Addysg
BA Addysg Cod X302 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
X302-
Tariff UCAS
120 - 96
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
89%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrMae’r radd BA Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i archwilio datblygiad plant a’r glasoed, gan gwmpasu materion sy’n hanfodol er mwyn deall systemau addysgol. Bydd ein cwrs yn eich cyffroi a’ch ysgogi a cheir ffocws penodol ar gefnogi dysgwyr trwy gydol y system addysg.
Mae gradd mewn Addysg yn gallu arwain at waith ym maes diwydiant, polisi neu’r sector elusennol, neu at hyfforddi fel athro neu athrawes cynradd. Mae’r pwnc yn cynnwys elfennau o seicoleg, cymdeithaseg, gwleidyddiaeth, a hanes. Mae’n ymchwilio i sut mae pobl yn dysgu, sut mae eu hamgylcheddau yn dylanwadu ar eu dysgu, sut rydym yn gwneud penderfyniadau, a sut mae ein dealltwriaeth o ddysgu ac addysgu wedi datblygu dros y blynyddoedd. Mae’r lleoliadau arsylwi yn ystod y radd yn eich helpu i gyfuno’r theori a’r ymarfer.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2024
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Datblygiad a Dysgu Plant | AD14520 | 20 |
Sgiliau Allweddol i Brifysgol | AD13620 | 20 |
Polisiau a Materion Mewn Addysg | AD10120 | 20 |
Y Dysgwr a'r Amgylchedd Dysgu | AD13820 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Datblygiad Iaith | AD14320 | 20 |
Health and Wellbeing in the Early Years | ED14620 | 20 |
Inclusive Learning Practices | ED11820 | 20 |
Datblygiad Iaith | AD14320 | 20 |
Play and Learning:Theory and Practice | ED13720 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Seicoleg Dysgu a Meddwl | AD20120 | 20 |
Dulliau Ymchwil | AD20320 | 20 |
Diogelu ac Ymarfer Proffesiynol | AD24320 | 20 |
Gweithio Gyda Phlant | AD20620 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Discourses Language and Education | ED22420 | 20 |
Education, Diversity and Equality | ED20420 | 20 |
Llythrennedd Mewn Plant Ifanc | AD20220 | 20 |
Llythrennedd Mewn Plant Ifanc | AD20220 | 20 |
Making Sense of the Curriculum | ED20820 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Asesu ac Addysg | AD30120 | 20 |
Traethawd Hir | AD33640 | 40 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Children's Rights | ED30620 | 20 |
Cyfathrebu | AD34720 | 20 |
Cyfathrebu | AD34720 | 20 |
Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol | AD34820 | 20 |
Datblygiad Mathemategol yn y Blynyddoedd Cynnar | AD30320 | 20 |
Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol | AD34820 | 20 |
Hawliau Plant | AD30620 | 20 |
Datblygiad Mathemategol yn y Blynyddoedd Cynnar | AD30320 | 20 |
Special Educational Needs | ED30420 | 20 |
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 96
Safon Uwch BBB-CCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|