BA

Llenyddiaeth Saesneg

Os ydych chi am astudio cwrs sy'n archwilio'r ystod ehangaf bosib o ddiwylliannau a thestunau llenyddol, gyda dewis gwych o'r cyfnod canoloesol cynnar hyd heddiw, bydd ein gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn siŵr o danio'ch dychymyg. Rydym yn galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu eu grym mynegiant, i fireinio eu meddwl beirniadol, ac i sefydlu dealltwriaeth arbenigol a sgiliau ymchwil - oll wedi'u gwreiddio mewn dealltwriaeth fanwl ac eang o hanes llenyddol a dealltwriaeth gymhwysol o ddamcaniaeth lenyddol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn cael eich addysgu gan staff sy'n arwain yn eu meysydd arbenigedd ledled y byd.
  • Rydym yn cynnig cyfleoedd i ymwneud ag ystod eang o ymagweddau tuag at hanes diwylliannol a llenyddiaeth, gan gyfuno meddwl beirniadol gydag ysgolheictod.
  • Bydd gennych gyfle i archwilio damcaniaeth lenyddol – syniadau cysyniadol ac athronyddol sy'n llywio, yn herio ac yn problemeiddio'r ffyrdd rydym yn darllen.
  • Yn ystod eich blwyddyn olaf, bydd gennych gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yn y canolbarth – cyfle gwych i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu'ch traethodau hir a phrosiectau'r flwyddyn olaf, mewn lleoliad gwledig ac ysblennydd.
  • Mae un o lyfrgelloedd mwya'r byd, sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar garreg ein drws. Mae'r sefydliad hawlfraint hwn yn cael copi o bob llyfr a gaiff ei gyhoeddi yng ngwledydd Prydain.
  • Mae'r adran hefyd yn gartref i New Welsh Review, prif gylchgrawn llenyddol Saesneg Cymru – gallai hyn fod yn gyfle cyffrous i chi ddod yn rhan o'u gwaith.
  • Byddwch yn cael eich trochi mewn cymuned gefnogol a bywiog o feddylwyr creadigol a beirniadol, arbenigwyr llenyddol, ac ysgolheigion cyhoeddedig o bob maes.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Rhagolygon Gyrfa

Gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg yw'r "safon aur" ar gyfer sgiliau cyfathrebu yn Saesneg mewn unrhyw weithle. Mae pob un o'n modiwlau'n darparu sgiliau allweddol sy'n eich galluogi i adeiladu CV cynhwysfawr sy'n dangos eich ystod amrywiol o gymwyseddau.

Mae ein graddedigion wedi llwyddo yn y meysydd gyrfaol mwyaf eang posib gan gynnwys:

  • darlledu
  • newyddiaduraeth
  • hysbysebu
  • cyhoeddi
  • addysg
  • Y Gwasanaeth Sifil
  • busnes
  • cyllid
  • Cyfryngau Newydd.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd mewn Llenyddiaeth Saesneg yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y radd hon yn eich galluogi i archwilio llenyddiaeth o bob genre ac o bob cyfnod yng nghyd-destun y dehongliad ehangaf posib o lenyddiaeth Saesneg. Byddwch yn meithrin sgiliau dehongli a dadansoddi testunau llenyddol, a byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau beirniadol cyfredol.

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech ddarganfod:

  • technegau newydd ar gyfer dadansoddi testunau llenyddol
  • rhai ffigurau allweddol o hanes llenyddol (o Shakespeare i deulu'r Brontë)
  • testunau llai hysbys, ac awduron sy'n newydd i chi
  • amrywiaeth o "ffyrdd o ddarllen" a rhai ymagweddau damcaniaethol tuag at ddadansoddi testunau
  • barddoniaeth, rhyddiaith, drama, Llenyddiaeth Americanaidd, addasiadau, llenyddiaeth Glasurol, ysgrifennu cyfoes, testunau canoloesol a llawer mwy.

Yn eich ail flwyddyn, gallech archwilio:

  • ymagweddau damcaniaethol tuag at feirniadaeth lenyddol, ac arfer beirniadaeth lenyddol
  • ystod o destunau craidd dethol o'r cyfnod canoloesol hyd at yr unfed ganrif ar hugain
  • nifer o bynciau arbenigol o'ch dewis chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel oes Fictoria), neu thema (fel "lle").

