Addysg gyda Mathemateg
BA Addysg gyda Mathemateg Cod X3G1
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
X3G1-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y Cwrs
3 Blwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
95%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrMae dau draean o'r cynllun gradd hwn ym maes Addysg, a thraean ym maes Mathemateg. Yn ystod eich tair blynedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn astudio sbectrwm eang o bynciau addysg, gan gynnwys agweddau cymdeithasegol, seicolegol ac addysgol ar y pwnc; ochr yn ochr â hynny, byddwch yn dod i gyswllt â'r iaith fathemategol sy'n sail i lawer o'r byd modern, o wyddoniaeth, technoleg a pheirianneg, i gyllid a masnach. Mae'r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer y rhai sydd am fod yn athrawon, yn diwtoriaid ac yn ddarlithwyr ac sydd â diddordeb penodol mewn Mathemateg. Ar ôl cwblhau'r radd hon yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gymwys i wneud cais i gwrs hyfforddiant athrawon ôl-raddedig (TAR) mewn addysg Gynradd. Hefyd, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r gofynion mynediad, gallwn roi sicrwydd y cewch gyfweliad ar gyfer astudio TAR Cynradd yn Aberystwyth.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
92% boddhad cyffredinol â’r Adnoddau Addysgu ym maes Addysg; 85% yw’r cyfartaledd i’r sector (ACF 2020).
Ymhlith y 10 uchaf yn y DU am Ansawdd y Dysgu ym maes Addysg (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
97.5% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio. (HESA 2018*)
92% boddhad cyffredinol yn yr Adran Fathemateg (ACF 2020).
2ail yn y DU am Ansawdd y Dysgu ym maes Mathemateg, a 5ed yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).
96% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Mathemategol yn genedlaethol. (HESA 2018*)
Trosolwg
Modiwlau
Cyflogadwyedd
Dysgu ac Addysgu
Barn ein Myfyrwyr
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Lefel A BBB-BCC to include B in Mathematics
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with B in A level Mathematics
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Mathematics at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Mathematics
Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk
|