BA

Addysg / Hanes

Mae ein gradd BA gyfun mewn Addysg a Hanes yn eich cyflwyno i ystod eang o bynciau addysg, gan gynnwys cymdeithaseg, seicoleg ac addysgeg, a chwmpas cyffrous o themâu hanes, o'r canoloesoedd i'r cyfnod modern. Byddwch yn dysgu sgiliau allweddol sy'n cynnwys dadansoddi a dehongli yn ogystal â dysgu sut i gyfathrebu syniadau a gwybodaeth yn effeithiol. Mae'r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer y rhai sydd am fod yn athrawon, yn diwtoriaid ac yn ddarlithwyr ac sydd â diddordeb penodol mewn hanes.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Addysg gyda Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae hanes ac addysg yn cael eu haddysgu yn Aberystwyth ers canrif neu fwy.
  • Cewch astudio'ch hoff bwnc, Hanes, tra'n paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
  • Cewch y cyfle i ddysgu gyda staff sy'n dod o gefndiroedd proffesiynol ac academaidd, a bydd hyn yn gyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth academaidd a phroffesiynol.
  • Wrth astudio addysg, cewch y cyfle i wella eich cyfleoedd gyrfaol gan ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy megis y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, i feddwl yn feirniadol ac i ddatrys problemau.
  • Mae'r addysgu yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn arloesol, yn seiliedig ar ymchwil ac wedi'i chynllunio i ddatblygu'ch sgiliau trosglwyddadwy mewn meysydd megis dadansoddi, dehongli a chyfathrebu. Bydd hyn yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd.
  • Cewch fynediad llawn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru - un o bum llyfrgell hawlfraint y DU, a storfa archif flaenllaw Cymru.
  • Yn rhan o'ch cwrs gradd, cewch y cyfle i astudio dramor gyda phrifysgol partner, i wneud lleoliad gwaith, ac i gynllunio ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.


Ein Staff

Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Llunio Hanes HA20120 20
Seicoleg Dysgu a Meddwl AD20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
African-American History, 1808 to the Present HY28320 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH23420 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC20120 20
Diogelu ac Ymarfer Proffesiynol AD24320 20
Discourses Language and Education ED22420 20
Dulliau Ymchwil AD20320 20
Education, Diversity and Equality ED20420 20
Germany since 1945 HY29620 20
Gweithio Gyda Phlant AD20620 20
Literacy in Young Children ED20220 20
Llythrennedd Mewn Plant Ifanc AD20220 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY25920 20
Making Sense of the Curriculum ED20820 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY27520 20
Research Methods ED20320 20
Rhyfel Cartref America HA26820 20
Safeguarding and Professional Practice ED24320 20
Science, Religion and Magic HY28620 20
Southeast Asia at the crossroads (c.1400 to the present) HY29920 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA28120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY29720 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY25720 20
The Tudors: A European Dynasty? HY20920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC23420 20
Working with Children ED20620 20
Gwrando ar Hanes: Y mudiad Hawliau Sifil yn America HA24720 20
Interdisciplinary and decolonial history HY24320 20
Memory, Myth and History: Investigating Medieval Chronicles, c. 1000-1250 HY24120 20
Recounting Racism: Oral History and Modern American Race Relations. HY25020 20
Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions HY24620 20

Gyrfaoedd

Pa gyfleoedd gyrfaol fydd ar gael ar ôl graddio?

  • sefydliadau dyngarol
  • addysgu ac addysg (gan gynnwys anghenion addysgol arbennig)
  • gofal cymdeithasol
  • nyrsio
  • therapi lleferydd
  • gwaith cymdeithasol
  • lles plant
  • gwaith llyfrgell
  • archifo
  • rheoli treftadaeth / gwaith cadwraeth mewn amgueddfa / gweithio fel swyddog addysg.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd mewn Addysg a Hanes yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Mae'r Ysgol Addysg yn rhoi pwyslais mawr ar gyflogadwyedd.

