BSc

Gwyddor Daear Amgylcheddol

Gwyddor Daear Amgylcheddol Cod F640 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Bydd ein BSc mewn Gwyddor Daear Amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o bynciau Gwyddor Daear Amgylcheddol a Daearegol. Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn un o'r adrannau mwyaf profiadol a sefydledig o'i bath.

Byddwch yn astudio'r sgiliau craidd mewn daeareg ac yn eu cymhwyso i ystod eang o broblemau amgylcheddol gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, byw gyda geoberyglon, a thrawsnewid i ynni adnewyddadwy. Byddwch yn astudio sut mae'r Ddaear yn gweithio, y prosesau sy'n ffurfio ei hwyneb, a sut mae ein planed wedi newid dros amser daearegol. Byddwch yn dysgu sgiliau maes a labordy y gellir eu cymhwyso i ddatrys rhai o'r prif faterion sy'n wynebu ein cymdeithas, megis echdynnu adnoddau mewn modd cynaliadwy, a llygredd ac adfer amgylcheddol. Bydd y radd hon yn eich hyfforddi i fod yn rhan o'r ateb i’r heriau mwyaf arwyddocaol sy’n wynebu’r blaned.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Gwyddor Daear Amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i chi astudio Gwyddor Daear Amgylcheddol yn un o'r lleoliadau mwyaf prydferth yn Ewrop. Mae ein hadran ger arfordir Bae Ceredigion, wedi'i hamgylchynu gan amrywiaeth fawr o amgylcheddau hardd, gan gynnwys y môr, rhostir, ucheldir a glaswelltir. Rydym mewn sefyllfa unigryw i wneud yn fawr o'r tirweddau trawiadol o'n cwmpas, sy’n darparu amrywiaeth gwych o gyfleoedd am waith maes a hamdden. 
  • Byddwch yn archwilio i bynciau daearegol a gwyddor daear amgylcheddol ac yn cael dealltwriaeth fanwl amdanynt drwy ymchwilwyr blaenllaw yn eu meysydd.
  • Byddwch yn mynd ar gwrs maes ym mhob un o dair blynedd eich gradd, gan roi’r cyfle i chi i gymhwyso'r wybodaeth rydych wedi'i datblygu yn yr ystafell ddosbarth i enghreifftiau o'r byd go iawn.
  • Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o newid yn yr hinsawdd gan ganolbwyntio ar y wybodaeth wyddonol sy'n sail iddo, a'i gyd-destun yn hanes y blaned.
  • Byddwch yn deall sut mae echdoriadau llosgfynyddoedd yn effeithio ar bobl a'r amgylchedd ac yn dysgu am addasiadau y gellid eu gwneud yn y dyfodol at beryglon a materion amgylcheddol ac anthropogenig.
  • Bydd eich tiwtoriaid a'ch darlithwyr yn darparu hyfforddiant ar ddefnyddio offer synhwyro o bell a GIS, a sut y’u defnyddir yn broffesiynol. 
  • Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn am faterion amgylcheddol cyfoes fel llygredd a gwaredu gwastraff ac yn cael eich hyfforddi yn y sgiliau labordy diweddaraf a ddefnyddir i fonitro ac ymdrin â halogi amgylcheddol.
  • Mae ein cyfleusterau o'r radd flaenaf ac wedi’u cydnabod gan NERC (Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol).
  • Gallwch ddewis astudio rhywfaint o’ch gradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Edrychwch ar dab y modiwl am fwy o wybodaeth. 
Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An introduction to Earth Materials GS12520 20
Earth Surface Environments GS10520 20
Fieldwork Skills GS11320 20
Sut i Greu Planed DA11520 20
Life on Earth GS10720 20
Ymchwilio'r Byd: Casglu a Dadansoddi Data DA10320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Earth Materials GS22620 20
Chemical Analysis of Natural Materials GS21010 10
Environmental Earth Science Research Design and Fieldwork Skills GS21420 20
Fundamentals of Geochemistry GS22720 20
Geographical Information Systems GS23710 10
Quantitative Data Analysis GS23810 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Catchment Systems GS25210 10
Geomorffoleg Afonol DA22510 10
Physical Analysis of Natural Materials GS22010 10
Reconstructing Past Environments GS21910 10
The Frozen Planet GS23510 10

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Gwyddorau Daear Amgylcheddol?

Mae ein graddedigion wedi cael swyddi ym meysydd ymgynghori amgylcheddol, peirianneg geodechnegol, y gwasanaeth sifil, technoleg, ac mewn arolygon daearegol ac amgylcheddol, ymhlith llawer o feysydd eraill.

