BA

Llenyddiaeth Saesneg / Addysg

BA Llenyddiaeth Saesneg / Addysg Cod QX33 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Wrth ddewis astudio'r radd hon mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Addysg, byddwch yn ymgolli mewn amrywiaeth eang o destunau o'r oesoedd canol i'r cyfnod modern, ac yn eu gwerthuso mewn ffyrdd amrywiol o'r dull ieithyddol/arddulliadol i bwyslais gwleidyddol neu gymdeithasol. Byddwch hefyd yn treulio 50% o'ch amser yn dysgu am hanfodion addysg, ac yn canolbwyntio ar ennill sgiliau cyflogadwyedd hanfodol, sy'n cynnwys gweithio mewn tîm, cyfathrebu a rheoli amser. Addysgir y radd Llenyddiaeth Saesneg ac Addysg hon gan arbenigwyr ymroddedig a brwdfrydig, yn aml mewn dosbarthiadau a thiwtorialau bach iawn o ran maint, gan roi'r profiad gorau i chi. Ar ôl cwblhau'r radd hon yn llwyddiannus, gall myfyrwyr fynd ymlaen i astudio cymhwyster TAR. Hefyd, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r gofynion mynediad, gallwn roi sicrwydd y cewch gyfweliad ar gyfer astudio TAR Cynradd yn Aberystwyth.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Addysg yn Aberystwyth?

  • Byddwch yn cael eich addysgu gan staff sy'n arweinwyr drwy'r byd yn eu meysydd arbenigol.
  • Rydym yn cynnig cyfleoedd i chi ymwneud ag amrywiaeth eang o agweddau ar hanes diwylliannol a llenyddiaeth, gan gyfuno meddwl beirniadol ag ysgolheictod.
  • Bydd gennych gyfle i archwilio damcaniaeth lenyddol – syniadau cysyniadol ac athronyddol sy'n llywio, yn herio ac yn problemateiddio'r ffyrdd rydym yn darllen.
  • Mae cyfleoedd cyffrous i weithio gyda'n partneriaid - ysgolion a chymunedau yng Nghymru a ledled gwledydd Prydain.
  • Mae un o lyfrgelloedd mwya'r byd, sef y Llyfrgell Genedlaethol, ar garreg ein drws. Mae'r sefydliad hawlfraint hwn yn derbyn copi o bob llyfr a gaiff ei gyhoeddi yng ngwledydd Prydain.
  • Mae'r adran yn gartref i New Welsh Review, cylchgrawn llenyddol Saesneg mwyaf blaenllaw Cymru - gallai hwn fod yn gyfle cyffrous i chi gymryd rhan.
  • Byddwch yn cael eich trochi mewn cymuned gefnogol a bywiog o feddylwyr creadigol a beirniadol, arbenigwyr llenyddol, ac ysgolheigion cyhoeddedig o bob maes.
Ein Staff

Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Rhagolygon Gyrfa

Mae gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg yn "safon aur" ar gyfer lleoliad gwaith lle rhoddir gwerth ar gyfathrebu. Mae pob un o'n modiwlau'n darparu sgiliau allweddol sy'n eich galluogi i adeiladu C.V. cynhwysfawr sy'n dangos eich ystod amrywiol o gymwyseddau.

Mae ein graddedigion wedi llwyddo yn y meysydd gyrfaol mwyaf eang posib:

  • darlledu
  • newyddiaduraeth
  • hysbysebu
  • cyhoeddi
  • addysg
  • y Gwasanaeth Sifil
  • busnes
  • cyllid
  • y cyfryngau newydd.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd mewn Llenyddiaeth Saesneg yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Bydd y radd hon yn eich galluogi i archwilio llenyddiaeth o bob genre ac o bob cyfnod yng nghyd-destun y dehongliad ehangaf posib o lenyddiaeth yn Saesneg. Byddwch yn dod yn fedrus wrth ddehongli a dadansoddi testunau llenyddol a byddwch yn ymgysylltu â thrafodaethau beirniadol cyfredol.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech ddarganfod:

  • technegau newydd ar gyfer dadansoddi testunau llenyddol
  • rhai ffigyrau allweddol o hanes llenyddol (o Shakespeare i'r Brontës)
  • testunau llai hysbys, ac awduron sy'n newydd i chi
  • amrywiaeth o "ffyrdd o ddarllen" a dulliau damcaniaethol o ddadansoddi testunau
  • barddoniaeth, rhyddiaith, drama, Llenyddiaeth Americanaidd, addasiadau, llenyddiaeth Glasurol, ysgrifennu cyfoes, testunau canoloesol a llawer mwy
  • pwysigrwydd polisïau addysgol
  • plentyndod mewn cymdeithas
  • dinasyddiaeth fyd-eang.

