BA

Addysg gyda Sbaeneg

Addysg gyda Sbaeneg yw'r cyfuniad perffaith os oes gennych ddiddordeb mewn gradd lle bydd eich cymhwysedd iaith a'ch ymwybyddiaeth ddiwylliannol yn gwella yn ystod eich cyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth, a lle bydd eich ymwybyddiaeth o'r datblygiadau yn y sector addysg yn gwella. Yn ystod eich gradd, bydd modd i chi gymryd rhan mewn cyfle cyfnewid cyffrous yn Sbaenlle bydd gennych gyfle i un ai addysgu Saesneg drwy raglen y British Council, neu i astudio yn un o'n Prifysgolion partner yn Sbaen. Ar ôl cwblhau'r radd hon yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gymwys i wneud cais i gwrs hyfforddiant athrawon ôl-raddedig (TAR) mewn addysg Gynradd.

Trosolwg o'r Cwrs

 Pam astudio Sbaeneg gydag Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Yn ôl Canllaw Prifysgolion Da 2019 a gyhoeddwyd gan y Times a'r Sunday Times, mae'r Adran Ieithoedd Modern yn ail yng ngwledydd Prydain am ragolygon graddedigion (canlyniadau cyflogaeth), ac ymhlith 15 Prifysgol orau Prydain ar gyfer maes pwnc ieithoedd Iberaidd (Sbaeneg).
  • Mae'r Ysgol Addysg hefyd yn y deg uchaf yng ngwledydd Prydain am Ansawdd Addysgu. (Canllaw Prifysgolion Da, y Times a'r Sunday Times 2019).
  • Mae elfen Sbaeneg y radd hon yn cynnig cyfoeth diwylliannol, a thrwy ystod amrywiol o fodiwlau craidd ac opsiynol, byddwch yn cael profi blas ar fywyd, iaith, diwylliant a llenyddiaeth Sbaen, a fydd yn ysgogi eich rhuglder ieithyddol.
  • Nid yn unig y bydd cydran Addysg y radd hon yn gwella eich dealltwriaeth o'r sector Addysg, ond bydd hefyd yn cryfhau eich dealltwriaeth ddeddfwriaethol.
  • Mae'r Ysgol Addysg yn cynnig cyfle i bob myfyriwr drwy wahanol fodiwlau opsiynol ddatgelu'r technegau a'r tueddiadau diweddaraf drwy drafod materion addysgol cyfredol.
  • Mae'r Adran Ieithoedd Modern yn cynnig pedair awr o ddosbarthiadau iaith dwys yr wythnos. Mae'r dosbarthiadau hyn yn cynnwys ysgrifennu/darllen, llafar, gwrando a chyfieithu. Bydd y dosbarthiadau ieithyddol craidd hyn yn darparu'r sylfaen i ddatblygu rhuglder yn yr iaith darged.
  • Uchafbwynt y cwrs hwn i lawer o'n myfyrwyr yw'r flwyddyn dramor. Bydd gennych opsiwn i ddewis p'un a hoffech chi weithio (profiad gwaith â thal neu'n ddi-dâl). Mae llawer o fyfyrwyr yn gwneud cais i gynllun Cynorthwyo Iaith y British Council, lle byddwch yn gweithio mewn ysgol Sbaeneg mewn gwlad lle siaredir Sbaeneg. Ar gyfer myfyrwyr y byddai'n well ganddynt astudio yn ystod eu blwyddyn dramor, rydyn ni'n cynnig lleoliadau amrywiol gyda'n Prifysgolion partner ar draws Sbaen a gwledydd eraill lle siaredir Sbaeneg. Gallwch ddysgu mwy drwy fynd i'r dudalen Astudio Dramor.
Ein Staff

Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Datblygiad a Dysgu Plant AD14520 20
Partneriaethau - Egwyddorion ac Ymarfer AD14420 20
Beginners Spanish 1 SP10820 20
Beginners Spanish 2 SP11020 20
Hispanic Civilization SP10610 10
Spanish Language Advanced SP19930 30

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Datblygiad Iaith AD14320 20
Health and Wellbeing in the Early Years ED14620 20
Key Skills for University ED13620 20
Language Development ED14320 20
Sgiliau Allweddol i Brifysgol AD13620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Seicoleg Dysgu a Meddwl AD20120 20
Spanish Language SP20130 30

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Diogelu ac Ymarfer Proffesiynol AD24320 20
Discourses Language and Education ED22420 20
Dulliau Ymchwil AD20320 20
Education, Diversity and Equality ED20420 20
Gweithio Gyda Phlant AD20620 20
Literacy in Young Children ED20220 20
Llythrennedd Mewn Plant Ifanc AD20220 20
Making Sense of the Curriculum ED20820 20
Research Methods ED20320 20
Safeguarding and Professional Practice ED24320 20
Working with Children ED20620 20
Language of Business and Current Affairs 1 SP20310 10
The Spanish Avant-Garde SP20010 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Asesu ac Addysg AD30120 20
Spanish Language SP30130 30

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Children's Rights ED30620 20
Communication ED34720 20
Cyfathrebu AD34720 20
Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol AD34820 20
Datblygiad Mathemategol yn y Blynyddoedd Cynnar AD30320 20
Emotional and Social Development ED34820 20
Hawliau Plant AD30620 20
Major dissertation ED33640 40
Mathematical Development in the Early Years ED30320 20
Special Educational Needs ED30420 20
Traethawd Hir AD33640 40
Traducción al español SP39910 10

Gyrfaoedd

Pa opsiynau gyrfa fydd ar gael i fi ar ôl graddio?

