BSc

Gwyddor yr Amgylchedd

Mae gradd Gwyddor yr Amgylchedd gyda blwyddyn Sylfaen integredig Prifysgol Aberystwyth yn gwrs deniadol sy'n ymdrin â materion amgylcheddol pwysicaf ein hoes. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i chi astudio Gwyddor yr Amgylchedd yn un o'r lleoliadau mwyaf prydferth yn Ewrop.

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear – sydd wedi'i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi'i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o amgylcheddau hardd, yn cynnwys môr, gweundir, mynyddoedd a glaswelltir – mewn lleoliad unigryw i wneud y mwyaf o'r tirweddau sydd o'i chwmpas, gan gynnig amrywiaeth anhygoel o gyfleoedd gwaith maes a hamdden. Bydd y radd hon yn eich paratoi gyda'r sgiliau, y gallu a'r arbenigedd i wynebu ac ymwneud â'r heriau amgylcheddol sy'n wynebu cymdeithas heddiw. 

Mae'r flwyddyn sylfaen integredig wedi'i chynllunio ar gyfer darpar fyfyrwyr nad oes ganddynt gefndir academaidd digonol neu berthnasol - mae'n llwybr delfrydol i gael mynediad i'r cynllun poblogaidd hwn. Yn y Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn dysgu am gysyniadau allweddol Gwyddor yr Amgylchedd o safbwynt rhyngddisgyblaethol. Mae hyn yn rhoi profiad unigryw a golwg feirniadol ichi ar gyfer gwneud y gorau o'r radd israddedig lawn.

Trosolwg o'r Cwrs

Ar ôl y flwyddyn sylfaen, mae maes llafur y cwrs hwn yn union yr un fath â'i chwaer gwrs [Gwyddor yr Amgylchedd, F750]

Pam astudio Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Mae'r rhaglen hon wedi'i hachredu gan Y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG)

Fel cymuned Ddaearyddiaeth ddeinamig fawr, rydym yn gallu cynnig ystod eang iawn o arbenigedd, cyfleoedd a chyfleusterau daearyddol:

  • Tueddiadau cyfredol mewn Geoberyglon;
  • Cynaliadwyedd trefol;
  • Datblygu Rhanbarthol;
  • Daearyddiaeth wleidyddol a diwylliannol;
  • Cyfleoedd gwaith maes yn Seland Newydd, Creta, Efrog Newydd, ac Iwerddon;
  • Dyfarniadau teithio ar gael bob blwyddyn i ariannu eich anturiaethau eich hun (hyd at £400);
  • Cyfleusterau addysgu o'r radd flaenaf gyda'r dechnoleg ddiweddaraf i wella dysgu;
  • Labordai sy’n llawn amrywiaeth o offer dadansoddi e.e. sbectromedrau màs a sganwyr craidd y gellir eu defnyddio ar gyfer gwaith maes ac astudio annibynnol.
Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Environmental Management GS00420 20
How to be a Student 1 GS09520 20
Information in a Post-Truth World GS01120 20
Organisms and the Environment BR01440 40
Understanding Change - Environment, People, Places GS00820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Earth Surface Environments GS10520 20
Fieldwork Skills GS11320 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
How to Build a Planet GS11520 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Ymchwilio'r Byd: Casglu a Dadansoddi Data DA10320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes DA25420 20
Visualisation and Analysis of Geographical Data GS23620 20
Quantitative Data Analysis GS23810 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An Introduction to Landscape Ecology and Geographic Information Systems BR25520 20
Applied Molecular Biology and Bioinformatics BR20620 20
Aquatic Botany BR25820 20
Arolygu Bywyd Gwyllt BG29620 20
Bwyd, Ffermio, Technoleg a'r Amgylchedd BG29020 20
Climate Change: Plants, Animals and Ecosystems BR21120 20
Environmental Geochemistry GS20720 20
Bwyd, Ffermio, Technoleg a'r Amgylchedd BG29020 20
Prosesau Rhewlifol ac Afonol DA25520 20
How to Build a Sustainable Society GS27920 20
Marine Biology BR22620 20
Practical and Professional Skills in Microbiology BR24720 20
Prosesau Rhewlifol ac Afonol DA25520 20
Quaternary Environmental Change GS23920 20
Sgiliau Ymarferol a Proffesiynol ym Microbioleg BG24720 20
Wildlife Surveying BR29620 20
Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes * DA25420 20
Environmental Microbiology and Monitoring BR26020 20
Geoscience Laboratory Techniques GS20120 20
Monitro a Microbioleg Amgylcheddol BG26020 20
Physical Geography and Environmental Science Research Design and Fieldwork Skills GS21120 20
Catchment Systems GS25210 10
Chemical Analysis of Natural Materials GS21010 10
Evolution and Molecular Systematics BR21720 20
Fundamentals of Geochemistry GS22720 20
Geographical Information Systems GS23710 10
Geographical Perspectives on the Sustainable Society GS28910 10
Geomorffoleg Afonol DA22510 10
Reconstructing Past Environments GS21910 10
The Frozen Planet GS23510 10

