddol, ei ddeall, ei egluro, ac yn rhannol, ei siapio. Mae elfen wleidyddiaeth y radd hon yn rhoi cyfle i chi astudio'r cysyniadau, yr arferion, y polisïau, yr hanes a'r rhanbarthau sy'n ffurfio gwleidyddiaeth fel disgyblaeth, ac archwilio'r ffyrdd y mae'r holl ffactorau hyn yn effeithio ar eu heconomeg.
Ein Staff
Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.
Bydd eich gradd Economeg a Gwleidyddiaeth yn rhoi sylfaen ardderchog i chi ar gyfer gyrfa broffesiynol mewn safleoedd busnes, ariannol, neu wleidyddol. Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth yn cynnig modiwl cyflogadwyedd ymgynghori pwrpasol, lle mae myfyrwyr yn ymgeisio fel ymgynghorwyr mewn diwydiant. Yn ystod y semester, bydd myfyrwyr yn ymgynghori ar gyfer y diwydiant, gan roi profiad ymarferol iddynt o natur iteraidd gwaith datblygu cyfleoedd. Mae'r diwydiant yn mynd ati i chwilio am economegwyr dan hyfforddiant oherwydd eu gallu greddfol gyda data.
Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol hefyd yn cynnig cyfle i'w myfyrwyr gysgodi Aelod o Senedd Cymru neu o Senedd San Steffan.
Bydd astudio Economeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn eich galluogi i ddatblygu'r sgiliau allweddol canlynol:
- y gallu i gymhwyso sgiliau meddwl creadigol a dadansoddol ar gyfer gwaith penderfynu a datrys problemau ar lefel uchel
- sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol
- y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar er mwyn hwyluso gwaith tîm a gwaith annibynnol llwyddiannus.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Mae dull cyfannol economeg yn eich blwyddyn gyntaf yn archwilio'r elfennau sylfaenol sy'n caniatáu i chi ddarganfod a deall egwyddorion sylfaenol busnes. Mae'r rhain yn cynnwys y mecanweithiau a ddefnyddir ar gyfer gwaith rheoli mewn gwahanol ddiwydiannau, a'r effaith y mae amgylchedd busnes ac elfennau macro-amgylcheddol (fel Brexit, COVID-19) yn ei chael ar reoli. Yn olaf, cyflwynir cysyniadau, modelau a fframweithiau economaidd cyfoes, a fydd yn caniatáu i chi egluro effeithiau i gwsmeriaid a marchnadoedd. Fel rhan o Wleidyddiaeth Ryngwladol, byddwch yn cael eich trochi mewn damcaniaeth wleidyddol, syniadau gwleidyddol allweddol, a sut cânt eu cymhwyso i wleidyddiaeth ddomestig a rhyngwladol. Byddwch hefyd yn archwilio materion gwleidyddol allweddol sy'n wynebu'r byd, a bydd economeg yn ategu ac yn ehangu eich dealltwriaeth o oblygiadau ariannol a chymdeithasol ehangach materion o'r fath.
Yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn, byddwch yn edrych ar gysyniadau economaidd craidd, sy'n cynnwys damcaniaeth ac ymddygiad sefydliadol, effeithiau strwythurau marchnadoedd a strategaethau prisio, a datblygiad effeithiol a defnydd o dechnegau penodol i'r diwydiant ar gyfer rheoli gweithrediadau, megis econometreg a systemau ac ymddygiadau macro-economaidd. Er mwyn cryfhau eich dealltwriaeth, cewch gyfle i gymhwyso'r damcaniaethau a nodwyd uchod i brosiect ymchwil annibynnol, a fydd yn eich galluogi i archwilio'r sgiliau dadansoddi sy'n gysylltiedig â rhagoriaeth mewn gwleidyddiaeth ac economeg. Ym maes Gwleidyddiaeth Ryngwladol, byddwch yn cael cyfle i fynd yn ddyfnach i themâu gwleidyddol fel cenedlaetholdeb, datganoli, anghydraddoldeb byd-eang ac amlddiwylliannaeth.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Bydd ein staff brwdfrydig yn eich addysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, ymarferion a gwaith prosiect unigol/grŵp.
Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, gwaith ymarferol, prosiectau, gweithdai ac arholiadau.
Er mwyn sicrhau eich bod yn cyflawni'n gyson, ac er mwyn gwneud y mwyaf o'ch profiad yn y brifysgol, bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi. Bydd rôl y tiwtor personol yn hanfodol i'ch profiad cyffredinol fel myfyriwr wrth astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, a bydd eich tiwtor personol yn eich cynorthwyo â materion academaidd a materion nad ydynt yn academaidd.