Pam astudio Llenyddiaeth Saesneg / Drama ac Astudiaethau Theatr yn Aberystwyth?
- Rydym ymhlith y 10 uchaf yng ngwledydd Prydain am foddhad myfyrwyr (ACF, 2017).
- Byddwch yn cael eich addysgu gan staff sy'n arweinwyr drwy'r byd yn eu meysydd arbenigol. Mae myfyrwyr yn cael budd o'n cysylltiadau â phartneriaid allweddol yn y diwydiant, fel Theatr Genedlaethol Cymru, Music Theatre Wales, Cwmni Theatr Quarantine, a National Theatre Wales.
- Byddwch yn cael eich trochi mewn cymuned gefnogol a bywiog o feddylwyr creadigol a beirniadol, arbenigwyr o'r diwydiant, ac awduron cyhoeddedig o bob maes.
- Byddwch yn fyfyriwr mewn amgylchedd creadigol llewyrchus sydd â hanes hir a llwyddiannus fel llwyfan i hybu talent newydd uchelgeisiol.
- Byddwch yn archwilio cysylltiadau rhwng meddwl yn greadigol ac yn feirniadol, a datblygu dealltwriaeth ddofn o'r berthynas rhwng ymarfer proffesiynol a meddwl dychmygus.
- Byddwch yn elwa ar ein perthynas gydweithredol unigryw gyda Chanolfan y Celfyddydau. Mae'r cyfleuster hwn ar y campws yn adnodd ardderchog i staff a myfyrwyr fel ei gilydd.
- Byddwch yn elwa o fynediad diderfyn i'r Llyfrgell Genedlaethol (un o bum llyfrgell hawlfraint ym Mhrydain).
Ein Staff
Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.
Rhagolygon Gyrfa
Mae gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg a Drama ac Astudiaethau Theatr yn "safon aur" ar gyfer lleoliad gwaith lle rhoddir gwerth ar gyfathrebu. Mae pob un o'n modiwlau'n darparu sgiliau allweddol sy'n eich galluogi i adeiladu C.V. cynhwysfawr sy'n dangos eich ystod amrywiol o gymwyseddau.
Mae ein graddedigion wedi llwyddo yn y meysydd gyrfaol mwyaf eang posib:
- darlledu
- newyddiaduraeth
- hysbysebu
- cyhoeddi
- addysg
- y Gwasanaeth Sifil
- busnes
- cyllid
- y cyfryngau newydd.
Sgiliau Trosglwyddadwy
Bydd astudio am radd mewn Llenyddiaeth Saesneg yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:
- y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
- sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
- y gallu i weithio'n annibynnol
- sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
- y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
- hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
- y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
- sgiliau ymchwil.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y radd hon yn eich galluogi i archwilio llenyddiaeth o bob genre ac o bob cyfnod yng nghyd-destun y dehongliad ehangaf posib o lenyddiaeth yn Saesneg. Byddwch yn dod yn fedrus wrth ddehongli a dadansoddi testunau llenyddol a byddwch yn ymgysylltu â thrafodaethau beirniadol cyfredol.
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech ddarganfod:
- technegau newydd ar gyfer dadansoddi testunau llenyddol
- rhai ffigyrau allweddol o hanes llenyddol (o Shakespeare i'r Brontës)
- astudiaeth o theatr
- cynhyrchu cyfryngau, gan ddatblygu eich sgiliau ymarferol ym mhob cam o'r broses
- testunau llai hysbys, ac awduron sy'n newydd i chi
- amrywiaeth o "ffyrdd o ddarllen" a dulliau damcaniaethol o ddadansoddi testunau
- barddoniaeth, rhyddiaith, drama, llenyddiaeth Americanaidd, addasiadau, llenyddiaeth glasurol, ysgrifennu cyfoes, testunau canoloesol a llawer mwy.
