Wrth astudio am radd mewn Addysg yn Aberystwyth byddwch yn ymchwilio i ddatblygiad plant a phobl ifanc, ac yn ymdrin â materion sy'n ganolog i gael dealltwriaeth o gyfundrefnau addysg. Nod ein cwrs yw eich cyffroi a'ch ysgogi trwy astudiaeth o gynlluniau cwricwlwm a pholisïau addysg, yn ogystal â rhoi dirnadaeth bellach o gymdeithaseg, seicoleg, ac ieithyddiaeth. Agwedd y canolbwyntir arni’n benodol yw cefnogi dysgwyr trwy'r gyfundrefn addysg.
Mae astudio addysg yn cynnwys agweddau ar seicoleg, cymdeithaseg, gwleidyddiaeth, a hanes. Mae'n astudio sut mae pobl yn dysgu, sut mae eu hamgylchedd yn dylanwadu ar eu dysgu, sut y gwneir penderfyniadau, a sut mae ein dealltwriaeth o ddysgu ac addysgu wedi datblygu dros y blynyddoedd.
Bydd lleoliadau arsylwi yn ystod y radd yn gymorth i chi weld y damcaniaethau ar waith, ac mae cefnogi dysgwyr trwy'r gyfundrefn addysg yn agwedd y canolbwyntir arni’n benodol.
Mae gradd Addysg yn sylfaen ddelfrydol i waith mewn diwydiant, gwaith creu polisi neu’r sector elusennol, neu i astudio ar gwrs addysg athrawon TAR Cynradd. Gall gradd Addysg ar y cyd â phwnc arall eich cymhwyso am gyrsiau TAR Uwchradd.
Pam astudio yn Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth?
- Mae'r Ysgol Addysg wedi bod yn cynnig rhaglenni astudio ysgogol ac arloesol am dros gan mlynedd.
- Mae ein hymchwil yn bwydo i mewn i'n dysgu sy'n golygu y byddwch chi'n elwa o'r wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf yn y pwnc, ac yn cael cyfle i ystyried y materion allweddol mewn modd beirniadol.
- Cewch gyfle i ddod i ddeall casgliad cymhleth o wybodaeth sy'n gysylltiedig ag Addysg.
- Byddwn yn eich grymuso i reoli ac i fyfyrio ar eich dysgu a'ch perfformiad eich hun mewn modd beirniadol.
- Byddwn yn rhoi'r cyfle i chi ennill y sgiliau cyflogadwyedd a phriodweddau a gwerthoedd personol sy'n angenrheidiol ar gyfer gwaith, hyfforddiant, neu addysg bellach.
Ein Staff
Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.
Er mwyn gallu astudio rhai modiwlau ar gyfer y radd hon, mae’n bosibl y bydd angen gwiriad uwch gan y DBS (Datgelu a Gwahardd) drwy’r Ysgol Addysg am gost o £40. Mewn rhai amgylchiadau, gall y gost fod yn uwch, yn enwedig os ydych wedi byw y tu allan i'r DU am gyfnod.
Mae cyflogadwyedd wrth galon y cwrs. Mae gan yr Ysgol Addysg gysylltiad sefydledig â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, lle gall cynghorydd sydd â phrofiad penodol ym maes addysg roi cyngor ichi o ddechrau eich blwyddyn gyntaf. Ar ôl graddio, gallwch wneud cais am gwrs TAR mewn Addysg Gynradd. Gall gradd Addysg ar y cyd â phwnc arall eich cymhwyso am gyrsiau TAR Uwchradd.
Mae graddedigion eraill o'r Ysgol Addysg wedi mynd i yrfaoedd mewn:
- gofal cymdeithasol
- nyrsio
- therapi lleferydd
- gwaith cymdeithasol
- lles plant
- therapi chwarae
- y diwydiant hamdden
- cyfraith plant
- ymchwil plentyndod.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?
Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn eich blwyddyn gyntaf, mae’n bosibl y byddwch yn dysgu am:
- y ddamcaniaeth a'r egwyddorion sy'n ymwneud â'r dysgwr a'r amgylchedd dysgu
- y dechnoleg a'r offer a ddefnyddir o fewn addysgu a dysgu
- arferion dosbarth effeithiol a sgiliau dysgu
- arferion dysgu cynhwysol
- dysgu rhifedd a llythrennedd.
Yn eich ail flwyddyn, mae’n bosibl y byddwch yn ystyried:
- pwysigrwydd diogelu ac ymarfer proffesiynol
- sut i gefnogi dysgwyr ag anghenion cymhleth
- polisïau a safbwyntiau gwahaniaethau dysgu a chynhwysiant.
Yn eich flwyddyn olaf, mae’n bosibl y byddwch yn astudio:
- rôl asesiadau mewn addysg
- dulliau dysgu
- prosiect ymchwil sy'n canolbwyntio ar faes o ddiddordeb ac sy’n arwain at draethawd hir
- hawliau plant
- cefnogi dysgwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig.
Sut fydda i'n cael fy nysgu?
Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau.
Asesu
Cewch eich asesu hefyd drwy gyfrwng arholiadau, gwaith cwrs a chyflwyniadau.
Tariff UCAS 120 - 96
Safon Uwch BBB-CCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
Yn ôl i'r brig