MEng

Peirianneg Drydanol ac Electronig Gynaliadwy

Peirianneg Drydanol ac Electronig Gynaliadwy Cod 163M Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mewn byd sy'n anelu am sero net, a byd o ddatblygiadau meddygol arloesol, a llawer o ddyfeisiau a systemau a ddefnyddiwn bob dydd, mae sgiliau ym maes peirianneg drydanol ac electronig yn hanfodol. Erbyn 2030, yn ôl yr IEA yn y ddogfen World Energy Outlook (2021), bydd yr agenda carbon isel yn creu 13.3 miliwn o swyddi newydd yn fyd-eang a bydd angen galluoedd ym maes peirianneg drydanol ac electronig ar gyfer y rhan fwyaf o'r swyddi hynny.

Bydd ein cynllun gradd Meistr mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig Gynaliadwy yn datblygu eich sgiliau hanfodol, o electroneg analog a digidol i gymwysiadau bywyd go iawn, er enghraifft cyfathrebu ac ynni adnewyddadwy.

Yn y rhaglen radd hon yn Aberystwyth, gan gadw cyflogadwyedd mewn cof, rydym yn gwreiddio agwedd gadarnhaol tuag at ddatrys problemau fel y bydd gan ein myfyrwyr ar ôl graddio yr hyder, y galluoedd a'r wybodaeth i gyflawni eu haddewid yn effeithiol yn y meysydd hynod broffidiol hyn, p'un a ydynt mewn swydd ddiwydiannol neu fasnachol, ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at y byd sydd ohoni a’i newidiadau cyson.

Mae'r cwrs newydd hwn yn amodol ar achrediad y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) pan fydd y garfan gyntaf yn graddio yn 2028.

Mae'r cwrs hwn ar agor i’r rhai sydd am gychwyn ym mis Medi 2025.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio MEng Peirianneg Drydanol ac Electronig Gynaliadwy ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Blaenoriaethir arloesedd ar gyfer cyflawni anghenion y gymdeithas o ran cyfathrebu, technoleg ac ynni. 
  • Rhoddir dealltwriaeth fanwl ynglŷn â chymhwyso electroneg ar gyfer cynaliadwyedd ac ynni adnewyddadwy.
  • Caiff gwybodaeth arbenigol ei meithrin am y cysyniadau diweddaraf mewn cyfathrebu, roboteg, cynhyrchu, moduron, pŵer, synwyryddion a rheoli.
  • Cewch eich dysgu i ddefnyddio'ch gwybodaeth i ddatrys problemau.
  • Caiff eich hyder a'ch sgiliau arbenigol eu meithrin er mwyn eu defnyddio mewn disgyblaethau peirianyddol a gwyddonol, er enghraifft ymchwil a datblygu diwydiannol, datblygu cynnyrch, a gweithio mewn labordai ymchwil gwladol, megis y Labordy Ffisegol Cenedlaethol.
  • Defnyddir ein hymchwil yn fasnachol ym mhob rhwydwaith optegol, yn y genhedlaeth newydd o fesureg gyda chyflwyniad mesuriadau saernïo manwl di-ddirgryniad.
  • Gallwch astudio nifer o fodiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg, a gallai hyn eich gwneud yn gymwys am rai ysgoloriaethau.
  • Mae'r radd Meistr Integredig hon hefyd ar gael gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant (163MY).
Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ffiseg gymwysterau hyd at safon PhD a hanes o wneud gwaith ymchwil yn eu meysydd arbenigol.

Gyrfaoedd

Mewn byd sy’n newid mae angen technoleg sy’n newid yn ogystal â'r bobl i'w darparu, ac mae hyn yn gwneud gradd mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig yn ddewis gyrfa ysgogol a gwerth chweil. Mae peirianwyr trydanol ac electronig yn gweithio ar ymylon arloesol byd technoleg ymarferol, gan wella'r dyfeisiau a'r systemau a ddefnyddiwn bob dydd, o systemau ynni'r haul i ffonau symudol. Cynlluniwyd y cwrs hwn er mwyn i fyfyrwyr allu meithrin gyrfa mewn peirianneg, ymchwil a datblygu.

Mae diwydiant yn symud tuag at y pedwerydd chwyldro diwydiannol a thu hwnt, gyda lefelau cynyddol o reolaeth, awtomeiddio (roboteg) a thechnoleg efeilliaid digidol. Mae targedau sero net yn sbarduno mwy a mwy o drydaneiddio, mewn meysydd yn cynnwys cynhyrchu, rhwydweithiau dosbarthu (Smart), a defnyddio (trafnidiaeth). Mae Llywodraeth San Steffan wedi penderfynu mai dim ond ceir trydan neu hybrid fydd ar gael yn newydd o 2030 ymlaen, ac oherwydd hynny mae galwadau enfawr ar bob elfen o'r seilwaith. Bydd angen sgiliau arbenigol ar geir awtonomaidd y dyfodol hyd yn oed. Mae gwyddoniaeth feddygol, cyfrifiadura (gan gynnwys cwantwm), deallusrwydd artiffisial, cyfathrebu ac arbenigeddau eraill yn creu hyd yn oed mwy o alw am sgiliau peirianneg drydanol ac electronig, gan greu angen am raddedigion mwy cymwys yn y maes.