Yn eich ail flwyddyn, gallech archwilio:
- agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar feirniadaeth lenyddol
- ystod o destunau craidd dethol o'r canoloesoedd hyd at yr unfed ganrif ar hugain
- creu theatr gyfoes
- nifer o bynciau arbenigol a ddewiswyd gennych chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel Oes Fictoria), neu thema (fel "lle")
- theatr Ewropeaidd.
Yn ystod y drydedd flwyddyn, gallech feistroli:
- damcaniaeth lenyddol a chymhwyso safbwyntiau damcaniaethol i ddadansoddi llenyddol
- gwaith ysgrifennu ac ymchwil annibynnol estynedig yn eich prosiect traethawd hir blwyddyn olaf (ar bwnc a ddewisir ac a ddiffinnir gennych chi)
- theatr, rhywedd a rhywioldeb
- sgriptio
- eich arbenigeddau eich hun o blith ystod amrywiol o fodiwlau opsiynol a addysgir gan ymchwilwyr yn y meysydd hynny. Mae ein modiwlau opsiynol yn cynnwys pynciau fel drama Elizabethaidd, y stori ysbryd, y nofel Saesneg gynnar, ffuglen queer, llenyddiaeth plant, rhamantiaeth, a llawer mwy.
Yn eich blwyddyn olaf, cewch gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yn y canolbarth - cyfle anhygoel i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu eich prosiectau a'ch traethodau hir, mewn lleoliad gwledig gwych.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Caiff ein cwrs gradd ei addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau un-i-un. Rydym hefyd yn annog dysgu hunan-gyfeiriedig, sydd â'r nod o ysgogi eich diddordeb academaidd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac i feithrin eich datblygiad personol a deallusol.
Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, arholiadau a chyflwyniadau llafar. Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau aseiniadau ychwanegol nad ydynt yn cael eu hasesu, a gweithio gydag eraill ar dasgau penodol.
Rhagor o wybodaeth
Wrth i chi astudio, byddwch yn datblygu ystod o sgiliau a fydd yn fanteisiol i chi mewn astudiaeth bellach neu unrhyw weithle graddedig. Byddwch yn dysgu: defnyddio technegau beirniadol amrywiol wrth drin testunau; datblygu arfer myfyriol mewn darllen ac ysgrifennu; mynegi dadansoddiad beirniadol manwl o'ch pwnc; ac ymateb i unrhyw dasg gyda chreadigrwydd, steil a dawn.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu fugeiliol. Bydd eich tiwtor personol hefyd yn gyfrifol am gyflwyno tiwtorialau a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Y peth dw i'n ei fwynhau am Ddrama a Saesneg yw bod strwythur y ddau gwrs yn Aberystwyth yn ategu ei gilydd mor dda, mae'r hyn dw i'n ei ddysgu yn Saesneg yn gallu bod o gymorth mawr i fy ngwaith Drama ac i'r gwrthwyneb. Mae'r ddau gwrs yn cynnig deunydd newydd a chyffrous i weithio arno ac maen nhw hefyd yn agor fy llygaid i wahanol safbwyntiau ar destunau clasurol. Dw i'n credu bod y cwrs nid yn unig wedi dysgu sgiliau academaidd i fi ond sgiliau bywyd a gwaith hefyd.
Ceri Sharman Roberts
Mae Drama a Saesneg yn rhoi hyder a gwybodaeth i chi ac yn agor cymaint o lwybrau i fyd theatr, addysgu, busnes ac ati. Rydych chi'n dysgu cymaint am fyd llenyddiaeth a'r theatr, fyddwn i ddim yn newid fy nghwrs am y byd. Dw i wedi magu mwy o hyder yn fy hun a'r hyn dw i'n ei wneud, a dw i bellach wedi gwneud cais am swyddi ac addysg bellach. Mae fy rhestr ddarllen wedi ehangu a galla i ddweud yn saff fy mod yn ymwybodol o ddiwylliannau mwy amrywiol o ganlyniad i'r ddau bwnc yma, a dw i'n falch o fod wedi cael cyfleoedd fel gweld cynyrchiadau amrywiol yng Nghanolfan y Celfyddydau.
Hannah Foster