BSc

Gwyddor Daear Amgylcheddol (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Gwyddor Daear Amgylcheddol (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod F643 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn un o'r adrannau mwyaf profiadol a sefydledig o'i bath. Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle unigryw i chi astudio Gwyddor Daear Amgylcheddol yn un o'r lleoliadau mwyaf prydferth yn Ewrop, ac ar yr un pryd gwella eich cyflogadwyedd gyda'n rhaglen blwyddyn integredig mewn diwydiant.

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear – sydd wedi'i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi'i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o amgylcheddau hardd, yn cynnwys môr, gweundir, mynyddoedd a glaswelltir – mewn lleoliad unigryw i wneud y mwyaf o'r tirweddau sydd o'i chwmpas, gan gynnig amrywiaeth anhygoel o gyfleoedd gwaith maes a hamdden. Bydd y radd hon yn eich paratoi gyda'r sgiliau, y gallu a'r arbenigedd i wynebu ac ymwneud â'r heriau amgylcheddol sy'n wynebu cymdeithas heddiw. 

Pam astudio Gwyddor Daear Amgylcheddol gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn fyfyriwr mewn prifysgol lle mae profiad y myfyriwr yn eithriadol ac yn gofiadwy
  • Gallwch ymdrwytho mewn adran sy'n rhoi gwybod i bob myfyriwr am yr ymchwil arloesol sy'n cael effaith yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  • Cael dealltwriaeth fanwl o themâu allweddol ym maes daearyddiaeth, bioleg ac astudiaethau amgylcheddol
  • Datblygu dealltwriaeth ddyfnach o heriau amgylcheddol mwyaf arwyddocaol ein hoes, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.
  • Cael gwell dealltwriaeth o ddifodiant torfol a'r hyn y gall ei ddweud wrthym am gysylltiadau rhwng yr amgylchedd a phobl heddiw.
  • Ystod eang o fodiwlau sy’n cynnwys polisi datblygu cynaliadwy, geoberyglon, rheoli bywyd gwyllt, a bioleg y môr.
  • Mae'r cwrs hwn yn cynnig hyblygrwydd yn y modiwlau yr ydych chi'n eu dewis a'r themâu yr ydych chi'n arbenigo ynddynt
  • Mwynhau amrywiaeth eang o gyfleoedd gwaith maes
  • Elwa o gyfleusterau sy'n cael eu cydnabod gan NERC (Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol)
  • Ennill sgiliau a phrofiad gwaith gwerthfawr gyda'r flwyddyn integredig mewn diwydiant

Eisiau astudio yn Gymraeg?

Mae'r Adran yn cynnig nifer o fodiwlau a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg. Edrychwch ar y tab modiwlau am fwy o wybodaeth.

Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An introduction to Earth Materials GS12520 20
Earth Surface Environments GS10520 20
Fieldwork Skills GS11320 20
How to Build a Planet GS11520 20
Life on Earth GS10720 20
Ymchwilio'r Byd: Casglu a Dadansoddi Data DA10320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Work Placement GSS0260 60

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Gwyddorau Daear Amgylcheddol?

Mae ein graddedigion wedi cael swyddi ym meysydd ymgynghori amgylcheddol, peirianneg geodechnegol, y gwasanaeth sifil, technoleg, ac mewn arolygon daearegol ac amgylcheddol, ymhlith llawer o feysydd eraill.

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ym mhob cwrs rydym yn ei ddarparu. Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd.

Mae'r setiau sgiliau'n cynnwys:

  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu
  • sgiliau cyfathrebu yn llafar ac yn ysgrifenedig
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan

Cyfleoedd Rhyngwladol:

Ochr yn ochr â phrofiad o waith cyflogedig, cydnabyddir bod teithio annibynnol hefyd yn allweddol i ddatblygiad myfyrwyr. I gefnogi hyn, rydym yn cynnig bwrsariaethau i gefnogi israddedigion i deithio. Mae cyrchfannau diweddar wedi cynnwys Uganda, Madagascar, Periw, Mynydd Etna a'r Unol Daleithiau.

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear hefyd wedi sefydlu partneriaethau gyda phrifysgolion yn Ewrop, gan gynnwys Prifysgol Bergen, Prifysgol Oulu, y Ffindir, a Chanolfan y Brifysgol yn Svalbard, gan roi profiad unigryw i fyfyrwyr gael astudio yn un o amgylcheddau mwyaf eithafol y byd.

Mae cysylltiadau cryf gennym hefyd gyda nifer o brifysgolion yng Ngogledd America, lle gall myfyrwyr gwblhau eu hail flwyddyn o astudio. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein Cydlynydd Cyfnewid wedi bod yn goruchwylio cyfnewidfeydd ym Mhrifysgol Purdue (Indiana), Prifysgol Alabama, Prifysgol Georgia, Prifysgol Montana a Phrifysgol Ottawa yng Nghanada.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i:

  • amgylcheddau cynradd (y ddaear solet) ac eilaidd (prosesau arwynebol)
  • newidiadau amgylcheddol y gorffennol a'r presennol
  • potensial ar gyfer rhagweld newidiadau'r dyfodol yn ein hinsawdd a'n hamgylchedd
  • sgiliau labordy a maes ar draws daeareg a daearyddiaeth ffisegol.

Yn ystod eich ail blwyddyn, byddwch yn darganfod;

  • geogemeg
  • dulliau dadansoddi deunyddiau naturiol yn ddaearegol a chemegol
  • heriau byd-eang fel adnoddau’r Ddaear ac effeithiau ar yr amgylchedd
  • setiau data meintiol ac ansoddol.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â lleoliad profiad gwaith cyflogedig neu wirfoddol sy'n berthnasol i'r radd hon. 

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â'r canlynol:

  • prosiect ymchwil annibynnol neu draethawd hir
  • modiwlau dewisol gan gynnwys: Biogeocemeg Amgylcheddol ac Iechyd, Arsylwi ar y Ddaear, Rheolaeth Amgylcheddol Gymhwysol, a Gweithgarwch Llosgfynyddol, ymhlith llawer o rai eraill.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Caiff ein cyrsiau eu haddysgu ar ffurf darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau ymarferol gyda chyfrifiaduron ac mewn labordai, tiwtorialau grwpiau bach, cyrsiau maes a goruchwyliaeth unigol ar gyfer gwaith prosiect.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy ystod o ddulliau gwahanol. Asesir rhai modiwlau yn rhannol gydag arholiadau traddodiadol, ond mae rhai yn cynnwys elfennau o waith cwrs. Mae gennym rai modiwlau hefyd lle gall fod gofyn i'r myfyrwyr gynhyrchu adroddiadau ymarferol, rhoi cyflwyniadau llafar, dylunio tudalennau gwe, cynhyrchu ffilmiau byrion, neu gyfrannu at fforymau trafod ar-lein. Asesir rhai modiwlau, yn arbennig y tiwtorialau a'r cyrsiau maes, yn gyfan gwbl ar ffurf gwaith cwrs. 

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC to include a science subject

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM with a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26 with 5 points in a science subject at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in a science subject

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|