Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Bydd y radd hon yn eich galluogi i archwilio llenyddiaeth o bob genre ac o bob cyfnod yng nghyd-destun y dehongliad ehangaf posib o lenyddiaeth yn Saesneg. Byddwch yn dod yn fedrus wrth ddehongli a dadansoddi testunau llenyddol a byddwch yn ymgysylltu â thrafodaethau beirniadol cyfredol.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech ddarganfod:
- technegau newydd ar gyfer dadansoddi testunau llenyddol
- rhai ffigyrau allweddol o hanes llenyddol (o Shakespeare i'r Brontës)
- testunau llai hysbys, ac awduron sy'n newydd i chi
- amrywiaeth o "ffyrdd o ddarllen" a dulliau damcaniaethol o ddadansoddi testunau
- barddoniaeth, rhyddiaith, drama, Llenyddiaeth Americanaidd, addasiadau, llenyddiaeth Glasurol, ysgrifennu cyfoes, testunau canoloesol a llawer mwy
- pwysigrwydd polisïau addysgol
- plentyndod mewn cymdeithas
- dinasyddiaeth fyd-eang.
Yn eich ail flwyddyn, gallech archwilio:
- agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar feirniadaeth lenyddol
- ystod o destunau craidd dethol o'r canoloesoedd hyd at yr unfed ganrif ar hugain
- nifer o bynciau arbenigol a ddewiswyd gennych chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel Oes Fictoria), neu thema (fel "lle")
- lleoliad saith wythnos o hyd gyda sefydliad sy'n ymwneud ag addysg, cymorth neu ddatblygiad
- archwilio ac asesu'n feirniadol ddamcaniaethau cymuned ac addysg
- dadansoddi effeithiau mudo a symudedd ar addysg
- datblygiad llythrennedd yn fyd-eang.
Yn ystod y drydedd flwyddyn, gallech feistroli:
- damcaniaeth lenyddol a chymhwyso safbwyntiau damcaniaethol i ddadansoddi llenyddol
- gwaith ysgrifennu ac ymchwil annibynnol estynedig yn eich prosiect traethawd hir blwyddyn olaf (ar bwnc a ddewisir ac a ddiffinnir gennych chi)
- eich arbenigeddau eich hun o blith ystod amrywiol o fodiwlau opsiynol a addysgir gan ymchwilwyr yn y meysydd hynny. Mae ein modiwlau opsiynol yn cynnwys pynciau fel drama Elizabethaidd, y stori ysbryd, y nofel Saesneg gynnar, ffuglen queer, llenyddiaeth plant, Rhamantiaeth, a llawer mwy
- safbwyntiau byd-eang ar hawliau ac iechyd yn y byd datblygol
- pob ffactor sy'n effeithio ar addysg a datblygiad
- materion cymunedol
- rôl unigolion a'r llywodraeth
- cymhwyso hawliau a deddfwriaeth
- effaith tlodi.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Caiff ein cwrs gradd ei addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau un-i-un. Rydym hefyd yn annog dysgu hunan-gyfeiriedig, sydd â'r nod o ysgogi eich diddordeb academaidd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac i feithrin eich datblygiad personol a deallusol.
Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, arholiadau a chyflwyniadau llafar. Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau aseiniadau ychwanegol nad ydynt yn cael eu hasesu, a gweithio gydag eraill ar dasgau penodol.
Rhagor o wybodaeth
Wrth i chi astudio, byddwch yn datblygu ystod o sgiliau a fydd yn fanteisiol i chi mewn astudiaeth bellach neu unrhyw weithle graddedig. Byddwch yn dysgu: defnyddio technegau beirniadol amrywiol wrth drin testunau; datblygu arfer myfyriol mewn darllen ac ysgrifennu; mynegi dadansoddiad beirniadol manwl o'ch pwnc; ac ymateb i unrhyw dasg gyda chreadigrwydd, steil a dawn.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu fugeiliol. Bydd eich tiwtor personol hefyd yn gyfrifol am gyflwyno tiwtorialau a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.