O'r flwyddyn gyntaf ymlaen, eich cyflogadwyedd yw ein blaenoriaeth, ac er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaethau cywir mae gennym gydlynydd cyflogadwyedd academaidd pwrpasol, sy'n cydweithio gyda'n hymgynghorydd gyrfaoedd cyswllt er mwyn teilwra pecyn o addysg yrfaol, cysylltiad â chyflogwyr a chefnogaeth adrannol unigol. Mae'r unigolyn hwn yn cydweithio gyda'r gwasanaeth gyrfaoedd a sefydliadau allanol i greu cysylltiadau, a gaiff eu bwydo i'n myfyrwyr yn rheolaidd. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleoedd am waith gwirfoddol a swyddi cyflogedig, yn ystod eich astudiaethau ac ar eu hôl. Yn yr Adran, bydd gennych gyfle i gymryd rhan yn ein cynhadledd cyflogadwyedd flynyddol i fyfyrwyr.

Cynllun Mentora Myfyrwyr

Mae ein cynllun mentora myfyrwyr yn cynnig cyfleoedd i gael cefnogaeth gan gyfoedion, ond hefyd datblygu sgiliau mentora a hyfforddi wrth gefnogi cydfyfyrwyr. Cydnabyddir y cynllun hwn gan y Brifysgol am ei werth o ran sgiliau uwch, ac mae'r rhai sy'n gweithredu fel mentoriaid yn cael cydnabyddiaeth ar eu hadysgrif raddio.

Cyfleoedd rhyngwladol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle oes i chi astudio, gwirfoddoli neu weithio mewn gwlad arall, am flwyddyn academaidd, semester sengl neu ychydig wythnosau yn y gwyliau. Archwiliwch ddiwylliannau eraill, heriwch eich hun a chasglwch brofiadau a fydd yn helpu gyda'ch gyrfa. Gall yr amser a dreulir yn archwilio gwlad a diwylliant newydd hogi'ch sgiliau rhyngbersonol, gwella'ch gallu iaith, ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol. Canfod ble gallwch chi fynd.

Sgyrsiau graddedig a mentora gan gyn-fyfyrwyr

Mae’r cynllun e-Fentora yn gyfle i chi gysylltu â chyn-fyfyrwyr o amrywiaeth o yrfaoedd, a hynny mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle ichi ganfod beth oedd eu llwybr nhw i’w swyddi presennol a pha wybodaeth y gallant ei rhannu wrth i chi feddwl am eich camau nesaf.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y

cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran

Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, gallech ddarganfod:

  • polisïau a materion mewn addysg
  • datblygiad plant
  • sut mae plant bach yn dysgu
  • Lloegr y Stiwardiaid
  • Rwsia yn yr ugeinfed ganrif
  • concwest, undeb a hunaniaeth yng Nghymru.

Yn ystod yr ail flwyddyn, gallech archwilio:

  • seicoleg dysgu a meddwl
  • rhyfel a chymdeithas
  • hanes Ewrop.

Byddwch hefyd yn dethol modiwlau eraill gan yr Adran Hanes.

Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn:

  • adlewyrchu'n feirniadol a gwerthuso dysgu a sgiliau
  • dewis o blith ystod o fodiwlau dewisol cyffrous o'r Adran Hanes a ddangosir o dan Cynnwys y Cwrs.

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Darperir y rhaglen hon drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau rhyngweithiol a gweithdai. Caiff yr holl ddarlithoedd eu recordio, sy'n eich galluogi i'w gwylio eto ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd.

Asesir y rhan fwyaf o fodiwlau drwy arholiadau a thraethodau, ond mae'n bosib y gwneir defnydd o brosiectau, ymarferion llyfryddiaeth, dyddiaduron myfyriol, posteri, a chyflwyniadau hefyd.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Rydw i wrth fy modd gyda fy nghwrs gan fod y pynciau rydyn ni'n eu trafod yn ddiddorol ac yn berthnasol i'r byd plentyndod. Mae'r darlithwyr yn angerddol iawn am y pwnc, sy'n cael ei adlewyrchu yn y ffyrdd amrywiol rydyn ni'n cael ein hasesu - fe gawson ni hyd yn oed gyfle i ddylunio ein gêm ein hunain! Cymaint yn fwy ymarferol a realistig cael gweithio gyda phlant yn hytrach na gwneud arholiad sych! Ar y cyfan, mae fy hyder mewn amrywiaeth o bynciau a fy ngallu fy hunan wedi cael eu cryfhau, sydd bob amser yn beth da mewn unrhyw yrfa. Byddwn yn sicr yn argymell Prifysgol Aberystwyth a'r cwrs i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant, a gallaf eich sicrhau y byddwch yn cael cefnogaeth dda iawn gan staff mewn unrhyw fath o sefyllfa academaidd!

Caroline Korell

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|