Mae gyrfaoedd posib yn cynnwys:

  • Addysgu ac Addysg (gan gynnwys anghenion addysgol arbennig)
  • Gofal Cymdeithasol
  • Nyrsio
  • Therapi lleferydd
  • Gwaith cymdeithasol
  • Cyfieithu
  • Marchnata a Hysbysebu
  • Adnoddau Dynol
  • Y Sector Twristiaeth.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd Addysg gyda Sbaeneg yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy i chi sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth yn ddwyieithog mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • Y gallu i weithio'n annibynnol
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • Y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan
  • Y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • Sgiliau ymchwil.

Cydlynydd Cyflogadwyedd Academaidd 

O'r flwyddyn gyntaf ymlaen, eich cyflogadwyedd yw ein blaenoriaeth, ac er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaethau cywir mae gennym gydlynydd cyflogadwyedd academaidd pwrpasol, sy'n cydweithio gyda'n hymgynghorydd gyrfaoedd cyswllt er mwyn teilwra pecyn o addysg yrfaol, cysylltiad â chyflogwyr a chefnogaeth adrannol unigol. Mae'r unigolyn hwn yn cydweithio gyda'r gwasanaeth gyrfaoedd a sefydliadau allanol i greu cysylltiadau, a gaiff eu bwydo i'n myfyrwyr yn rheolaidd. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleoedd am waith gwirfoddol a swyddi cyflogedig, yn ystod eich astudiaethau ac ar eu hôl. Yn yr Adran, bydd gennych gyfle i gymryd rhan yn ein cynhadledd gyflogadwyedd flynyddol i fyfyrwyr.

Cynllun Mentora Myfyrwyr

Mae ein cynllun mentora myfyrwyr yn cynnig cyfleoedd i gael cefnogaeth gan gyfoedion, ond hefyd datblygu sgiliau mentora a hyfforddi wrth gefnogi cydfyfyrwyr. Cydnabyddir y cynllun hwn gan y Brifysgol am ei werth o ran sgiliau uwch, ac mae'r rhai sy'n gweithredu fel mentoriaid yn cael cydnabyddiaeth ar eu hadysgrif raddio. 

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y rhaglen pedair blynedd.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, gallech archwilio:

  • Polisïau a Materion cyfredol mewn Addysg
  • Datblygiad plant
  • Dysgu mewn plant ifanc
  • Sbaeneg Craidd: Dosbarthiadau Ysgrifennu, Llafar, Gwrando a Chyfieithu
  • Ffilm Ewropeaidd
  • Iaith, Hunaniaeth a Diwylliant Ewropeaidd.

Yn ystod yr ail flwyddyn, gallech ddarganfod:

  • Seicoleg dysgu a meddwl
  • Parhau i weithio ar eich cymhwysedd iaith craidd mewn: Dosbarthiadau Ysgrifennu, Llafar, Gwrando a Chyfieithu
  • Modiwlau arbenigol Busnes neu Lenyddiaeth
  • Prosiect ymchwil annibynnol.

Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn cymryd rhan yn eich blwyddyn dramor, lle bydd gennych opsiwn i astudio yn un o'n Prifysgolion partner yn Sbaen, neu'n addysgu fel cynorthwyydd iaith Saesneg yn Sbaen neu wlad arall lle siaredir Sbaeneg.

Yn ystod eich blwyddyn olaf, gallech:

  • Gwerthuso a myfyrio'n feirniadol ar asesiad dysgu a sgiliau
  • Meistroli eich cymhwysedd ieithyddol o ran: Llafar, Gwrando, Ysgrifennu a Chyfieithu
  • Actualidades
  • Sbaeneg mewn busnes.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y radd hon drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau rhyngweithiol a gweithdai. Caiff yr holl ddarlithoedd eu recordio fel bod modd i chi wrando arnynt eto yn eich ystafell.

Bydd eich rhaglen Sbaeneg yn cael ei darparu mewn cyfres o weithdai iaith, a fydd yn eich galluogi chi i ganolbwyntio a gwella eich cymhwysedd iaith ym meysydd allweddol Sbaeneg. Mae grwpiau'r gweithdai yn fach, sy'n eich galluogi i elwa a dysgu cymaint â phosib gan yr arbenigwyr.

Asesir y rhan fwyaf o fodiwlau drwy arholiadau a thraethodau, ond mae'n bosib y gwneir defnydd o brosiectau, ymarferion llyfryddiaeth, dyddiaduron myfyriol, posteri, a chyflwyniadau hefyd. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Rydw i wrth fy modd gyda fy nghwrs gan fod y pynciau rydyn ni'n eu trafod yn ddiddorol ac yn berthnasol i fyd plentyndod. Mae'r darlithwyr yn angerddol iawn am y pwnc, sy'n cael ei adlewyrchu yn y ffyrdd amrywiol rydyn ni'n cael ein hasesu - fe gawson ni hyd yn oed gyfle i ddylunio ein gêm ein hunain! Cymaint yn fwy ymarferol a realistig cael gweithio gyda phlant yn hytrach nag arholiad sych! Ar y cyfan, mae fy hyder mewn amrywiaeth o bynciau a fy ngallu fy hunan wedi cael eu cryfhau, sydd bob amser yn beth da mewn unrhyw yrfa. Byddwn yn sicr yn argymell Prifysgol Aberystwyth a'r cwrs i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant, a gallaf eich sicrhau y byddwch yn cael cefnogaeth dda iawn gan staff mewn unrhyw fath o sefyllfa academaidd!

Caroline Korell

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Sbaeneg (onibai yr astudir y pwnc fel dechreuwr)

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM to include B in A level Spanish (unless to be studied as a beginner)

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Spanish at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Spanish

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|