BA

Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

BA Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Cod QW38 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Bydd ein cwrs cyfun mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn rhoi ichi’r cyfle i ddatblygu i fod yn ymarferydd creadigol yn ogystal ag un beirniadol. Bydd y radd yn eich helpu i ehangu amrywiaeth a hyd a lled eich dawn ysgrifennu, a’ch galluogi i weithio’n hyderus mewn sawl ffurf a genre.


Trosolwg o'r Cwrs

Byddwch yn datblygu ymarfer ysgrifennu adfyfyriol a arweinir gan wybodaeth eang o ysgrifennu cyfoes ac o’r gorffennol, dealltwriaeth o’r cyd-destun llenyddol a diwylliannol sy’n gefndir i’r broses o ysgrifennu ac o ddarllen llenyddiaeth; ac ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o wahanol agweddau ar astudio llenyddiaeth ac ysgrifennu.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn Aberystwyth:

  • cyfle i ddysgu ochr yn ochr â thîm o awduron nodedig, arobryn, sy’n gweithio ar draws sbectrwm eang o feysydd creadigol
  • traddodiad cryf o ddysgu arbenigol ym meysydd megis ysgrifennu menywod, ysgrifennu a lle, ysgrifennu LGBTQ+, drama’r Dadeni a Rhamantiaeth
  • cyfleoedd i ddatblygu eich ysgrifennu gydag ymarferwyr a chanddynt arbenigedd mewn amryw helaeth o arddulliau megis barddoniaeth gyfoes, y nofel graffig, ffuglen wyddonol, ac ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, y sgrin, a’r radio
  • cymryd rhan mewn enciliad ysgrifennu a gynhelir mewn tŷ yng nghefn gwlad canolbarth Cymru.


Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Beginning Creative Writing Part 1 WR11020 20
Critical Practice EN11320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Academic Writing: Planning, Process and Product IC17720 20
American Literature 1819-1925 EN11220 20
Ancestral Voices EN10220 20
Beginning Creative Writing Part 2 WR11120 20
Contemporary Writing EN10520 20
Greek and Roman Epic and Drama CL10120 20
Introduction to Poetry WL10420 20
Language Awareness for TESOL IC13420 20
Literature And The Sea WL11420 20
Re-imagining Nineteenth-Century Literature WL10120 20

Gyrfaoedd

Mae gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn cynnig hyfforddiant ‘safon aur’ ar gyfer unrhyw swydd lle mae cyfathrebu yn hollbwysig. Mae llawer o’n graddedigion yn ysgrifenwyr llwyddiannus ac yn cyhoeddi mewn amrywiaeth fawr o feysydd megis ffuglen, ysgrifennu ffeithiol, y cyfryngau newyddiadurol, barddoniaeth, ysgrifennu ar gyfer y sgrin a drama. Mae eraill wedi datblygu gyrfa lwyddiannus ym maes cyhoeddi, newyddiaduraeth, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, dysgu, golygu, a hysbysebu.

Dysgu ac Addysgu

Dyma’r modiwlau y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Creative Practice
  • Critical Practice.

Yr ail flwyddyn:

  • Literary Theory: Debates and Dialogues.

Y flwyddyn olaf:

  • The Writing Project
  • Undergraduate Dissertation.

Dyma rai o’r modiwlau dewisol y gallwch eu hastudio i ddatblygu eich diddordebau arbenigol:

  • Ancestral Voices
  • Contemporary Queer Fictions and Demons
  • Kapow! Reading and Writing Graphic Narratives
  • Degenerates and New Women (Fin De Siècle Fictions)
  • Greek and Roman Epic and Drama
  • Re-imagining Nineteenth-century Literature
  • Literature and the Sea
  • Adventures with Poetry
  • Contemporary Writing and Climate Crisis
  • Telling True Stories: Ways of Writing Creative Non-fiction
  • Writing Selves
  • Writing and Place
  • Remix: Chaucer in the Then and Now
  • Writing Crime Fiction.


Tystiolaeth Myfyrwyr

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|