Llenyddiaeth Saesneg
BA Llenyddiaeth Saesneg Cod Q300
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
Q300-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y Cwrs
3 Blwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
11%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrOs ydych chi am astudio cwrs sy'n archwilio'r ystod ehangaf bosib o ddiwylliannau a thestunau llenyddol, gyda dewis gwych o'r cyfnod canoloesol cynnar hyd heddiw, bydd ein gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg yn tanio'ch dychymyg. Rydym yn galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu eu grym mynegiant, i fireinio eu meddwl beirniadol, ac i sefydlu dealltwriaeth arbenigol a sgiliau ymchwil - oll wedi'u gwreiddio mewn dealltwriaeth fanwl ac eang o hanes llenyddol a dealltwriaeth gymhwysol o ddamcaniaeth lenyddol.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
100% boddhad cyffredinol myfyrwyr i Q300 Llenyddiaeth Saesneg (ACF 2020).
Trosolwg
Pam astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Rydym ymhlith deg adran Saesneg orau gwledydd Prydain (ACF, 2017).
- Byddwch yn cael eich addysgu gan staff sy'n arwain yn eu meysydd arbenigedd ledled y byd.
- Rydym yn cynnig cyfleoedd i ymwneud ag ystod eang o ymagweddau tuag at hanes diwylliannol a llenyddiaeth, gan gyfuno meddwl beirniadol gydag ysgolheictod.
- Bydd gennych gyfle i archwilio damcaniaeth lenyddol – syniadau cysyniadol ac athronyddol sy'n llywio, yn herio ac yn problemeiddio'r ffyrdd rydym yn darllen.
- Yn ystod eich blwyddyn olaf, bydd gennych gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yn y canolbarth – cyfle gwych i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu'ch traethodau hir a phrosiectau'r flwyddyn oalf, mewn lleoliad gwledig ac ysblennydd.
- Mae un o lyfrgelloedd mwya'r byd, sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar garreg ein drws. Mae'r sefydliad hawlfraint hwn yn cael copi o bob llyfr a gaiff ei gyhoeddi yng ngwledydd Prydain.
- Mae'r adran hefyd yn gartref i New Welsh Review, prif gylchgrawn llenyddol Saesneg Cymru – gallai hyn fod yn gyfle cyffrous i chi ddod yn rhan o'u gwaith.
- Byddwch yn cael eich trochi mewn cymuned gefnogol a bywiog o feddylwyr creadigol a beirniadol, arbenigwyr llenyddol, ac ysgolheigion cyhoeddedig o bob maes.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Ancestral Voices | EN10220 | 20 |
Contemporary Writing | EN10520 | 20 |
Greek and Roman Epic and Drama | CL10120 | 20 |
Introduction to Poetry | WL10420 | 20 |
Literature And The Sea | WL11420 | 20 |
Re-imagining Nineteenth-Century Literature | WL10120 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Literary Theory: Debates and Dialogues | EN20120 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Classical Drama and Myth | CL20320 | 20 |
In the Olde Days: Medieval Texts and Their World | EN23120 | 20 |
Place and Self | EN22120 | 20 |
Shakespeare, Jonson and Company | EN23020 | 20 |
Writing Women for the Public Stage, 1670-1780 | EN28720 | 20 |
A Century in Crisis: 1790s to 1890s | WL20720 | 20 |
Contemporary Queer Fiction | EN21620 | 20 |
Demons, Degenerates and New Women (Fin de Siecle Fictions) | EN23420 | 20 |
Exploring Professional Writing | WL20120 | 20 |
Forms of Children's Narrative Prose | EN27820 | 20 |
Literary Geographies | EN21020 | 20 |
Literature since 1945 | EN22920 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Reading Theory / Reading Text | EN30120 | 20 |
Undergraduate Dissertation | EN30040 | 40 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
American Literature in the Twentieth Century | EN39420 | 20 |
Haunting Texts | EN30820 | 20 |
Literatures of Surveillance | WL35320 | 20 |
Reimagining the World Wars: Contemporary Historical Fictions | EN30720 | 20 |
Remix: Chaucer In The Then and Now | WL30620 | 20 |
Romantic Eroticism | EN30520 | 20 |
The American Novel in the nineteenth century | EN35420 | 20 |
The Mark of the Beast: Animals in Literature from the 1780s to the 1920a | EN31320 | 20 |
Victorian Childhoods | EN30320 | 20 |
Writing in the Margins: Twentieth-Century Welsh Poetry in English | EN30420 | 20 |
Cyflogadwyedd
Rhagolygon Gyrfa
Gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg yw'r "safon aur" ar gyfer sgiliau cyfathrebu yn Saesneg mewn unrhyw weithle. Mae pob un o'n modiwlau'n darparu sgiliau allweddol sy'n eich galluogi i adeiladu CV cynhwysfawr sy'n dangos eich ystod amrywiol o gymwyseddau.
