Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Bydd y radd BA gyd-anrhydedd hon mewn Addysg a Hanes yn eich cyflwyno i ystod eang o bynciau addysg, a fydd yn cynnwys ffactorau cymdeithasegol, seicolegol ac addysgol, a chwmpas diddorol hanes, o'r oesoedd hynafol hyd heddiw, gan ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen i gyfathrebu eich pwnc. Mae'r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer y rhai sydd am fod yn athrawon, yn diwtoriaid ac yn ddarlithwyr ac sydd â diddordeb penodol mewn hanes. Hefyd, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r gofynion mynediad, gallwn roi sicrwydd y cewch gyfweliad ar gyfer astudio TAR Cynradd neu Uwchradd yn Aberystwyth.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
97.5% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio. (HESA 2018*)
90% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru (ACF 2020)
99% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chew mis ar ôl graddio, 6% yn uwch na graddedigion o’r Astudiaethau Hanesyddol ac Athronyddol yn genedlaethol.(HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Addysg gyda Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Mae'r ddau bwnc wedi'u haddysgu yn Aberystwyth ers canrif neu fwy.
Gallwch astudio'ch hoff bwnc, Hanes, ochr yn ochr ag Addysg, a chael y gorau o'r ddau fyd.
Gwella eich dealltwriaeth ddeddfwriaethol.
Ymestyn eich ymwybyddiaeth gymdeithasol.
Datblygu sgiliau newydd sy'n hanfodol i lwyddo mewn gwaith.
Dysgu gyda staff sy'n dod o gefndiroedd amrywiol, sy'n cynnwys addysgu a darlithio, a gan ymchwilwyr gweithgar yn eu meysydd.
Mae gennym lyfrgell hawlfraint ar y campws, sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cyfleoedd cyfnewid cyffrous ar gael.
Ein Staff
Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.
Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Hanes a Hanes Cymru gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Bydd astudio am radd mewn Addysg a Hanes yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:
Y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
Y gallu i weithio'n annibynnol
Sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
Y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan
Y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
Sgiliau ymchwil.
Mae'r Ysgol Addysg yn rhoi pwyslais mawr ar gyflogadwyedd. Fel Adran, mae'n darparu'r canlynol:
Cydlynydd Cyflogadwyedd Academaidd
O'r flwyddyn gyntaf ymlaen, eich cyflogadwyedd yw ein blaenoriaeth, ac er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaethau cywir mae gennym gydlynydd cyflogadwyedd academaidd pwrpasol, sy'n cydweithio gyda'n hymgynghorydd gyrfaoedd cyswllt er mwyn teilwra pecyn o addysg yrfaol, cysylltiad â chyflogwyr a chefnogaeth adrannol unigol. Mae'r unigolyn hwn yn cydweithio gyda'r gwasanaeth gyrfaoedd a sefydliadau allanol i greu cysylltiadau, a gaiff eu bwydo i'n myfyrwyr yn rheolaidd. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleoedd am waith gwirfoddol a swyddi cyflogedig, yn ystod eich astudiaethau ac ar eu hôl. Yn yr Adran, bydd gennych gyfle i gymryd rhan yn ein cynhadledd cyflogadwyedd flynyddol i fyfyrwyr.
Cynllun Mentora Myfyrwyr
Mae ein cynllun mentora myfyrwyr yn cynnig cyfleoedd i gael cefnogaeth gan gyfoedion, ond hefyd datblygu sgiliau mentora a hyfforddi wrth gefnogi cydfyfyrwyr. Cydnabyddir y cynllun hwn gan y Brifysgol am ei werth o ran sgiliau uwch, ac mae'r rhai sy'n gweithredu fel mentoriaid yn cael cydnabyddiaeth ar eu hadysgrif raddio.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, gallech ddarganfod:
Polisïau a Materion mewn Addysg
Datblygiad plant
Sut mae plant bach yn dysgu
Lloegr y Stiwardiaid
Rwsia yn yr ugeinfed ganrif
Concwest, Undeb a Hunaniaeth yng Nghymru.
Yn ystod yr ail flwyddyn, gallech archwilio:
Seicoleg dysgu a meddwl
Rhyfel a Chymdeithas
Hanes Ewrop
Ac opsiynau dethol eraill gan yr Adran Hanes.
Yn ystod y drydedd flwyddyn, cewch gyfle i:
Adlewyrchu'n feirniadol a gwerthuso dysgu a sgiliau
Dewis o blith ystod o fodiwlau dewisol cyffrous o'r Adran Hanes a ddangosir o dan Cynnwys y Cwrs.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Darperir y rhaglen hon drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau rhyngweithiol a gweithdai. Caiff yr holl ddarlithoedd eu recordio, sy'n eich galluogi i'w gwylio eto ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd.
Asesir y rhan fwyaf o fodiwlau drwy arholiadau a thraethodau, ond mae'n bosib y gwneir defnydd o brosiectau, ymarferion llyfryddiaeth, dyddiaduron myfyriol, posteri, a chyflwyniadau hefyd.
Barn ein Myfyrwyr
Rydw i wrth fy modd gyda fy nghwrs gan fod y pynciau rydyn ni'n eu trafod yn ddiddorol ac yn berthnasol i'r byd plentyndod. Mae'r darlithwyr yn angerddol iawn am y pwnc, sy'n cael ei adlewyrchu yn y ffyrdd amrywiol rydyn ni'n cael ein hasesu - fe gawson ni hyd yn oed gyfle i ddylunio ein gêm ein hunain! Cymaint yn fwy ymarferol a realistig cael gweithio gyda phlant yn hytrach na gwneud arholiad sych! Ar y cyfan, mae fy hyder mewn amrywiaeth o bynciau a fy ngallu fy hunan wedi cael eu cryfhau, sydd bob amser yn beth da mewn unrhyw yrfa. Byddwn yn sicr yn argymell Prifysgol Aberystwyth a'r cwrs i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant, a gallaf eich sicrhau y byddwch yn cael cefnogaeth dda iawn gan staff mewn unrhyw fath o sefyllfa academaidd!