Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Wrth ddewis astudio'r radd Addysg a Chelfyddyd Gain hon, byddwch yn darganfod sbectrwm eang o bynciau addysg sy'n cynnwys yr agweddau cymdeithasegol, seicolegol ac addysgol sy'n dylanwadu ar ddatblygiad plant. Yn ogystal, byddwch hefyd yn cael cyflwyniad i fyd Celfyddyd Gain, lle bydd eich gwerthfawrogiad o Gelfyddyd Gain yn cael ei ehangu drwy feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch i gyfathrebu'ch pwnc i ystod o gynulleidfaoedd. Mae'r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer y rhai sydd am fod yn athrawon, yn diwtoriaid ac yn ddarlithwyr ac sydd â diddordeb penodol mewn Celfyddyd Gain. Hefyd, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r gofynion mynediad, gallwn roi sicrwydd y cewch gyfweliad ar gyfer astudio TAR Cynradd yn Aberystwyth.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
97% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Celfyddydau Creadigol a Dylunio yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Addysg gyda Chelfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Cyfle i ymestyn a chynyddu eich caffaeliad disgybledig o arbenigedd technegol, ffurfiad deallusrwydd creadigol, ac ymwybyddiaeth hanesyddol, beirniadol, damcaniaethol a chyfoes o arfer Celfyddyd Gain.
Mae Addysg a Chelfyddyd Gain yn cael eu haddysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth ers dros ganrif, sy'n dangos bod hon yn radd uchel ei pharch.
Cyfleusterau addysgu o'r radd flaenaf; stiwdios â goleuo da ar gyfer paentio, ystafelloedd tywyll, gweithdai print, ystafell MAC, ynghyd â theatrau darlithio ac ystafelloedd seminar.
Fe'i haddysgir gan staff profiadol ac arbenigwyr sy'n adnabyddus yn rhyngwladol yn eu meysydd.
Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar y campws, sef un o'r Canolfannau Celfyddydau mwyaf ac uchaf eu parch yn y canolbarth.
Gallwch gymryd rhan yn ein hymweliadau astudio ag amgueddfeydd ac orielau ym Mhrydain a theithiau diwylliannol dramor e.e. Madrid, Paris, Rhufain, Amsterdam, Efrog Newydd, Fiena, Barcelona, Fenis, Moscow, St Petersburg, Fflorens, Bwdapest a Lisbon.
Bydd maes llafur addysgu'r Ysgol Addysg yn rhoi hwb i chi wella eich gwybodaeth ddeddfwriaethol.
Drwy eich astudiaethau, byddwch yn cynyddu eich ymwybyddiaeth gymdeithasol.
Bydd y cwrs hwn yn caniatáu i chi fireinio eich sgiliau.
Ein Staff
Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.
Drwy ymwneud yn weithredol ag ymarfer, hanes a churadu celf, mae staff yr Ysgol Gelf yn ceisio darparu amgylchedd dysgu cyfoethog i'r myfyrwyr. Mae eu profiad fel artistiaid sy'n arddangos eu gwaith, haneswyr celf sy'n cyhoeddi eu gwaith, a churaduriaid gweithredol yn llywio eu gwaith dysgu.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein haddysgu.
Ar ôl cwblhau'r radd hon, bydd gennych sgiliau ac arbenigedd i allu ystyried y llwybrau gyrfaol canlynol:
Sefydliadau Dyngarol
Addysgu ac Addysg (gan gynnwys anghenion addysgol arbennig)
Gofal Cymdeithasol
Nyrsio
Therapi lleferydd
Gwaith cymdeithasol
Gweithiwr Celfyddydau Cymunedol
Dylunydd Ffasiwn
Adolygydd Celf
Arlunydd
Gwneuthurwr printiau
Dylunydd tesctilau.
Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Cydlynydd Cyflogadwyedd Academaidd
O'r flwyddyn gyntaf ymlaen, eich cyflogadwyedd yw ein blaenoriaeth, ac er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaethau cywir mae gennym gydlynydd cyflogadwyedd academaidd pwrpasol, sy'n cydweithio gyda'n hymgynghorydd gyrfaoedd cyswllt er mwyn teilwra pecyn o addysg yrfaol, cysylltiad â chyflogwyr a chefnogaeth adrannol unigol. Mae'r unigolyn hwn yn cydweithio gyda'r gwasanaeth gyrfaoedd a sefydliadau allanol i greu cysylltiadau, a gaiff eu bwydo i'n myfyrwyr yn rheolaidd. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleoedd am waith gwirfoddol a swyddi cyflogedig, yn ystod eich astudiaethau ac ar eu hôl. Yn adrannol, cewch gyfle i gymryd rhan yn ein cynhadledd gyflogadwyedd flynyddol i fyfyrwyr, ochr yn ochr â chyfleoedd i fod yn rhan o'n cynhadledd ryngwladol, sy'n arloesiad llwyddiannus yn yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Drwy gymryd rhan, mae cyfle i gael cipolwg byd-eang ar ddulliau newydd ym maes addysg a datblygiad, a chyfle i rwydweithio'n rhyngwladol yn eich sector. Mae ein cynllun mentora myfyrwyr yn cynnig cyfleoedd i gael cefnogaeth gan gyfoedion, ond hefyd datblygu sgiliau mentora a hyfforddi wrth gefnogi cydfyfyrwyr. Cydnabyddir y cynllun hwn gan y Brifysgol am ei werth o ran sgiliau uwch, ac mae'r rhai sy'n gweithredu fel mentoriaid yn cael cydnabyddiaeth ar eu hadysgrif raddio.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, gallech ddarganfod:
Polisïau a Materion mewn Addysg
Datblygiad Plant
Sut mae plant ifanc yn dysgu
Arfer Celf
Tirlun.
Yn ystod yr ail flwyddyn, gallech archwilio:
Seicoleg dysgu a meddwl
Paentio a Ffotograffiaeth
Lithograffeg Carreg, Plât a Cheugerfio.
Yn ystod y drydedd flwyddyn, cewch gyfle i:
Fyfyrio'n feirniadol a gwerthuso dysgu a sgiliau
Creu darluniadau llyfr
Ymestyn eich sgiliau ffotograffiaeth - arfer ffoto-gyfeiriedig.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Darperir y radd hon drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau rhyngweithiol a gweithdai. Caiff yr holl ddarlithoedd eu recordio fel bod modd i chi wrando arnynt eto yn eich ystafell.
Asesir y rhan fwyaf o fodiwlau drwy arholiadau a thraethodau, ond mae'n bosib y gwneir defnydd o brosiectau, ymarferion llyfryddiaeth, dyddiaduron myfyriol, posteri, a chyflwyniadau hefyd.
Barn ein Myfyrwyr
Rydw i wrth fy modd gyda fy nghwrs gan fod y pynciau rydyn ni'n eu trafod yn ddiddorol ac yn berthnasol i fyd plentyndod. Mae'r darlithwyr yn angerddol iawn am y pwnc, sy'n cael ei adlewyrchu yn y ffyrdd amrywiol rydyn ni'n cael ein hasesu - fe gawson ni hyd yn oed gyfle i ddylunio ein gêm ein hunain! Cymaint yn fwy ymarferol a realistig cael gweithio gyda phlant yn hytrach nag arholiad sych! Ar y cyfan, mae fy hyder mewn amrywiaeth o bynciau a fy ngallu fy hunan wedi cael eu cryfhau, sydd bob amser yn beth da mewn unrhyw yrfa. Byddwn yn sicr yn argymell Prifysgol Aberystwyth a'r cwrs i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant, a gallaf eich sicrhau y byddwch yn cael cefnogaeth dda iawn gan staff mewn unrhyw fath o sefyllfa academaidd!