Mae ein graddedigion wedi llwyddo yn y meysydd gyrfaol mwyaf eang posib:
- Darlledu
- Newyddiaduraeth
- Hysbysebu
- Cyhoeddi
- Addysg
- Y Gwasanaeth Sifil
- Busnes
- Cyllid
- Cyfryngau Newydd.
Sgiliau Trosglwyddadwy
Bydd astudio am radd mewn Llenyddiaeth Saesneg yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:
- y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
- sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
- y gallu i weithio'n annibynnol
- sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
- y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
- hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
- y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
- sgiliau ymchwil.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y radd hon yn eich galluogi i archwilio llenyddiaeth o bob genre ac o bob cyfnod yng nghyd-destun y dehongliad ehangaf posib o lenyddiaeth Saesneg. Byddwch yn meithrin sgiliau dehongli a dadansoddi testunau llenyddol, a byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau beirniadol cyfredol.
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech ddarganfod:
- technegau newydd ar gyfer dadansoddi testunau llenyddol
- rhai ffigurau allweddol o hanes llenyddol (o Shakespeare i deulu'r Brontë)
- testunau llai hysbys, ac awduron sy'n newydd i chi
- amrywiaeth o "ffyrdd o ddarllen" a rhai ymagweddau damcaniaethol tuag at ddadansoddi testunau
- barddoniaeth, rhyddiaith, drama, Llenyddiaeth Americanaidd, addasiadau, llenyddiaeth Glasurol, ysgrifennu cyfoes, testunau canoloesol a llawer mwy.
Yn eich ail flwyddyn, gallech archwilio:
- ymagweddau damcaniaethol tuag at feirniadaeth lenyddol, ac arfer beirniadaeth lenyddol
- ystod o destunau craidd dethol o'r cyfnod canoloesol hyd at yr unfed ganrif ar hugain
- nifer o bynciau arbenigol o'ch dewis chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel oes Fictoria), neu thema (fel "lle").
Yn ystod y drydedd flwyddyn, gallech feistroli:
- damcaniaeth lenyddol, a chymhwyso safbwyntiau damcaniaethol i ddadansoddiad llenyddol
- gwaith ymchwil annibynnol ac ysgrifennu estynedig yn eich prosiect traethawd hir yn ystod y flwyddyn olaf (ar bwnc a gaiff ei ddewis a'i ddiffinio gennych chi)
- eich arbenigedd chi o blith ystod amrywiol o fodiwlau opsiynol, a gaiff eu haddysgu gan ymchwilwyr yn y meysydd hynny. Mae ein modiwlau opsiynol yn cynnwys pynciau fel drama Elisabethaidd, y stori ysbryd, y nofel Saesneg gynnar, ffuglen queer, llenyddiaeth i blant, Rhamantiaeth, a llawer mwy.
Yn ystod eich blwyddyn olaf, bydd gennych gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yn y canolbarth – cyfle gwych i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu'ch traethodau hir a phrosiectau'r flwyddyn oalf, mewn lleoliad gwledig ac ysblennydd.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Caiff ein cwrs gradd ei addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau un-i-un. Rydym hefyd yn annog dysgu hunangyfeiriedig sydd wedi'i gynllunio i ysgogi eich diddordeb academaidd mewn Llenyddiaeth Saesneg a meithrin eich datblygiad deallusol a phersonol.
Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, arholiadau a chyflwyniadau llafar. Bydd gofyn i chi hefyd gyflawni aseiniadau ychwanegol na chânt eu hasesu, a gweithio gydag eraill ar dasgau penodol.
Rhagor o wybodaeth
Wrth i chi astudio, byddwch yn datblygu ystod o sgiliau a fydd yn fanteisiol i chi mewn astudiaeth bellach neu unrhyw weithle graddedig. Byddwch yn dysgu sut mae: defnyddio technegau beirniadol amrywiol wrth drin testunau; datblygu arfer myfyriol wrth ddarllen ac ysgrifennu; mynegi dadansoddiad beirniadol manwl o'ch pwnc; ac ymateb i unrhyw dasg gyda chreadigrwydd, steil a dawn.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu fugeiliol. Bydd eich tiwtor personol hefyd yn gyfrifol am gyflwyno tiwtorialau a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Barn ein Myfyrwyr
Yr hyn dw i'n ei fwynhau am y cwrs Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth yw'r amrywiaeth sy'n cael ei chynnig. O ddechrau'r radd hyd at ei gorffen bron, dw i wedi astudio ystod eang o lenyddiaeth, a pheth ohoni nad o'n i hyd yn oed yn gwybod am ei bodolaeth. Dw i'n teimlo bod hyn wedi ehangu fy meddwl ac wedi rhoi dealltwriaeth eang i fi o'r gwahanol fathau o lenyddiaeth, a fydd o fudd i mi yn fy astudiaethau pellach.
Chloe Morgan
Mae'r cwrs Q300 Llenyddiaeth Saesneg wedi rhoi cyfle i fi astudio ystod eang o gyfnodau a genres gwahanol, ond mae'r hanfodion (Ymdrin â Thestunau, Damcaniaeth Lenyddol) yn ddiddorol ac wedi'u haddysgu'n dda. Mae gan y darlithoedd ystod gwych o benodolrwydd, o realiti eang iawn awduraeth a chyd-destun hanesyddol, i ymagweddau anghonfensiynol a dychmygus tuag at elfennau o rai testunau. Mae'r seminarau'n llawn gwybodaeth hefyd, ac maen nhw wedi fy helpu i feithrin cydberthnasau gwaith a chymdeithasol gyda myfyrwyr a darlithwyr eraill. Ar y cyfan, mae'n rhaglen gyfforddus a thrylwyr.
Edmund Morton
Mae Llenyddiaeth Saesneg yn Aberystwyth yn caniatáu i fi ddatgloddio dyfnder seicolegol dynoliaeth a gaiff ei ddangos drwy weithiau dychmygol. Mae'n fy ngalluogi i ddangos sut caiff hunaniaeth, yr hunan a chymunedau eu hadeiladu gan gymdeithas, a sut rydyn ni'n rhyngweithio gyda'r byd. Mae'r trafodaethau - ffurfiol ac anffurfiol - rwy'n eu cael gyda fy ffrindiau ar y cwrs yn rhoi safbwynt ehangach i fi o'r byd, ac yn fy helpu i ffurfio fy marn a fy nheimladau fy hun ynghylch sut a pham dw i'n rhyngweithio â'r byd. Mae'r cwrs yma'n ysgogi rhywun ac rwy'n mwynhau gweithio gyda'r bobl, y testunau a'r tasgau y mae'r cwrs yn eu rhoi i fi.
Samuel Peter Callard
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Lefel A BBB-BCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%
Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n astudio am Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch. Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain, a gall cynigion amrywio. Os ydych yn astudio am gymhwyster nad yw wedi’i restru ar y dudalen hon, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Israddedigion i gael cyngor pellach. Mae manylion am gymwysterau gwahanol wledydd a dderbynnir yn y Brifysgol i’w gweld ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk
|