Yn eich ail flwyddyn, gallech archwilio:

  • agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar feirniadaeth lenyddol
  • ystod o destunau craidd dethol o'r canoloesoedd hyd at yr unfed ganrif ar hugain
  • nifer o bynciau arbenigol a ddewiswyd gennych chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel Oes Fictoria), neu thema (fel "lle")
  • lleoliad saith wythnos o hyd gyda sefydliad sy'n ymwneud ag addysg, cymorth neu ddatblygiad
  • archwilio ac asesu'n feirniadol ddamcaniaethau cymuned ac addysg
  • dadansoddi effeithiau mudo a symudedd ar addysg
  • datblygiad llythrennedd yn fyd-eang.

Yn ystod y drydedd flwyddyn, gallech feistroli:

  • damcaniaeth lenyddol a chymhwyso safbwyntiau damcaniaethol i ddadansoddi llenyddol
  • gwaith ysgrifennu ac ymchwil annibynnol estynedig yn eich prosiect traethawd hir blwyddyn olaf (ar bwnc a ddewisir ac a ddiffinnir gennych chi)
  • eich arbenigeddau eich hun o blith ystod amrywiol o fodiwlau opsiynol a addysgir gan ymchwilwyr yn y meysydd hynny. Mae ein modiwlau opsiynol yn cynnwys pynciau fel drama Elizabethaidd, y stori ysbryd, y nofel Saesneg gynnar, ffuglen queer, llenyddiaeth plant, Rhamantiaeth, a llawer mwy
  • safbwyntiau byd-eang ar hawliau ac iechyd yn y byd datblygol
  • pob ffactor sy'n effeithio ar addysg a datblygiad
  • materion cymunedol
  • rôl unigolion a'r llywodraeth
  • cymhwyso hawliau a deddfwriaeth
  • effaith tlodi.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Caiff ein cwrs gradd ei addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau un-i-un. Rydym hefyd yn annog dysgu hunan-gyfeiriedig, sydd â'r nod o ysgogi eich diddordeb academaidd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac i feithrin eich datblygiad personol a deallusol.

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, arholiadau a chyflwyniadau llafar. Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau aseiniadau ychwanegol nad ydynt yn cael eu hasesu, a gweithio gydag eraill ar dasgau penodol.

Rhagor o wybodaeth

Wrth i chi astudio, byddwch yn datblygu ystod o sgiliau a fydd yn fanteisiol i chi mewn astudiaeth bellach neu unrhyw weithle graddedig. Byddwch yn dysgu: defnyddio technegau beirniadol amrywiol wrth drin testunau; datblygu arfer myfyriol mewn darllen ac ysgrifennu; mynegi dadansoddiad beirniadol manwl o'ch pwnc; ac ymateb i unrhyw dasg gyda chreadigrwydd, steil a dawn.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu fugeiliol. Bydd eich tiwtor personol hefyd yn gyfrifol am gyflwyno tiwtorialau a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae'r cwrs Llenyddiaeth Saesneg ac Addysg yn gweithio mor dda fel cwrs cyd-anrhydedd. Er eu bod yn ddwy ddisgyblaeth ar wahân, gellir defnyddio'r sgiliau y byddwch yn eu dysgu mewn Addysg gyda Saesneg hefyd, ac fel arall. Gellir trosglwyddo'r pwnc dan sylw o'r naill i'r llall hefyd – efallai y byddwch yn dysgu am ffurfio llenyddiaeth plant gyda Saesneg ac yna'n defnyddio hynny gyda'ch darlith Addysg ar Lythrennedd a deall sut mae'n cael ei ddefnyddio i ddysgu plant.

Mae'r darlithwyr yn y ddwy adran yn frwdfrydig ac yn wybodus iawn yn eu meysydd pwnc, ac yn barod i roi o'u hamser i gynnig cymorth ac arweiniad ychwanegol i chi. Mae gwneud y radd hon yn cynnig ystod amrywiol iawn o opsiynau i chi ar ôl graddio, dw i'n teimlo bod gen i'r adnoddau i ddilyn gyrfa mewn nifer o feysydd proffesiynol. Byddwn yn bendant yn ei argymell i unrhyw un sydd â diddordeb yn y ddwy ddisgyblaeth. Liz Titley

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|