BA

Astudiaethau Saesneg a Newid Hinsawdd

BA Astudiaethau Saesneg a Newid Hinsawdd Cod FQ73 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae ein gradd gyfun mewn Astudiaethau Saesneg a Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig dealltwriaeth drwyadl a beirniadol o'r trafodaethau ideolegol sy'n ffurfio sut rydym yn darllen ac yn ysgrifennu, yn herio ein canfyddiadau ynghylch y mannau rydym yn darllen ac yn ysgrifennu amdanynt, ac yn holi pwy ydym ni.

Dewch i ymuno â ni yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn Aberystwyth i astudio'r pwnc diddorol ac amserol hwn. Byddwch yn astudio testunau sy'n trafod ac yn cynrychioli newid yn yr hinsawdd, ac sy'n cloriannu'r argyfwng hinsawdd a'i effeithiau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol ac ecolegol.

Trwy ofyn cwestiynau sy'n ysgogi’r meddwl ynghylch ymateb pobl i newid yn yr hinsawdd, bydd y cwrs yma yn rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth i ddadansoddi gwahanol safbwyntiau ar her fyd-eang. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddatblygu eich ysgrifennu eich hun ar draws ystod eang o arddulliau, yn seiliedig ar eich dealltwriaeth o'r wyddoniaeth a'r wleidyddiaeth sydd wrth wraidd yr argyfwng hinsawdd.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Astudiaethau Saesneg a Newid yn yr Hinsawdd ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn rhan o Gymuned Ddysgu Ryngddisgyblaethol gyffrous lle byddwch yn astudio gwyddoniaeth newid yn yr hinsawdd o safbwynt sawl pwnc (Daearyddiaeth, Bioleg, Gwleidyddiaeth ac, wrth gwrs, Dadansoddiad Llenyddol). 
  • Byddwch yn cymryd rhan mewn dull dysgu yn seiliedig ar ddatrys problemau lle byddwch yn cael senarios ac efelychiadau bywyd go iawn a fydd yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyd-drafod ac adeiladu tîm sy'n hanfodol i ystod eang o leoliadau cyflogaeth. 
  • Byddwch yn cael gwybodaeth arbenigol am ymatebion ffuglennol ac anffuglennol i'r hinsawdd - o adroddiadau Rhamantiaeth am "y flwyddyn heb haf" yn 1816, i ddadansoddiadau o ddyfodol amgen mewn ffuglen ddamcaniaethol gyfoes.
  • Byddwch yn dadansoddi achosion a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd a diraddio amgylcheddol, a sut mae llenyddiaeth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd heddiw yn cyfeirio at newid yn yr hinsawdd.
  • Yn y modiwl Crisis Writing byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol mewn gwahanol genres a ffurfiau a byddwch hefyd yn meithrin yr wybodaeth a’r sgiliau arbenigol sydd gan fyfyriwr graddedig mewn Saesneg, gan gynnwys y gallu i ddefnyddio eich profiad a'ch gwybodaeth am y pwnc hynod ddiddorol hwn yn eich gwaith eich hun wrth ysgrifennu am yr argyfwng hinsawdd. 
  • Byddwch yn edrych ar y cysylltiadau rhwng newid yn yr hinsawdd a heriau byd-eang eraill (megis gwrthdaro, mudo, anghydraddoldeb, ac ymynysedd) a'r modd y mae'r heriau hyn yn cael eu cyfleu i wahanol gynulleidfaoedd. 
  • Byddwch yn myfyrio ar y modd y mae cynefinoedd, adnoddau a systemau ecolegol ein planed yn cael eu hadlewyrchu yn y straeon yr ydym yn eu hadrodd, a sut mae straeon o'r fath yn herio'r status quo gwleidyddol.
Ein Staff

Mae'r holl staff academaidd yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn ysgolheigion ac arbenigwyr gweithgar yn eu meysydd. Maent naill ai'n gymwys i lefel PhD neu mae ganddynt brofiad cymesur.  Mae gan ein darlithwyr naill ai gymhwyster dysgu Addysg Uwch neu'n maent yn gweithio tuag ato, ac mae gan y rhan fwyaf o’r staff academaidd hefyd Gymrodoriaethau gyda’r Academi Addysg Uwch.  