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ym mhob cwrs rydym yn ei ddarparu. Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd.

Mae'r setiau sgiliau'n cynnwys: 

  • defnyddio sgiliau datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
  • dylunio a chyflawni aseiniadau a phrosiectau ymchwil sy'n gadarn yn ddamcaniaethol ac yn fethodolegol ac sydd wedi'u diffinio'n glir
  • rheoli amser yn effeithiol a gweithredu yn unol â therfynau amser
  • datblygu sgiliau trosglwyddadwy yn cynnwys darllen, dadansoddi a gwerthuso ffynonellau yn feirniadol
  • ymateb yn gadarnhaol i feirniadaeth ac adborth adeiladol, bod yn sensitif wrth gynnig adborth a beirniadaeth i eraill
  • defnyddio sgiliau technoleg gwybodaeth
  • defnyddio sgiliau ymchwil a llyfryddiaeth, gan gynnwys defnyddio llyfrgelloedd ac archifau
  • defnyddio sgiliau maes i gasglu data amgylcheddol
  • ·defnyddio sgiliau labordy i ddadansoddi data amgylcheddol

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Gwyddor yr Amgylchedd?

Mae ein graddedigion wedi canfod cyflogaeth, er enghraifft, fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym maes addysg, i enwi dim ond rhai.

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Mae bwrsariaethau hefyd ar gael i gefnogi lleoliadau gwaith byr i fyfyrwyr yn ystod y gwyliau. Bob blwyddyn rydym yn cynnal cystadleuaeth sy'n gwahodd myfyrwyr i rannu eu profiadau gwaith drwy adroddiad a chyflwyniad llafar, ac mae'r enillwyr yn ennill gwobr ac adborth gan aelodau o'r gymuned fusnes sy'n eistedd ar banel o feirniaid.

Cyfleoedd Rhyngwladol:

Ochr yn ochr â phrofiad gwaith, caiff teithio yn annibynnol hefyd ei gydnabod fel cydran allweddol o ddatblygiad myfyrwyr. Er mwyn cefnogi hyn, rydym yn cynnig bwrsariaethau i gefnogi teithio israddedig. Roedd cyrchfannau diweddar yn cynnwys Uganda, Madagascar, Periw, Mynydd Etna, a'r Unol Daleithiau.

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear hefyd wedi sefydlu partneriaethau gyda phrifysgolion yn Ewrop, gan gynnwys Prifysgol Bergen, Prifysgol Oulu, y Ffindir, a Chanolfan y Brifysgol yn Svalbard, gan roi profiad unigryw i fyfyrwyr gael astudio yn un o amgylcheddau mwyaf eithafol y byd.

Mae cysylltiadau cryf gennym hefyd gyda nifer o brifysgolion yng Ngogledd America, lle gall myfyrwyr gwblhau eu hail flwyddyn o astudio. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein Cydlynydd Cyfnewid wedi bod yn goruchwylio cyfnewidfeydd ym Mhrifysgol Purdue (Indiana), Prifysgol Alabama, Prifysgol Georgia, Prifysgol Montana a Phrifysgol Ottawa yng Nghanada.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn y flwyddyn sylfaen, cewch gyflwyniad i elfennau craidd Gwyddor yr Amgylchedd.

