BSc

Gwyddor Ceffylau

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae ein gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth, sydd â hen hanes o ddysgu gwyddor ceffylau a chyfleusterau addysgu eithriadol ar gyfer y maes pwnc arbenigol hwn, yn caniatáu i chi archwilio maes atgenhedlu ceffylau, gan gynnwys technolegau bridio, maetheg, llesiant a gofal er mwyn sicrhau'r perfformiad gorau posib a'i reoli mewn perthynas â iechyd a ffisioleg ymarfer corff.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Gwyddor Ceffylau ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Bydd gennych fynediad at gyfleusterau addysgu ac ymchwil gwych, gan gynnwys labordai o'r radd flaenaf.
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan ein staff addysgu angerddol sy'n adnabyddus yn rhyngwladol, ac sy'n arbenigwyr yn eu meysydd gwyddor anifeiliaid ac ymchwil ceffylau.
  • Mae'r adran yn gartref i ganolfan geffylau anhygoel, gydag arena dan do maint Olympaidd, manège sy'n addas i bob tywydd, corlan gron, cyfleuster cerdded i geffylau, a stablau hurio sy'n cynnwys ardal awyr agored.
  • Mae Aberystwyth wedi'i lleoli mewn lle anhygoel ar yr arfordir, gyda milltiroedd o draethau digyffwrdd i garlamu ar eu hyd rai milltiroedd o'r ganolfan geffylau!
  • Bydd gan bob myfyriwr ar y cwrs hwn gyfle i gyflawni profiad gwaith, cyfnewidfeydd myfyrwyr rhyngwladol, interniaethau, bwrsariaethau, a hyfforddiant tuag at arholiadau Cymdeithas Geffylau Prydain.

Gall myfyrwyr ddewis astudio nifer o fodiwlau IBERS drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau!

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Breeding: Genetics and Reproduction BR25220 20
Maeth Anifeiliaid Fferm, Ceffylau ac Anifeiliaid Anwes BG20720 20
Human, Equine and Canine Exercise Physiology and Locomotion BR25320 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Equine Business BR26120 20
Immunology BR22220 20
One Health Microbiology BR26520 20
Veterinary Health BR27120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Equine Nutrition and Pasture Management BR35720 20
Equine Stud Management BR32520 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Marketing and Small Business Management BR34720 20
Veterinary Infectious Diseases BR34120 20

Gyrfaoedd

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi?

Mae ein cyn-fyfyrwyr yn dilyn y gyrfaoedd canlynol ar hyn o bryd:

  • Gwyddonydd Ymchwil
  • Gweithio mewn cwmnïau maetheg
  • Rheolwr bridio
  • Busnes amaethyddiaeth
  • Newyddiaduraeth wyddonol
  • Addysgu (ysgolion cynradd ac uwchradd, colegau Addysg Bellach)

Wrth astudio Gwyddor Ceffylau, byddwch yn datblygu sgiliau arbenigol yn cynnwys:

  • y gallu i werthuso anghenion maetheg, hyfforddi a llesiant ceffylau
  • cynnal gwaith monitro ac asesu ffisiolegol.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Fel cangen arbenigol o Swoleg, mae eich gradd BSc mewn Gwyddor Ceffylau yn agor drysau at ystod o gyfleoedd cyffrous ar gyfer swyddi a hyfforddiant pellach. Yn ogystal, bydd y cyfleoedd i wneud lleoliadau gwaith fydd ar gael i chi yn eich helpu i gael profiad gwerthfawr yn y diwydiant.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:

  • Anatomeg a ffisioleg ceffylau
  • Egwyddorion allweddol geneteg a metabolaeth
  • Y diwydiant ceffylau
  • Effeithiau ymarfer corff a hyfforddiant ar systemau penodol yn y corff

Gallwch hefyd gymryd rhan mewn taith astudio, a all gynnwys:

  • Gwahanol sefydliadau yn ymwneud â cheffylau
  • Stablau hyfforddi rasio
  • Ffermydd bridio
  • Cyrsiau rasio a gwerthiannau

Gall mentrau eraill a archwilir gynnwys labordai milfeddygol, practisau neu ysgolion milfeddygol, digwyddiadau chwaraeon ceffylau, canolfannau hyfforddi a/neu fridio ceffylau nad ydynt yn rhai pedigri, a thai ocsiwn.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • Maetheg gymhwysol ceffylau
  • Ffisioleg gymharol ymarfer corff
  • Ffisioleg ac anatomeg atgenhedlu mamaliaid
  • Sgiliau ymchwil

Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • Rheoli ffermydd bridio ceffylau
  • Uwch faetheg ceffylau
  • Anhwylderau treuliol
  • Ymddygiad a llesiant

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Rydym yn addysgu ein myfyrwyr drwy ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, sesiynau ymarferol, ymweliadau maes a gwaith labordy. Byddwch yn cael hyfforddiant trylwyr mewn cysyniadau, ymchwil a methodolegau sy'n ymwneud â gwyddor ceffylau. Byddwch yn archwilio hyn drwy ymchwil ac arbrofi mewn labordy, yn ogystal â gwaith ymarferol.

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy:

  • Draethodau
  • Gwaith ymarferol
  • Cyflwyniadau llafar
  • Arholiadau
  • Adroddiadau labordy
  • Adroddiadau ymarferol
  • Portffolios
  • Dyddiaduron myfyriol
  • Ymarferion bwydo ar ddogn a / neu ddadansoddi bwyd anifeiliaid
  • Erthyglau mewn cylchgronau
  • Tudalennau gwe
  • Podlediadau

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae D322 Gwyddor Ceffylau yn gwrs clòs sy'n cynnwys rhai o'r darlithwyr mwyaf brwdfrydig a gwybodus! Mae'r teithiau sydd ar gael i ni yn cael eu gyrru gan angerdd am y diwydiant ceffylau. Mae'r modiwlau'n plethu'n berffaith; gall hyn ymddangos yn annhebygol i ddechrau, ond erbyn y diwedd, bydd eich awch am wybodaeth wedi'i fodloni! Mae'r ffaith bod y brifysgol wedi'i lleoli gerllaw rhai o'r golygfeydd arfordirol harddaf yn fonws ar ben hynny! Ria Mclean

Mae astudio Gwyddor Ceffylau wedi caniatáu i fi gael dealltwriaeth ddofn o fioleg, gan gymhwyso'r hyn rydw i'n ei ddysgu i'r maes pwnc sydd o ddiddordeb i fi a'r maes rydw i am gael gyrfa ynddo. Mae'r ffaith bod y cwrs yma mor benodol yn golygu fy mod wedi fy amgylchynu gan bobl sydd â diddordebau tebyg, ac rydyn ni'n ysbrydoli ein gilydd i wneud y gorau gallwn ni. Daniel Rutland Barrington

Mwynheais i'r amser a dreuliais yn Aberystwyth, a sylweddolais yn fuan bod y radd Gwyddor Ceffylau yn fy annog i herio'r hyn ro'n i eisoes yn ei wybod am geffylau. Fe alluogodd y profiad yma i fi gael sylfaen gadarn o wybodaeth am geffylau, ac rydw i'n defnyddio hynny nawr i integreiddio gwybodaeth newydd rwy'n ei chael drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Jenni - Ymgynghorydd hyfforddi ac ymddygiad ceffylau

Dychwelais i Addysg Uwch fel myfyriwr aeddfed, ac mae gen i atgofion melys o Aber; mwynheais i fy amser yno'n fawr. Pe bai rhywun yn gofyn i fi pam ddewisais i astudio yn Aberystwyth, byddai'n rhaid i fi ddweud ei fod oherwydd y croeso cynnes ges i yn fy nghyfweliad cyntaf, a'r cyfleusterau cymorth dysgu ardderchog sydd ar gael yno

Elizabeth - Gweinyddwr Ceffylau o Waed Pur ar gyfer cwmni Tattersalls Ltd, Newmarket

Roedd y cwrs BSc Gwyddor Ceffylau yn ddymunol iawn; roedd yn cynnwys cydbwysedd da rhwng theori wyddonol a gwybodaeth ymarferol, nid yn unig am geffylau, ond anifeiliaid a phobl hefyd. Dydw i ddim yn difaru dewis astudio yn Aber o gwbl – mae'n cyfuno hyfforddiant, cefnogaeth a chyfleusterau gwych gyda bywyd nos ffantastig. Mae'n lle bach a chyfeillgar, gyda golygfeydd syfrdanol – fel lle i astudio, byddwn i'n ei argymell i bawb

Melenie – Cynorthwyydd Golygyddol, Cylchgrawn Horse & Rider


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|