BSc

Gwyddor yr Amgylchedd

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae ein gradd Gwyddor yr Amgylchedd yn edrych ar rai o faterion amgylcheddol pwysicaf ein hoes a’r heriau mae ein cymdeithas heddiw’n eu hwynebu. Rydym yn cynnig cyfle unigryw i chi astudio’r materion hyn yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn ogystal ag Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, lle cewch eich dysgu gan ymchwilwyr sy’n arwain ar lefel fyd-eang.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Gwyddor yr Amgylchedd ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn fyfyriwr mewn Prifysgol lle mae profiad y myfyriwr yn rhagorol ac yn gofiadwy. Cewch ymgolli mewn adran sy'n addysgu ei holl fyfyrwyr am yr ymchwil arloesol sy'n cael effaith yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. 
  • Rydym yn cynnig dealltwriaeth fanwl o brif themâu daearyddiaeth, bioleg ac astudiaethau amgylcheddol.
  • Rydym yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o heriau amgylcheddol mwyaf nodedig yr oes, gan gynnwys newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.
  • Rydym yn darparu dealltwriaeth o ddifodiannau mawr, a'r hyn maen nhw'n gallu ei ddweud wrthym am gydberthnasau pobl a'r amgylchedd heddiw.
  • Rydym yn cynnig ystod amrywiol o fodiwlau, sy'n cynnwys polisi datblygu cynaliadwy, geoberyglon, rheoli bywyd gwyllt, a bioleg y môr.
  • Mae'r cwrs yn cynnig hyblygrwydd yn y modiwlau rydych yn eu dewis, a'r themâu rydych yn arbenigo ynddynt.
  • Rydym yn darparu ystod eang o gyfleoedd gwaith maes.
  • Mae ein cyfleusterau wedi'u cydnabod gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).

Hoffech chi astudio yn Gymraeg?

Mae'r adran yn cynnig nifer o fodiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau.

Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Earth Surface Environments GS10520 20
Fieldwork Skills GS11320 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Sut i Greu Planed DA11520 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Ymchwilio'r Byd: Casglu a Dadansoddi Data DA10320 20

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ym mhob cwrs rydym yn ei ddarparu. Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd.

Mae'r setiau sgiliau'n cynnwys: 

  • defnyddio sgiliau datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
  • dylunio a chyflawni aseiniadau a phrosiectau ymchwil sy'n gadarn yn ddamcaniaethol ac yn fethodolegol ac sydd wedi'u diffinio'n glir
  • rheoli amser yn effeithiol a gweithredu yn unol â therfynau amser
  • datblygu sgiliau trosglwyddadwy yn cynnwys darllen, dadansoddi a gwerthuso ffynonellau yn feirniadol
  • ymateb yn gadarnhaol i feirniadaeth ac adborth adeiladol, bod yn sensitif wrth gynnig adborth a beirniadaeth i eraill
  • defnyddio sgiliau technoleg gwybodaeth
  • defnyddio sgiliau ymchwil a llyfryddiaeth, gan gynnwys defnyddio llyfrgelloedd ac archifau
  • defnyddio sgiliau maes i gasglu data amgylcheddol
  • defnyddio sgiliau labordy i ddadansoddi data amgylcheddol

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Gwyddor yr Amgylchedd?

Mae ein graddedigion wedi canfod cyflogaeth, er enghraifft, fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym maes addysg, i enwi dim ond rhai.

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Mae bwrsariaethau hefyd ar gael i gefnogi lleoliadau gwaith byr i fyfyrwyr yn ystod y gwyliau. Bob blwyddyn rydym yn cynnal cystadleuaeth sy'n gwahodd myfyrwyr i rannu eu profiadau gwaith drwy adroddiad a chyflwyniad llafar, ac mae'r enillwyr yn ennill gwobr ac adborth gan aelodau o'r gymuned fusnes sy'n eistedd ar banel o feirniaid.

Cyfleoedd Rhyngwladol:

Ochr yn ochr â phrofiad gwaith, caiff teithio yn annibynnol hefyd ei gydnabod fel cydran allweddol o ddatblygiad myfyrwyr. Er mwyn cefnogi hyn, rydym yn cynnig bwrsariaethau i gefnogi teithio israddedig. Roedd cyrchfannau diweddar yn cynnwys Uganda, Madagascar, Periw, Mynydd Etna, a'r Unol Daleithiau.

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear hefyd wedi sefydlu Rhaglen Gyfnewid Erasmus gyda Phrifysgol Bergen, Prifysgol Oulu, y Ffindir, a Chanolfan y Brifysgol yn Svalbard, gan roi profiad unigryw i fyfyrwyr gael astudio yn un o amgylcheddau mwyaf eithafol y byd. Mae cysylltiadau cryf gennym hefyd gyda nifer o brifysgolion yng Ngogledd America, lle gall myfyrwyr gwblhau eu hail flwyddyn o astudio. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein Cydlynydd Cyfnewid wedi bod yn goruchwylio cyfnewidfeydd ym Mhrifysgol Purdue (Indiana), Prifysgol Alabama, Prifysgol Georgia, Prifysgol Montana a Phrifysgol Ottawa yng Nghanada.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:

  • natur ffisegol, gemegol a biolegol y Ddaear
  • ecoleg fyd-eang
  • systemau pridd
  • amgylcheddau wyneb y Ddaear
  • amrywiaeth microbaidd
  • yr atmosffer a'r gylchred ddŵr
  • llystyfiant ac ecosystemau

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn darganfod:

  • monitro'r amgylchedd a rheoli'r amgylchedd
  • arolygu ecolegol
  • bioleg dŵr croyw
  • hydrogemeg
  • systemau dalgylch
  • bioleg y môr
  • geoberyglon
  • newid hinsawdd a chynaliadwyedd

Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn cwrs maes preswyl wythnos o hyd i ddatblygu eich sgiliau Amgylcheddol ymarferol.

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'r canlynol:

  • prosiect ymchwil neu draethawd hir yn cynnwys casglu, dadansoddi a dehongli data cynradd
  • cyfraith amgylcheddol
  • cyfathrebu ymchwil a bygythiadau i'r ecosystemau naturiol
  • ecoleg
  • cadwraeth
  • geocemeg amgylcheddol
  • newid amgylcheddol
  • palaeorhewlifeg
  • bioddaearyddiaeth ddynamig

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Caiff ein cyrsiau eu haddysgu ar ffurf darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau ymarferol gyda chyfrifiaduron neu mewn labordai, tiwtorialau grwpiau bach, cyrsiau maes a goruchwyliaeth unigol ar gyfer gwaith prosiect.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy ystod o ddulliau gwahanol. Asesir rhai modiwlau yn rhannol gydag arholiadau traddodiadol, ond mae rhai yn cynnwys elfennau o waith cwrs. Mae gennym rai modiwlau hefyd lle gall fod gofyn i'r myfyrwyr gynhyrchu adroddiadau ymarferol, rhoi cyflwyniadau llafar, dylunio tudalennau gwe, cynhyrchu ffilmiau byrion, neu gyfrannu at fforymau trafod ar-lein. Asesir rhai modiwlau, yn arbennig y tiwtorialau a'r cyrsiau maes, yn gyfan gwbl ar ffurf gwaith cwrs.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB - CCC to include a science subject

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM with a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26 with 5 points in a science subject at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in a science subject

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|