Bydd eich blwyddyn sylfaen yn eich helpu i ymgyfarwyddo â’r brifysgol - ein ffocws yw eich cefnogi i ddysgu'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i ffynnu mewn gradd yng Ngwyddor yr Amgylchedd. Mae hynny'n golygu dilyn modiwlau yn y flwyddyn sylfaen a fydd yn eich cyflwyno i ddadleuon cyfoes sy'n ymwneud â deall, monitro ac ymateb i newid amgylcheddol. Mae dau o'ch modiwlau yn cynnwys gwaith maes, gan gynnwys taith i warchodfa natur leol lle byddwch yn dysgu dulliau gan gynnwys arsylwi ar adar, pryfed a phlanhigion, cynhyrchu mapiau sy’n darlunio cynefinoedd a nodweddion hydrolegol, arferion rheoli safle (hydroleg a daeareg), cysylltiadau safleoedd â'r gymuned a'r economi leol, a dylunio safleoedd. Byddwch hefyd yn dilyn modiwl gydag Adran y Gwyddorau Bywyd, sy'n cynnwys darlithoedd, dysgu yn y labordy a’r maes, a fydd yn rhoi trosolwg i chi o'r biosffer byw, gan roi manylion am y tywydd, yr hinsawdd ac amgylcheddau eithafol. 

Yn ystod eich ail blwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • natur ffisegol, gemegol a biolegol y Ddaear
  • ecoleg fyd-eang
  • systemau pridd
  • amgylcheddau wyneb y Ddaear
  • amrywiaeth microbaidd
  • yr atmosffer a'r gylchred ddŵr
  • llystyfiant ac ecosystemau

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn darganfod:

  • monitro'r amgylchedd a rheoli'r amgylchedd
  • arolygu ecolegol
  • bioleg dŵr croyw
  • hydrogemeg
  • systemau dalgylch
  • bioleg y môr
  • geoberyglon
  • newid hinsawdd a chynaliadwyedd

Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn cwrs maes preswyl wythnos o hyd i ddatblygu eich sgiliau Amgylcheddol ymarferol.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â'r canlynol:

  • prosiect ymchwil neu draethawd hir yn cynnwys casglu, dadansoddi a dehongli data cynradd
  • cyfraith amgylcheddol
  • cyfathrebu ymchwil a bygythiadau i'r ecosystemau naturiol
  • ecoleg
  • cadwraeth
  • geocemeg amgylcheddol
  • newid amgylcheddol
  • palaeorhewlifeg
  • bioddaearyddiaeth ddynamig

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Caiff ein cyrsiau eu haddysgu ar ffurf darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau ymarferol gyda chyfrifiaduron neu mewn labordai, tiwtorialau grwpiau bach, cyrsiau maes a goruchwyliaeth unigol ar gyfer gwaith prosiect.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy ystod o ddulliau gwahanol. Asesir rhai modiwlau yn rhannol gydag arholiadau traddodiadol, ond mae rhai yn cynnwys elfennau o waith cwrs. Mae gennym rai modiwlau hefyd lle gall fod gofyn i'r myfyrwyr gynhyrchu adroddiadau ymarferol, rhoi cyflwyniadau llafar, dylunio tudalennau gwe, cynhyrchu ffilmiau byrion, neu gyfrannu at fforymau trafod ar-lein. Asesir rhai modiwlau, yn arbennig y tiwtorialau a'r cyrsiau maes, yn gyfan gwbl ar ffurf gwaith cwrs.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Available to those who are studying for, or have completed Level 3 qualifications (e.g. A-Levels or BTEC), to include a relevant science subject (biology, geography or environmental studies), and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, work experience in the relevant sector and motivation for study.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Available to those who are studying for, or have completed Level 3 qualifications (e.g. A-Levels or BTEC), to include a relevant science subject (biology, geography or environmental studies), and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, work experience in the relevant sector and motivation for study.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Available to those who are studying for, or have completed Level 3 qualifications (e.g. A-Levels or BTEC), to include a relevant science subject (biology, geography or environmental studies), and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, work experience in the relevant sector and motivation for study.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Available to those who are studying for, or have completed Level 3 qualifications (e.g. A-Levels or BTEC), to include a relevant science subject (biology, geography or environmental studies), and to mature-aged candidates without formal qualifications who have suitable background education, work experience in the relevant sector and motivation for study.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|