BA

Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

BA Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Cod QW38 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Os ydych chi wrth eich bodd yn byw mewn byd o ddychymyg a chreadigrwydd, cofrestrwch ar gyfer y cwrs gradd Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yma ym Mhrifysgol Aberystwyth lle ceir tirweddau hardd sy’n sicr o’ch ysbrydoli. Dewch i ymuno â'n cymuned glos o fyfyrwyr a staff yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol a mwynhau gweithio gydag awduron ifanc eraill mewn lle sy’n llawn egni a syniadau newydd.

Ar y cwrs arloesol hwn, cewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu creadigol a beirniadol. Cewch eich dysgu gan awduron nodedig, proffesiynol, a bydd y radd hon yn rhoi profiadau heriol a gwerth chweil i chi. Trwy astudio gwahanol genres ac arddulliau ynghyd â dulliau a thechnegau ysgrifennu, byddwch yn datblygu ystod o gymwyseddau a galluoedd, sgiliau a phriodoleddau y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr, gan eich rhoi mewn sefyllfa gref i gael gwaith pan fyddwch yn graddio. 

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn Aberystwyth?

  • Cewch eich dysgu gan aelodau o staff sy'n awduron nodedig, yn ymarfer eu crefft ac wedi cyhoeddi eu gwaith ar draws sbectrwm eang o feysydd llenyddol.
  • Byddwch yn cael eich annog i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu creadigol a beirniadol.
  • Byddwch yn cael eich annog i ehangu eich cwmpas a’ch galluoedd fel awdur er mwyn i chi fedru gweithio yn hyderus mewn gwahanol ddulliau a genres.
  • Rydym yn cynnig cyfleoedd i chi drafod amrywiaeth eang o ddulliau o ymdrin â llenyddiaeth a hanes diwylliannol, gan gyfuno meddwl beirniadol ag ysgolheictod.
  • Bydd cyfle i chi drin a thrafod damcaniaethau llenyddol – y syniadau athronyddol a chysyniadol sy’n herio, yn codi cwestiynau ac yn taflu goleuni ar y modd yr ydym ni’n darllen. 
  • Yn ystod eich blwyddyn olaf cewch gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yng nghanolbarth Cymru - cyfle anhygoel i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu eich prosiectau a'ch traethodau hir, mewn lleoliad gwledig prydferth.
  • Mae gennym un o'r llyfrgelloedd mwyaf yn y byd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar garreg ein drws. Mae'r sefydliad hawlfraint hwn yn cael copi o bob llyfr a gyhoeddir yn y Deyrnas Unedig.
  • Mae'r adran yn gartref i’r New Welsh Review, cylchgrawn llenyddol mwyaf blaenllaw Cymru - gallai hwn fod yn gyfle cyffrous i chi gymryd rhan.
  • Byddwch yn cael eich trochi mewn cymuned gefnogol a bywiog o feddylwyr creadigol a beirniadol, arbenigwyr llenyddol, ac awduron cyhoeddedig o bob maes. 
Ein Staff

Mae'r holl staff academaidd yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn ysgolheigion ac arbenigwyr gweithgar yn eu meysydd. Maent naill ai'n gymwys i lefel PhD neu mae ganddynt brofiad cymesur.  Mae gan ein darlithwyr naill ai gymhwyster dysgu Addysg Uwch neu'n maent yn gweithio tuag ato, ac mae gan y rhan fwyaf o’r staff academaidd hefyd Gymrodoriaethau gyda’r Academi Addysg Uwch.  

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Rhagolygon o ran Gyrfa

Mae gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn cynnig "safon aur" ar gyfer unrhyw weithle sy’n gwerthfawrogi pwysigrwydd cyfathrebu a'r gair ysgrifenedig. Mae ein holl fodiwlau yn darparu sgiliau allweddol sy'n golygu y gallwch feithrin CV cynhwysfawr sy'n tystio i amrywiaeth eang eich galluoedd.

Mae ein graddedigion wedi llwyddo ar draws yr ystod ehangaf posib o yrfaoedd gan gynnwys:

  • darlledu
  • newyddiaduraeth
  • hysbysebu
  • cyhoeddi
  • addysg
  • y Gwasanaeth Sifil
  • busnes
  • cyllid
  • y Cyfryngau Newydd.

 Bydd eich gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn rhoi i chi:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i ymdrin â chysyniadau haniaethol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • gweithio mewn tîm a'r gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Pa gyfleoedd profiad gwaith a geir wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda  GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Mae'r radd hon yn seiliedig ar ein cred gadarn bod angen i chi fod yn ddarllenwr da er mwyn dod yn awdur gwirioneddol wych. Byddwch yn datblygu sgiliau uwch wrth ddehongli a dadansoddi testunau llenyddol, byddwch yn dod ar draws testunau o sawl cyfnod a genre hanesyddol. Drwy gydol y cwrs byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth am lenyddiaeth a chynhyrchu testun yn eich gwaith creadigol eich hun, gan ystyried y berthynas rhwng ymarfer creadigol a beirniadol. 

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn dysgu am:

  • amrywiaeth o dechnegau ar gyfer darllen ac ysgrifennu ffuglen a barddoniaeth
  • dulliau o ysgrifennu disgrifiadol
  • pwysigrwydd plot
  • defnyddio deialog
  • rhai ffigurau allweddol o hanes llenyddiaeth (o Shakespeare i'r chwiorydd Brontë)
  • testunau llai adnabyddus, ac awduron sy'n newydd i chi
  • sawl "ffordd o ddarllen" a rhai dulliau damcaniaethol o ddadansoddi testunau
  • barddoniaeth, rhyddiaith, drama, llenyddiaeth Americanaidd, addasiadau, llenyddiaeth glasurol, ysgrifennu cyfoes, testunau canoloesol a llawer mwy.

