BSc

Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol

Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol Cod D334 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae astudio Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol yn Aberystwyth yn golygu astudio bioleg ystod o rywogaethau anifeiliaid mewn ffordd sy'n darparu'r ddamcaniaeth wyddonol a milfeddygol sylfaenol i chi, a defnyddir enghreifftiau sy'n cynnwys ceffylau (gan gynnwys rhai modiwlau sydd am geffylau'n benodol) lle bo'n bosib. Mae hyn yn cynnwys maetheg, llesiant, anatomeg a ffisioleg, ynghyd â deall clefydau, eu diagnosis a'u rheolaeth. Nid yw'n darparu hyfforddiant cydnabyddedig i'r rhai sy'n dymuno bod yn filfeddyg, ond gall ddarparu llwybr addas i raddedigion at raglen radd milfeddygaeth.

Os nad yw hynny'n ddigon, parhewch i ddarllen er mwyn gweld pam ein bod yn meddwl bod Aberystwyth yn lle gwych i astudio Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Cyfleusterau addysgu ac ymchwil anhygoel, gan gynnwys labordai modern
  • Dros gant hectar o dir fferm, a chanolfan geffylau
  • Labordy bio-ddelweddu a microsgopeg blaengar
  • Staff addysgu angerddol sy'n arbenigo yn eu maes ac yn adnabyddus yn rhyngwladol
  • Canolfan geffylau anhygoel, gydag arena dan do maint Olympaidd, manège sy'n addas i bob tywydd, corlan gron, cyfleuster cerdded i geffylau, a stablau hurio
  • Mae tref Aberystwyth wedi'i lleoli mewn ardal syfrdanol ar yr arfordir, gyda milltiroedd o draethau digyffwrdd i garlamu ar eu hyd rai milltiroedd o'r ganolfan geffylau!
  • Cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith, cyfnewidfeydd tramor, interniaethau, bwrsariaethau a hyfforddiant at arholiadau Cymdeithas Geffylau Prydain, oll yn amgylchedd sefydliad sydd wedi ennill sawl gwobr

Cyfleoedd rhyngwladol

Os ydych chi'n teimlo'n anturus, beth am fanteisio ar y cyfle i astudio dramor yn ystod eich gradd? Mae gennym gytundebau cyfnewid gyda phrifysgolion yn Ewrop, yr Unol Daleithiau a'r tu hwnt, felly gallwch wneud cais i dreulio'ch ail flwyddyn gyfan neu ran ohoni yn astudio biowyddor milfeddygol dramor. Byddwch yn siŵr o weld eisiau Aberystwyth, ond byddwch wrth eich bodd â'r persbectif newydd a ddaw wrth astudio dramor!

Hoffech chi astudio yn Gymraeg?

Gall myfyrwyr ddewis astudio nifer o fodiwlau IBERS drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau!

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Breeding: Genetics and Reproduction BR25220 20
Maeth Anifeiliaid Fferm, Ceffylau ac Anifeiliaid Anwes BG20720 20
Immunology BR22220 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Veterinary Health BR27120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour BR21620 20
Human, Equine and Canine Exercise Physiology and Locomotion BR25320 20
Vertebrate Zoology BR26820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Veterinary Infectious Diseases BR34120 20
Veterinary Pharmacology and Disease Control BR36820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Equine Nutrition and Pasture Management BR35720 20
Equine Stud Management BR32520 20

Gyrfaoedd

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi?

Mae ein cyn-fyfyrwyr yn dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol ar hyn o bryd:

  • Gwyddonydd Ymchwil;
  • Gweithio mewn cwmnïau maetheg;
  • Y diwydiant fferyllol;
  • Astudiaeth ôl-raddedig Msc a PhD

Wrth astudio Gwyddor Ceffylau, byddwch yn datblygu sgiliau arbenigol yn cynnwys:

  • Y gallu i werthuso anghenion ffisiolegol ystod o rywogaethau o ran iechyd a chlefydau, gyda phwyslais arbennig ar geffylau.

Rhagor o wybodaeth:

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Fel cangen arbenigol o Swoleg, mae eich gradd BSc mewn Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol yn agor drysau at ystod o gyfleoedd cyffrous ar gyfer swyddi a hyfforddiant pellach. Yn ogystal, bydd y cyfleoedd lleoliadau gwaith fydd ar gael i chi yn eich helpu i gael profiad gwerthfawr yn y diwydiant.

Dysgu ac Addysgu

Os oes gennych ddiddordeb yn y fioleg sy'n sail i iechyd a llesiant ceffylau ac ystod o anifeiliaid eraill, yna mae'r cwrs Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol yn addas i chi. Dyma pam rydyn ni'n meddwl mai Aberystwyth yw'r lle gorau un i gyflawni eich taith o ddarganfod.

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Gallwch ymchwilio i'r pwnc o safbwyntiau clinigol a llesiant, hyd at y datblygiadau diweddaraf ym maes biodechnoleg anifeiliaid, biofoeseg a chlefydau heintus. Mae strwythur manwl y cwrs i'w weld drwy glicio'r tab 'cynnwys y cwrs'. Mae meysydd pwnc enghreifftiol yn cynnwys:

  • Anatomeg a ffisioleg
  • Egwyddorion geneteg a metabolaeth
  • Ffisioleg ymarfer corff ceffylau
  • Rheoli ceffylau perfformio
  • Taith astudio ceffylau
  • Egwyddorion gwyddor filfeddygol
  • Ymddygiad a llesiant anifeiliaid
  • Maetheg
  • Rheoli ffermydd bridio ceffylau
  • Gwyddor filfeddygol gymhwysol
  • Cyffuriau milfeddygol a chlefydau heintus milfeddygol

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y cwrs hwn drwy raglen gytbwys o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, sesiynau ymarferol, ymweliadau maes a gwaith labordy. Bydd gennych gyfle i ddatblygu astudiaeth o gysyniadau, ymchwil a methodoleg yn ymwneud â biowyddor ceffylau a milfeddygol. Byddwch yn archwilio hyn drwy ymchwil ac arbrofi mewn labordy, yn ogystal â thasgau ymarferol. Gallwch hefyd gymryd rhan mewn taith astudio, a fydd yn cynnwys ystod o sefydliadau gwahanol yn ymwneud â cheffylau, a gall gynnwys stablau hyfforddi rasio, ffermydd bridio, cyrsiau rasio ac ysbytai milfeddygol.

Byddwch yn cael eich addysgu gan wyddonwyr arbenigol sydd ag enw da yn rhyngwladol, ac sy'n cynnal ymchwil mewn ystod eang o feysydd gwyddor anifeiliaid a cheffylau. Mae ein darlithwyr yn athrawon angerddol hefyd, ac mae ganddynt flynyddoedd o brofiad yn cyfathrebu gwyddor ceffylau ac anifeiliaid eraill.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 104

Safon Uwch ABB-BCC with B in Biology

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|