Yn ystod y drydedd flwyddyn, gallech feistroli:

  • damcaniaeth lenyddol, a chymhwyso safbwyntiau damcaniaethol i ddadansoddiad llenyddol
  • gwaith ymchwil annibynnol ac ysgrifennu estynedig yn eich prosiect traethawd hir yn ystod y flwyddyn olaf (ar bwnc a gaiff ei ddewis a'i ddiffinio gennych chi)
  • eich arbenigedd chi o blith ystod amrywiol o fodiwlau opsiynol, a gaiff eu haddysgu gan ymchwilwyr yn y meysydd hynny. Mae ein modiwlau opsiynol yn cynnwys pynciau fel drama Elisabethaidd, y stori ysbryd, y nofel Saesneg gynnar, ffuglen queer, llenyddiaeth i blant, Rhamantiaeth, a llawer mwy. 

Yn ystod eich blwyddyn olaf, bydd gennych gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yn y canolbarth – cyfle gwych i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu'ch traethodau hir a phrosiectau'r flwyddyn oalf, mewn lleoliad gwledig ac ysblennydd.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Caiff ein cwrs gradd ei addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau un-i-un. Rydym hefyd yn annog dysgu hunangyfeiriedig sydd wedi'i gynllunio i ysgogi eich diddordeb academaidd mewn Llenyddiaeth Saesneg a meithrin eich datblygiad deallusol a phersonol.

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, arholiadau a chyflwyniadau llafar. Bydd gofyn i chi hefyd gyflawni aseiniadau ychwanegol na chânt eu hasesu, a gweithio gydag eraill ar dasgau penodol.

Rhagor o wybodaeth

Wrth i chi astudio, byddwch yn datblygu ystod o sgiliau a fydd yn fanteisiol i chi mewn astudiaeth bellach neu unrhyw weithle graddedig. Byddwch yn dysgu sut mae: defnyddio technegau beirniadol amrywiol wrth drin testunau; datblygu arfer myfyriol wrth ddarllen ac ysgrifennu; mynegi dadansoddiad beirniadol manwl o'ch pwnc; ac ymateb i unrhyw dasg gyda chreadigrwydd, steil a dawn.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu fugeiliol. Bydd eich tiwtor personol hefyd yn gyfrifol am gyflwyno tiwtorialau a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Yr hyn dw i'n ei fwynhau am y cwrs Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth yw'r amrywiaeth sy'n cael ei chynnig. O ddechrau'r radd hyd at ei gorffen bron, dw i wedi astudio ystod eang o lenyddiaeth, a pheth ohoni nad o'n i hyd yn oed yn gwybod am ei bodolaeth. Dw i'n teimlo bod hyn wedi ehangu fy meddwl ac wedi rhoi dealltwriaeth eang i fi o'r gwahanol fathau o lenyddiaeth, a fydd o fudd i mi yn fy astudiaethau pellach.

Chloe Morgan

Mae'r cwrs Q300 Llenyddiaeth Saesneg wedi rhoi cyfle i fi astudio ystod eang o gyfnodau a genres gwahanol, ond mae'r hanfodion (Ymdrin â Thestunau, Damcaniaeth Lenyddol) yn ddiddorol ac wedi'u haddysgu'n dda. Mae gan y darlithoedd ystod gwych o benodolrwydd, o realiti eang iawn awduraeth a chyd-destun hanesyddol, i ymagweddau anghonfensiynol a dychmygus tuag at elfennau o rai testunau. Mae'r seminarau'n llawn gwybodaeth hefyd, ac maen nhw wedi fy helpu i feithrin cydberthnasau gwaith a chymdeithasol gyda myfyrwyr a darlithwyr eraill. Ar y cyfan, mae'n rhaglen gyfforddus a thrylwyr.

Edmund Morton

Mae Llenyddiaeth Saesneg yn Aberystwyth yn caniatáu i fi ddatgloddio dyfnder seicolegol dynoliaeth a gaiff ei ddangos drwy weithiau dychmygol. Mae'n fy ngalluogi i ddangos sut caiff hunaniaeth, yr hunan a chymunedau eu hadeiladu gan gymdeithas, a sut rydyn ni'n rhyngweithio gyda'r byd. Mae'r trafodaethau - ffurfiol ac anffurfiol - rwy'n eu cael gyda fy ffrindiau ar y cwrs yn rhoi safbwynt ehangach i fi o'r byd, ac yn fy helpu i ffurfio fy marn a fy nheimladau fy hun ynghylch sut a pham dw i'n rhyngweithio â'r byd. Mae'r cwrs yma'n ysgogi rhywun ac rwy'n mwynhau gweithio gyda'r bobl, y testunau a'r tasgau y mae'r cwrs yn eu rhoi i fi.

Samuel Peter Callard

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|