Yn Adroddiad Fforwm Economaidd y Byd ar Ddyfodol Swyddi (2023), dywedir bod Arbenigwyr Cynaliadwyedd yn un o’r tair swydd sy'n tyfu gyflymaf, ac mae Peirianwyr Ynni Adnewyddadwy, a Pheirianwyr Gosod Systemau Ynni Solar a Pheirianwyr Systemau yn cael eu henwi yn swyddi sy'n tyfu'n gymharol gyflym, wrth i economïau symud tuag at ynni adnewyddadwy.

Pa gyfleoedd profiad gwaith a geir wrth astudio? 

Os oes gennych ddiddordeb mewn treulio cyfnod estynedig ar leoliad gwaith sy'n cyfrif tuag at eich gradd, BEng Peirianneg Drydanol ac Electronig gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant yw’r radd ar eich cyfer chi. Mae'r cwrs pedair blynedd hwn yn union yr un fath â'r cwrs tair blynedd, ond mae'n cynnwys blwyddyn ychwanegol y byddwch yn ei threulio yn gweithio mewn diwydiant.

Dysgwch fwy am yr amrywiaeth o gyfleoedd y mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn eu cynnig. 

Gallwch wella eich rhagolygon am swydd gyda'n Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith a’n Rhaglen Gymorth i Baratoi am Yrfa.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Mae tair blynedd gyntaf y cwrs hwn yn union yr un fath â’r BEng Peirianneg Drydanol ac Electronig. Bydd y flwyddyn astudio ychwanegol yn dyfnhau eich gwybodaeth ac yn ehangu eich sgiliau ymchwil, gan arwain at gymhwyster ar lefel ôl-raddedig.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio modiwlau craidd a fydd yn cyflwyno’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer peirianneg, gan gynnwys mathemateg, cyfrifiadura, technegau labordy, materion proffesiynol a moesegol, ac ymarfer diwydiannol cynaliadwy. Bydd sesiynau ymarferol yn y labordy yn datblygu dealltwriaeth ymarferol o'r gwahanol fathau o gydrannau trydanol a sut y gellir eu defnyddio i gyflawni swyddogaeth benodol. 

Yn yr ail flwyddyn, cewch eich cyflwyno i elfennau allweddol peirianneg drydanol ac electronig, a byddwch yn datblygu eich sgiliau ymarferol yn y meysydd hyn. Bydd y pynciau'n cynnwys pŵer trydanol, moduron/generaduron, synwyryddion, offeryniaeth, cyfathrebu, roboteg a systemau wedi'u mewnblannu. Fe gewch ddealltwriaeth o’r gofynion ynni sydd gan wahanol systemau cyfathrebu i bwysleisio pwysigrwydd datrysiadau carbon isel ar gyfer ein byd yn y dyfodol.

Yn y drydedd flwyddyn, byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n cwmpasu peirianneg systemau, technoleg lled-ddargludyddion, theori rheoli, peirianneg gyfathrebu, roboteg, a dysgu peirianyddol. Bydd eich dirnadaeth o’r byd real yn cael ei ehangu trwy gyflwyno optoelectroneg a'i gymwysiadau ym meysydd synhwyro, cyfathrebu optegol a gwyddor bywyd. Hefyd, trwy gyfrwng eich prosiect unigol, byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiectau, sy'n rhan annatod o ymchwil a datblygu, a bydd hyn yn gaffaeliad gwerthfawr yn y gweithle. Bydd rhestr o fodiwlau dewisol yn caniatáu ichi ganolbwyntio ar feysydd sydd o ddiddordeb arbennig i chi.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect mawr, gan weithio gyda phartner diwydiannol, a fydd yn rhoi dirnadaeth allweddol i chi am faterion yn y byd gwaith go iawn. Bydd modiwlau mewn ynni adnewyddadwy yn dangos sut y gallwch gefnogi’r sector pwysig hwn sydd ar ei dwf a dylanwadu arno, a byddwch hefyd yn dysgu sut i fasnacheiddio cysyniad trwy ein modiwl arloesi cynnyrch a mentergarwch.

Trwy gydol yr amrywiol sesiynau ymarferol a’r gweithdai bydd eich gallu i greu cysyniad a modelu yn cael eu datblygu gan ddefnyddio offer a phecynnau efelychu megis COMSOL, MATLAB Simulink a Zemax, a fydd yn caniatáu ichi ychwanegu gwerth aruthrol i unrhyw brosiect datblygu masnachol.

Sut y bydda i'n cael fy nysgu?

Cewch eich dysgu trwy ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai, sesiynau ymarferol, gwaith prosiect unigol a grŵp.

Sut y caf fy asesu?

Cewch eich asesu trwy waith cwrs ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, adroddiadau labordy, dyddiaduron labordy ac arholiadau. Bydd datrys problemau, modelu a phrofion labordy yn rhan o rai asesiadau.

Tiwtor Personol

Bydd tiwtor personol yn cael ei roi ichi ac ef neu hi fydd eich prif gyswllt trwy gydol eich astudiaethau. Gall eich tiwtor personol eich helpu i ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd gyntaf a bydd wrth law i'ch cynorthwyo gyda materion academaidd neu bersonol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 120

Safon Uwch ABB-BBB gan gynnwys B mewn Ffiseg a B mewn Mathemateg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with specified subject and B in A level Physcis and B in Mathematics

Bagloriaeth Ryngwladol:
32-30 points overall with 5 points in Physics and 5 points in Mathematics at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75% overall with 7 Physics and Mathematics

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|