Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Ein cwrs Cyd-anrhydedd mewn Addysg a Drama ac Astudiaethau Theatr yw eich cyfle i wella eich cyneddfau beirniadol drwy astudio testunau llenyddol a dramatig, cael profiad ymarferol o greu theatr, a datblygu dealltwriaeth feirniadol a myfyriol o ddysgu ac Addysg. Ar ôl cwblhau'r radd hon yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gymwys i wneud cais i gwrs hyfforddiant athrawon ôl-raddedig (TAR) mewn addysg Gynradd neu Uwchradd. Hefyd, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r gofynion mynediad, gallwn roi sicrwydd y cewch gyfweliad ar gyfer astudio TAR Cynradd yn Aberystwyth.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
90% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu (ACF 2020).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Celfyddydau Creadigol a Dylunio yn genedlaethol. (HESA 2018*)
97.5% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio. (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Addysg / Drama ac Astudiaethau Theatr?
Cyfle i archwilio modiwlau craidd Addysg, a chyfuno damcaniaeth ac elfennau ymarferol Drama ac Astudiaethau Theatr
Fe'i haddysgir gan weithwyr proffesiynol, gan gynnwys gwneuthurwyr theatr a chyn-athrawon, ynghyd ag ymchwilwyr blaengar yn y maes
Cyfle i wella eich gallu i weithio gydag eraill
Dysgu mewn amgylchedd rhagorol sydd â chyfleusterau o'r radd flaenaf
Mae stiwdios lleol BBC Cymru yn rhan o'r Adran Astudiaethau Ffilm a Theatr
Cysylltiadau cadarn gyda Chwmni Brenhinol Shakespeare, Theatr Genedlaethol Cymru, Music Theatre Wales, Quarantine, Imitating the Dog a Phrosiect Magdalena
Un o Ganolfannau Celfyddydau mwyaf gwledydd Prydain, sef Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Cyfleoedd cyfnewid cyffrous yn Ewrop a ledled y byd.
Ein Staff
Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.
Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Pa ragolygon gyrfa sydd ar gyfer graddedigyn Addysg gyda Drama ac Astudiaethau Theatr?
Ar ôl cwblhau'r radd hon, byddwch yn ymgeisydd cryf ar gyfer y sectorau canlynol:
Darlledu
Addysgu ac Addysg (gan gynnwys anghenion addysgol arbennig)
Gofal Cymdeithasol
Nyrsio
Therapi lleferydd
Gwaith cymdeithasol
Addysg Celfyddydau Perfformio
Newyddiaduraeth
Marchnata a Chyfathrebu
Llywodraeth Leol
Gweinyddu yn y celfyddydau.
Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein haddysgu, a byddwch yn dysgu'r sgiliau hanfodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt drwy gydol eich gradd.
Sgiliau Trosglwyddadwy
Bydd astudio am radd mewn Addysg a Drama ac Astudiaethau Theatr yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:
Y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
Y gallu i weithio'n annibynnol
Sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
Y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan
Y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
Sgiliau ymchwil.
Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Cydlynydd Cyflogadwyedd Academaidd
O'r flwyddyn gyntaf ymlaen, eich cyflogadwyedd yw ein blaenoriaeth, ac er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaethau cywir mae gennym gydlynydd cyflogadwyedd academaidd pwrpasol, sy'n cydweithio gyda'n hymgynghorydd gyrfaoedd cyswllt er mwyn teilwra pecyn o addysg yrfaol, cysylltiad â chyflogwyr a chefnogaeth adrannol unigol. Mae'r unigolyn hwn yn cydweithio gyda'r gwasanaeth gyrfaoedd a sefydliadau allanol i greu cysylltiadau, a gaiff eu bwydo i'n myfyrwyr yn rheolaidd. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleoedd am waith gwirfoddol a swyddi cyflogedig, yn ystod eich astudiaethau ac ar eu hôl. Yn yr Adran, bydd gennych gyfle i gymryd rhan yn ein cynhadledd gyflogadwyedd flynyddol i fyfyrwyr.
Cynllun Mentora Myfyrwyr
Mae ein cynllun mentora myfyrwyr yn cynnig cyfleoedd i gael cefnogaeth gan gyfoedion, ond hefyd datblygu sgiliau mentora a hyfforddi wrth gefnogi cydfyfyrwyr. Cydnabyddir y cynllun hwn gan y Brifysgol am ei werth o ran sgiliau uwch, ac mae'r rhai sy'n gweithredu fel mentoriaid yn cael cydnabyddiaeth ar eu hadysgrif raddio.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y rhaglen tair blynedd.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, gallech archwilio:
Polisïau a Materion cyfredol mewn Addysg
Datblygiad plant
Dysgu mewn plant ifanc
Astudio theatr
Cymryd rhan mewn prosiectau theatr.
Yn ystod yr ail flwyddyn, mae'r pynciau'n cynnwys:
Seicoleg dysgu a meddwl
Drama Ewropeaidd fodern
Cydberthynas theatr gyda chymdeithas gyfoes.
Yn ystod y drydedd flwyddyn, gallech astudio:
Sut caiff dysgu a sgiliau eu gwerthuso a'u hasesu
Theatr, Rhywedd a Rhywioldeb
Gwleidyddiaeth mewn perthynas â theatr a drama
Sgriptio a'ch prosiect ymchwil annibynnol.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Darperir y radd hon drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, a gweithdai, sydd oll wedi'u dylunio i ysgogi eich diddordebau academaidd.
Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, arholiadau, cyflwyniadau llafar, gwaith ymarferol a chreadigol.
Barn ein Myfyrwyr
Rydw i wrth fy modd gyda fy nghwrs gan fod y pynciau rydyn ni'n eu trafod yn ddiddorol ac yn berthnasol i fyd plentyndod. Mae'r darlithwyr yn angerddol iawn am y pwnc, sy'n cael ei adlewyrchu yn y ffyrdd amrywiol rydyn ni'n cael ein hasesu - fe gawson ni hyd yn oed gyfle i ddylunio ein gêm ein hunain! Cymaint yn fwy ymarferol a realistig cael gweithio gyda phlant yn hytrach nag arholiad sych! Ar y cyfan, mae fy hyder mewn amrywiaeth o bynciau a fy ngallu fy hunan wedi cael eu cryfhau, sydd bob amser yn beth da mewn unrhyw yrfa. Byddwn yn sicr yn argymell y cwrs a Phrifysgol Aberystwyth i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant, a gallaf sicrhau y byddwch yn cael cefnogaeth dda iawn gan staff mewn unrhyw fath o sefyllfa academaidd!