Peirianneg Drydanol ac Electronig
Peirianneg Drydanol ac Electronig Cod 163H Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
163H-
Tariff UCAS
120 - 112
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
34%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrMewn byd sy'n anelu am sero net, a byd o ddatblygiadau meddygol arloesol, a llawer o ddyfeisiau a systemau a ddefnyddiwn bob dydd, mae sgiliau ym maes peirianneg drydanol ac electronig yn hanfodol. Erbyn 2030, yn ôl yr IEA yn y ddogfen World Energy Outlook (2021), bydd yr agenda carbon isel yn creu 13.3 miliwn o swyddi newydd yn fyd-eang a bydd angen galluoedd ym maes peirianneg drydanol ac electronig ar gyfer y rhan fwyaf o'r swyddi hynny.
Bydd ein cynllun gradd Peirianneg Drydanol ac Electronig yn datblygu eich sgiliau hanfodol, o electroneg analog a digidol i gymwysiadau bywyd go iawn, er enghraifft cyfathrebu ac ynni adnewyddadwy.
Yn y rhaglen radd hon yn Aberystwyth, gan gadw cyflogadwyedd mewn cof, rydym yn gwreiddio agwedd gadarnhaol tuag at ddatrys problemau fel y bydd gan ein myfyrwyr ar ôl graddio yr hyder, y galluoedd a'r wybodaeth i gyflawni eu haddewid yn effeithiol yn y meysydd hynod broffidiol hyn, p'un a ydynt mewn swydd ddiwydiannol neu fasnachol, ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at y byd sydd ohoni a’i newidiadau cyson.
Mae'r cwrs newydd hwn yn amodol ar achrediad y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) pan fydd y garfan gyntaf yn graddio yn 2028.
Mae'r cwrs hwn ar agor i’r rhai sydd am gychwyn ym mis Medi 2025.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Algebra a Hafaliadau Differol | FG16210 | 10 |
Calcwlws | MT10610 | 10 |
Trydan, Magneteg a Mater | FG11120 | 20 |
Cyflwyniad i Raglennu | CC12020 | 20 |
Technegau Labordy ar gyfer Ffisegwyr Arbrofol a Pheirianwyr (20 Credyd) | FG15720 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Ffiseg Mathemategol | FG26020 | 20 |
Sgiliau Ymchwil Ymarferol | FG25720 | 20 |
Robotics and Embedded Systems | CS26020 | 20 |
Sensors, Electronics & Instrumentation | PH24520 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Engineering Control Theory | PH33310 | 10 |
Fundamentals of Machine Learning | CS36110 | 10 |
Systems Engineering | CS33020 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Robotic Applications | CS36010 | 10 |
Semiconductor Technology | PH33610 | 10 |
Space Robotics | CS36510 | 10 |
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 112
Safon Uwch BBB-BBC gan gynnwys B mewn Ffiseg a B mewn Mathemateg
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with B in A level Physics and B in Mathematics
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Physics and Mathematics at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Physics and Mathematics
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|