Peirianneg Drydanol ac Electronig (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)
Peirianneg Drydanol ac Electronig (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod 163Y Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
163Y-
Tariff UCAS
120 - 112
-
Hyd y cwrs
4 blynedd
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrMewn byd sy'n anelu am sero net, a byd o ddatblygiadau meddygol arloesol, a llawer o ddyfeisiau a systemau a ddefnyddiwn bob dydd, mae sgiliau ym maes peirianneg drydanol ac electronig yn hanfodol. Erbyn 2030, yn ôl yr IEA yn y ddogfen World Energy Outlook (2021), bydd yr agenda carbon isel yn creu 13.3 miliwn o swyddi newydd yn fyd-eang a bydd angen galluoedd ym maes peirianneg drydanol ac electronig ar gyfer y rhan fwyaf o'r swyddi hynny.
Bydd ein cynllun gradd BEng mewn (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) yn datblygu eich sgiliau hanfodol, o electroneg analog a digidol i gymwysiadau bywyd go iawn, er enghraifft cyfathrebu ac ynni adnewyddadwy.
Yn y rhaglen radd hon yn Aberystwyth, gan gadw cyflogadwyedd mewn cof, rydym yn gwreiddio agwedd gadarnhaol tuag at ddatrys problemau fel y bydd gan ein myfyrwyr ar ôl graddio yr hyder, y galluoedd a'r wybodaeth i gyflawni eu haddewid yn effeithiol yn y meysydd hynod broffidiol hyn, p'un a ydynt mewn swydd ddiwydiannol neu fasnachol, ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at y byd sydd ohoni a’i newidiadau cyson.
Mae'r cwrs newydd hwn yn amodol ar achrediad y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) pan fydd y garfan gyntaf yn graddio yn 2028.
Mae'r cwrs hwn ar agor i’r rhai sydd am gychwyn ym mis Medi 2025.
Trosolwg o'r Cwrs
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 112
Safon Uwch BBB-BBC gan gynnwys B mewn Ffiseg a B mewn Mathemateg
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with B in A level Physics and B in Mathematics
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Physics and Mathematics at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Physics and Mathematics
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|