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • ymagweddau damcaniaethol tuag at feirniadaeth lenyddol, ac arfer beirniadaeth lenyddol
  • eich arddull ysgrifennu eich hun, yn seiliedig ar eich darllen a'ch ymchwil
  • ystod o destunau craidd dethol o'r cyfnod canoloesol hyd at yr unfed ganrif ar hugain
  • nifer o bynciau arbenigol o'ch dewis chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel oes Fictoria), neu thema (fel "trawsosod").

Yn ystod eich blwyddyn olaf byddwch yn meistroli:

  • theori ar gyfer awduron ac yn cymhwyso safbwyntiau damcaniaethol i gynhyrchu eich gwaith creadigol eich hun a’i gloriannu’n feirniadol
  • gwaith ysgrifennu ac ymchwil annibynnol estynedig yn eich prosiect ysgrifennu blwyddyn olaf (wedi’i ddewis a’i ddiffinio gennych chi gyda chefnogaeth awdur cyhoeddedig) 
  • eich arbenigeddau eich hun wedi’u dewis o blith ystod amrywiol o fodiwlau dewisol a ddysgir gan awduron yn y meysydd hynny, gan gynnwys pynciau megis drama yn oes Elisabeth, y stori ysbryd, ffuglen cwiar, ysgrifennu i blant, ffuglen wyddonol a ffantasi, a llawer mwy.     

Yn ystod eich blwyddyn olaf cewch gyfle hefyd i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yng nghanolbarth Cymru - cyfle anhygoel i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu eich prosiectau a'ch traethodau hir, mewn lleoliad gwledig prydferth. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Dysgir ein gradd trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, a thiwtorialau un i un. Rydym hefyd yn annog dysgu hunangyfeiriedig sydd wedi'i gynllunio i ysgogi eich diddordeb academaidd mewn darllen ac ysgrifennu ac i feithrin eich datblygiad personol a deallusol.

Cewch eich asesu drwy bortffolios o'ch gwaith creadigol, sylwebaethau beirniadol, traethodau, arholiadau a chyflwyniadau llafar. Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau aseiniadau ychwanegol, heb eu hasesu, a gweithio gydag eraill ar dasgau penodol.

Rhagor o Wybodaeth:

Wrth i chi astudio, byddwch yn datblygu ystod o sgiliau a fydd o fudd i chi mewn astudiaeth bellach neu unrhyw weithle i raddedigion. Byddwch yn dysgu sut i: ddefnyddio nifer o dechnegau beirniadol wrth ystyried testunau; datblygu ymarfer myfyriol wrth ddarllen ac ysgrifennu; mynegi dadansoddiad beirniadol manwl o'ch pwnc; ac ymateb i unrhyw dasg gyda chreadigrwydd, dawn a steil.

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo ar eich cyfer a fydd yn eich helpu ag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed academaidd neu fugeiliol. Bydd eich tiwtor personol hefyd yn gyfrifol am gyflwyno tiwtorialau a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae pori trwy'r llenyddiaeth a ddarperir yn rhan Saesneg y cwrs yn ehangu eich gwybodaeth yn barhaus, a’ch galluogi i fodoli mewn gwirionedd ym myd y Rhamantwyr, neu ffeministiaid y 1900au.  Ac eto, mae elfen greadigol y cwrs yn eich galluogi i wella a mowldio’ch dychymyg er mwyn iddo fod y gorau y gall fod. Mae dod â’r ddau at ei gilydd yn rhoi ichi wybodaeth wych am y llenyddiaeth sydd eisoes yn bod, ac yn eich galluogi i ddeall yn well sut i greu eich gwaith eich hun. Gydag arweiniad y tiwtoriaid ar y cwrs, rwy’n teimlo fy mod wedi dysgu cymaint ac yn parhau i ddysgu mwy am sut i ysgrifennu a llunio rhyddiaith. Mae wedi rhoi’r cyfle gorau i mi gyhoeddi fy nofel fy hun un diwrnod. Camilla Woodrow-Hill

Mae'n ehangu’ch dychymyg, yn herio'ch galluoedd, ac yn dysgu gwahanol arddulliau a thechnegau i chi na fyddech efallai erioed wedi meddwl rhoi cynnig arnynt pe na baech wedi bod ar y cwrs hwn. Rwyf wedi dysgu cymaint, ac rwyf mor falch o’m cyflawniadau - mae gweld ticiau a sylwadau cadarnhaol wedi'u sgrifennu wrth ymyl fy ngwaith yn rhoi hyd yn oed mwy o ysbrydoliaeth i mi ar gyfer dyfodol fy ysgrifennu. Hannah Buck

Mae Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddysgu oddi wrth y Mawrion clasurol a chyfoes, ac yna, yn ystod y Gweithdai Ysgrifennu Creadigol, mae’n rhoi cyfle i chi ddatblygu eich crefft eich hun fel awdur. Roedd y dewis mor amrywiol: o fodiwlau am y Canoloesoedd a’r Dadeni i Fenywod yn y Theatr a Ffuglen Rhyfel. Roeddwn wrth fy modd yn astudio Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol oherwydd cefais ddysgu ac ysgrifennu am bethau a oedd o ddiddordeb i mi. Roedd y darlithwyr bob amser yn barod i helpu, gwrando a siarad am unrhyw broblemau oedd gen i gan wneud fy ngradd yn bleserus iawn. Nicola Anne Henderson 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|