MEng

Ffiseg Beiriannol (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Ffiseg Beiriannol (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod 168F Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae Ffiseg Peiriannol (gyda Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant a Hyfforddiant Proffesiynol) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cymhwyso egwyddorion a thechnegau ffisegol i beirianneg a thechnoleg. Mae'r radd yn cyfuno gwybodaeth, hyfforddiant a sgiliau disgyblaeth mewn Ffiseg er mwyn creu datrysiadau peirianyddol mewn sefyllfaoedd go iawn.

Mae'r radd wedi'i hachredu gan y Sefydliad Ffiseg (IOP) ac, er ei bod yn un o'r disgyblaethau academaidd hynaf, mae'n gwneud cyfraniadau sylweddol i gymdeithas fodern, gyda datblygiadau damcaniaethol sy'n bwydo i mewn i'r gwyddorau newydd ac yn meithrin technolegau modern.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ffiseg Peiriannol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Graddio gyda chymhwyster Meistr i ehangu ar eich opsiynau gyrfaol
  • Canolbwyntio ar elfennau ymarferol a thechnoleg gwybodaeth cryf
  • Ennill gwybodaeth arbenigol mewn pynciau megis: electroneg micro a nano, ffotoneg gymhwysol, dylunio a chynhyrchu deunyddiau, technoleg cwantwm, roboteg, ynni'r haul ac offeryniaeth gofod
  • Paratoi am yrfa fel peiriannydd neu wyddonydd mewn meysydd megis Ymchwil a Datblygu diwydiannol, datblygu cynnyrch a gwaith mewn labordai ymchwil
  • Mae ein hymchwilwyr yn cymryd rhan ar hyn o bryd ym Mhrosiect ExoMars 2020 yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd ac yn peiriannu deunyddiau dimensiwn isel (hynny yw, graffin).


Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ffiseg gymwysterau hyd at safon PhD a hanes o wneud gwaith ymchwil yn eu meysydd arbenigol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Trydan a Magnetedd FG22510 10
Ffiseg Mathemategol FG26020 20
Numerical Techniques for Physicists PH26620 20
Optics PH22010 10
Sgiliau Ymchwil Ymarferol FG25720 20
Principles of Quantum Mechanics PH23010 10
Sensors, Electronics & Instrumentation PH24520 20
Thermodynamics PH21510 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Year In Industry PHS0160 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Concepts in Condensed Matter Physics PH32410 10
Engineering Control Theory PH33310 10
Particles, Quanta and Fields PH33020 20
Professional Skills in Engineering PH38210 10
Prosiect (gyda rheoli prosiect) FG37040 40
Semiconductor Technology PH33610 10
Systems Engineering CS33020 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Research Topics PHM7020 20
Prif Brosiect FGM5860 60

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Quantum Physics PHM3010 10
Sgiliau Uwch Mewn Ffiseg FGM6420 20
Electromagnetic Theory PHM2510 10
Fundamentals of Intelligent Systems CSM6120 20
Internet Technologies CHM5720 20
Sgiliau Uwch Mewn Ffiseg FGM6420 20

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Ffiseg Peiriannol?

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i ganiatáu i fyfyrwyr ddatblygu a dilyn gyrfa ym maes Peirianneg, Ymchwil a Datblygu.

Ond, mae graddedigion eraill o'r Adran Ffiseg wedi dilyn llwybrau eraill:

  • Ffisegydd Meddygol
  • Ymarferydd Diogelu rhag Ymbelydredd
  • Gwyddonydd Ymchwil
  • Datblygwr Systemau
  • Datblygu Cynnyrch
  • Awdur Technegol
  • Meteorolegwyr

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu a moeseg. Rydym yn rhoi'r sgiliau canlynol i'n myfyrwyr:

  • Sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • Sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • Y gallu i weithio'n annibynnol
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • Y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain
  • Y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pum mlynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech archwilio:

  • Calcwlws
  • Dynameg Glasurol
  • Ffiseg Glasurol
  • Cyflwyniad i Ffiseg Gyfrifiadol ac Arbrofol
  • Algebra a Hafaliadau Gwahaniaethol 
  • Technoleg Cyfathrebu
  • Grymoedd ac Ynni
  • Ffiseg Fodern 
  • Cyflwyniad i Ffiseg Gyfrifiadol ac Arbrofol

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech ddarganfod:

  • Ffiseg Mathemategol   
  • Thermodynameg
  • Trin Data ac Ystadegau
  • Offeryniaeth, Electroneg a Synwyryddion
  • Opteg
  • Trydan a Magnetedd 
  • Ffiseg Arbrofol 
  • Mecaneg Cwantwm

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch blwyddyn o leoliad yn y diwydiant. 

Yn ystod eich pedwaredd flwyddyn, gallech ymchwilio i'r canlynol:

  • Cysyniadau mewn ffiseg mater cywasgedig
  • Dulliau Rhifiadol
  • Peirianneg Systemau 
  • Damcaniaeth Rheoli Peirianneg 
  • Technoleg Lled-ddargludyddion
  • Prosiect unigol
  • Atomau a Moleciwlau Treiddgar
  • Materion proffesiynol yn y diwydiant
  • Opteg a Ffotoneg Fodern
  • Penderfyniad Strwythur Mater Cywasgedig 
  • Dysgu Peirianyddol 
  • Roboteg Gofod

Yn ystod eich pumed flwyddyn, byddwch yn cyflawni neu'n astudio: 

  • Prosiect mawr
  • Damcaniaeth Electromagneteg
  • Cyfleu Pynciau mewn Ffiseg
  • Technoleg Cwantwm
  • Dulliau Rhifiadol Uwch 
  • Hanfodion Systemau Deallus 
  • Dysgu Peirianyddol ar gyfer Systemau Deallus 
  • Technolegau'r Rhyngrwyd 

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Rydym yn addysgu ein myfyrwyr drwy ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai, sesiynau ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp.

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau labordy, dyddiaduron labordy ac arholiadau.

Rhagor o wybodaeth:

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau yn y dyfodol.

Gall myfyrwyr sy'n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg wneud hynny gyda'n modiwlau cyfrwng Cymraeg. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 120

Safon Uwch ABB-BBB gan gynnwys B mewn Ffiseg a B mewn Mathemateg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with specified subject and B in A level Physcis and B in Mathematics

Bagloriaeth Ryngwladol:
32-30 points overall with 5 points in Physics and 5 points in Mathematics at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75% overall with 7 Physics and Mathematics

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|