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r radd hon yn llwyddiannus mewn sefyllfa dda i ddilyn gyrfa ym meysydd rheoli, addasu a lliniaru newid hinsawdd yn y DU a thramor. Byddant hefyd yn gymwys ar gyfer gyrfaoedd mewn meysydd cysylltiedig megis addysg amgylcheddol ac ymgynghori, neu gadwraeth. Mae eraill yn debyg o fynd ymlaen i astudio ar lefel uwchraddedig - gradd Meistr neu Ddoethuriaeth.

Dysgu ac Addysgu

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, bydd modiwlau craidd yn rhoi i chi'r sylfaen angenrheidiol er mwyn gallu ymwneud yn llwyddiannus â llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol ar lefel cymhwyster prifysgol. Byddwch yn astudio llenyddiaeth o Chaucer i Defoe. Byddwch hefyd yn trin a thrafod gwyddoniaeth newid hinsawdd, gan weithio gyda staff a myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill a chymryd rhan mewn dull rhyngddisgyblaethol o astudio'r pwnc diddorol hwn. 

Yn ogystal â hyn byddwch yn dewis o blith amrywiaeth gyffrous o fodiwlau dewisol sy’n cynnwys ystod eang o leoedd a chyfnodau a fydd yn eich galluogi i ymateb i'r hyn y byddwch yn ei ddysgu, boed hynny'n greadigol, trwy gyfrwng eich ysgrifennu eich hun, neu'n feirniadol trwy gyfrwng traethodau.

Yn ystod eich ail a'ch trydedd flwyddyn, byddwch yn adeiladu ar sail eich gwaith, gyda staff a myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill, yn y modiwl craidd:  The Governance of Climate Change. Cewch eich cyflwyno i broblemau bywyd go-iawn ar draws y byd a byddwch yn datblygu’r sgiliau sy’n hanfodol i ymdrin â heriau byd-eang heddiw ac yn y dyfodol. Byddwch hefyd yn astudio modiwlau craidd a fydd yn rhoi ichi wybodaeth fanwl am ymatebion ffuglennol ac anffuglennol i'r hinsawdd a byddwch yn datblygu eich gwaith ysgrifennu creadigol eich hun ym mha bynnag genre neu ffurf a ddewiswch yn y modiwl Crisis Writing. Yn ogystal, byddwch yn dewis o blith ystod eang o fodiwlau dewisol lle cewch deilwra eich rhaglen i gyd-fynd â'ch diddordebau penodol. Mae ein modiwlau Saesneg ac ysgrifennu yn ymdrin ag ystod eang o genres a fydd yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn dadleuon ideolegol sy'n ffurfio sut rydym yn darllen ac yn ysgrifennu, yn herio ein canfyddiadau ynghylch y mannau hynny yr ydym yn darllen ac yn ysgrifennu amdanynt, ac yn holi pwy ydym ni. 

Yn y flwyddyn olaf bydd y Prosiect Ysgrifennu Creadigol neu’r Traethawd Hir Saesneg yn rhoi cyfle i chi ddwyn eich gwybodaeth amlddisgyblaethol ac o bynciau penodol ynghyd, a gweithio gydag arolygwyr academaidd ar draws ffiniau traddodiadol y pynciau. Bydd cyfle i chi gymryd rhan yn ein Hencil Ysgrifennu flynyddol a gynhelir mewn safle hanesyddol yng nghefn gwlad hyfryd y Canolbarth, gan weithio ar eich prosiect blwyddyn olaf. Mae hwn yn ddiweddglo teilwng i radd a fydd yn eich herio i ddod yn eiriolwyr hyddysg, medrus a brwd dros newid.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|