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ym mhob cwrs rydym yn ei ddarparu. Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd.

Mae'r setiau sgiliau'n cynnwys:

  • sgiliau ymarferol ar gyfer gwaith labordy a gwaith maes
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio ar draws ystod o raddfeydd gofodol ac amserol
  • sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu
  • sgiliau cyfathrebu yn llafar ac yn ysgrifenedig
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan
  • y gallu i weithio ar draws pynciau amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y cynllun Blwyddyn mewn Diwydiant, efallai y bydd gennych ddiddordeb yn ein chwaer gwrs Gwyddor Ddaear Amgylcheddol yn Cynnwys Blwyddyn mewn Diwydiant (F643). Yr un maes llafur sydd iddo â'r cwrs hwn (F640), ond byddwch hefyd yn gwneud lleoliad gwaith rhwng eich ail flwyddyn a'ch blwyddyn olaf o astudio.

Cyfleoedd Cyfnewid Rhyngwladol

I'r rhai a hoffai astudio gydag un o'n prifysgolion partneriaethol yn Ewrop a gweddill y byd, efallai y bydd y cwrs Gwyddor Ddaear Amgylcheddol yn Cynnwys Astudio Dramor apelio atoch (F642). Mae'r cwrs hwn yn union yr un fath â F640, ond byddwch yn astudio dramor rhwng eich ail flwyddyn a'ch blwyddyn olaf.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i:

  • amgylcheddau cynradd (y ddaear solet) ac eilaidd (prosesau arwynebol)
  • newidiadau amgylcheddol y gorffennol a'r presennol
  • potensial ar gyfer rhagweld newidiadau'r dyfodol yn ein hinsawdd a'n hamgylchedd
  • sgiliau labordy a maes ar draws daeareg a daearyddiaeth ffisegol.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn darganfod;

  • geogemeg
  • dulliau dadansoddi deunyddiau naturiol yn ddaearegol a chemegol
  • heriau byd-eang fel adnoddau’r Ddaear ac effeithiau ar yr amgylchedd
  • setiau data meintiol ac ansoddol.

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'r canlynol:

  • prosiect ymchwil annibynnol neu draethawd hir
  • modiwlau dewisol gan gynnwys: Biogeocemeg Amgylcheddol ac Iechyd, Arsylwi ar y Ddaear, Rheolaeth Amgylcheddol Gymhwysol, a Gweithgarwch Llosgfynyddol, ymhlith llawer o rai eraill.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Caiff ein cyrsiau eu haddysgu ar ffurf darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau ymarferol gyda chyfrifiaduron ac mewn labordai, tiwtorialau grwpiau bach, cyrsiau maes a goruchwyliaeth unigol ar gyfer gwaith prosiect.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy ystod o ddulliau gwahanol. Asesir rhai modiwlau yn rhannol gydag arholiadau traddodiadol, ond mae rhai yn cynnwys elfennau o waith cwrs. Mae gennym rai modiwlau hefyd lle gall fod gofyn i'r myfyrwyr gynhyrchu adroddiadau ymarferol, rhoi cyflwyniadau llafar, dylunio tudalennau gwe, cynhyrchu ffilmiau byrion, neu gyfrannu at fforymau trafod ar-lein. Asesir rhai modiwlau, yn arbennig y tiwtorialau a'r cyrsiau maes, yn gyfan gwbl ar ffurf gwaith cwrs. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae Gwyddor Daear Amgylcheddol yn cynnig cipolwg unigryw ar ddaeareg amgylcheddol y bydysawd, ac mae'r pynciau'n amrywio o ffurfiad y planedau i hydrogemeg i dechnegau labordy. Gallwch fod yn sicr na fyddwch chi byth wedi diflasu! Pendle Hill

Mae'r cwrs Gwyddor Daear Amgylcheddol yn cynnig popeth sydd ei angen arnoch chi i gael amser gwych yn y brifysgol. Mae'r darlithoedd yn anhygoel, mae'r darlithwyr yn arbennig, ac mae'r gwaith yn ddiddorol. O'r diwrnod cyntaf, byddwch chi'n teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi fel myfyriwr ac fel Gwyddonydd Daear. Mae'r gwaith, er ei fod yn anodd, bob amser yn ddiddorol, ac mae cyfle i gwrdd â phobl wych ar hyd y ffordd. Mae'r cwrs yn bodloni'r disgwyliadau oedd gen i pan wnes i'r cais yn llwyr. Sebastian Charles Taylor

Cyfleusterau gwych, darlithoedd gwych, cwrs gwych! Ben Auton

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC to include a science subject

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM with a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26 with 5 points in a science subject at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in a science subject

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|