BSc

Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol

Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol Cod D33F Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig 

Y radd BSc Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth yw'r unig un o'i math ym Mhrydain. Mae'n manteisio ar enw da hirsefydlog Aberystwyth fel darparwr cyrsiau ceffylau, ein cryfderau ymchwil ym maes gwyddor anifeiliaid gan gynnwys salwch, maeth, atgenhedlu ac ymddygiad anifeiliaid, a'n cysylltiadau cydweithredol â milfeddygon yng Nghanolfan Gwyddor Filfeddygol Cymru, a fydd yn rhoi i chi’r sgiliau a’r wybodaeth am iechyd a lles ceffylau ac amrywiaeth o anifeiliaid eraill.  

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cwrs pedair-blynedd hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen, ac ar ôl y flwyddyn honno mae’r cwrs yn dilyn maes llafur y cwrs tair-blynedd arferol, BSc Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol (D334). 

Bydd y cwrs unigryw hwn yn rhoi dealltwriaeth gadarn i chi am gysyniadau creiddiol mewn milfeddygaeth, gan gynnwys imiwnoleg, prosesau clefydau a sut mae cynnal diagnosis a thrin clefydau mewn amrywiaeth o rywogaethau. Darperir dosbarthiadau damcaniaethol ac ymarferol penodol a fydd yn rhoi pwyslais arbennig ar ffisioleg y ceffyl. Bydd y dysgu, gan gynnwys rhai dosbarthiadau a arweinir gan filfeddygon, yn helpu i roi fframwaith o gyd-destun ymarferol i’ch dealltwriaeth.   

Er nad yw BSc Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol yn darparu hyfforddiant cydnabyddedig i'r rhai sy'n dymuno ymarfer fel milfeddyg, bydd y cymysgedd unigryw o bynciau’n eich helpu i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi proffesiynol yn y diwydiant ceffylau, yn ogystal â gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â milfeddygaeth, megis diagnostegydd labordy milfeddygol.  

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Communication Skills BR01520 20
Molecules and Cells BR01340 40
Organisms and the Environment BR01440 40
Practical Skills for Biologists BR01220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Breeding: Genetics and Reproduction BR25220 20
Maeth Anifeiliaid Fferm, Ceffylau ac Anifeiliaid Anwes BG20720 20
Immunology BR22220 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Veterinary Health BR27120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour BR21620 20
Human, Equine and Canine Exercise Physiology and Locomotion BR25320 20
Vertebrate Zoology BR26820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Veterinary Infectious Diseases BR34120 20
Veterinary Pharmacology and Disease Control BR36820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Equine Nutrition and Pasture Management BR35720 20
Equine Stud Management BR32520 20
International Animal Health Study Tour BR39220 20

Gyrfaoedd

Mae Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol yn darparu sylfaen wyddonol eang a fydd yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o gyfleoedd gyrfaol, ym Mhrydain a thramor, ym meysydd gwyddor ceffylau ac anifeiliaid, lles anifeiliaid, ymchwil a datblygu, gwaith cynghori a chymorth technegol, ac addysg. 

Mae ein graddedigion yn gweithio fel gwyddonwyr ymchwil, ym maes cynnyrch fferyllol ac i gwmnïau maeth anifeiliaid. Mae rhai wedi symud ymlaen i astudio am raddau uwch MSc a PhD.   

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?  

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG)

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?    

Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn astudio modiwlau sylfaen a fydd yn datblygu’ch gwybodaeth am fioleg ac yn eich paratoi ar gyfer astudio Biowyddorau Ceffylau a Milfeddygol yn ystod tair blynedd nesaf eich gradd. 

Yn eich ail flwyddyn, cewch gyflwyniad i anatomeg a ffisioleg y ceffyl, ac i effeithiau ymarfer corff a hyfforddiant ar systemau corfforol penodol. Byddwch yn edrych ar fioleg swyddogaethau corfforol allweddol mewn da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes, gan gynnwys treulio, atgenhedlu, twf, datblygu a llaetha. Byddwch yn astudio pynciau biolegol megis geneteg, metabolaeth, bywyd microbaidd a micro-organebau. Darperir sesiynau ymarferol, yn cyfuno sgiliau trin anifeiliaid â hyfforddiant ar gyfer yr arholiadau,  gan roi profiad uniongyrchol o'r technegau a ddefnyddir wrth wneud gwneud diagnosis, pennu triniaethau posib a rheoli'r amgylchedd. 

Bydd opsiwn i fynd ar daith astudio ceffylau sy’n cynnwys ymweliadau ag amrywiaeth o gyrff masnachol gan gynnwys stablau hyfforddi rasio, bridfeydd a mentrau cysylltiedig megis traciau rasio a gwerthiannau. Mae’n bosib bydd yn cynnwys mentrau eraill megis labordai milfeddygol, milfeddygfeydd neu ysgolion milfeddygol, digwyddiadau chwaraeon ceffylau, canolfannau bridio a/neu hyfforddi ceffylau nad ydynt yn bedigri, a thai arwerthu.   

Yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn edrych ar bynciau fel maeth cymhwysol ceffylau a da byw, ac anatomeg atgenhedlu a ffisioleg atgenhedlu mamaliaid. Byddwch yn magu dealltwriaeth o ymatebion imiwnedd mewn pobl ac mewn anifeiliaid a drinnir gan filfeddygon, a byddwch yn dod yn gyfarwydd â therminoleg filfeddygol a chanllawiau lles ar gyfer gofalu am anifeiliaid sâl a rhai sydd wedi'u hanafu. Cynhelir sesiynau ymarferol ar archwilio anifeiliaid sâl ac ar ddulliau o wneud diagnosis ar glefydau.  

Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio lles anifeiliaid a dulliau asesu lles, a byddwch yn adeiladu ar eich gwybodaeth am imiwnoleg drwy edrych ar sut mae clefydau heintus yn lledaenu a sut y gellir eu rheoli. Byddwch hefyd yn astudio ffarmacoleg filfeddygol ac yn magu dealltwriaeth am gyffuriau milfeddygol a’r strategaethau triniaeth gysylltiedig o safbwynt eu biocemeg, eu darganfyddiad, eu defnydd yn ymarferol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. Bydd prosiect ymchwil gorfodol yn rhoi cyfle i chi i wneud ymchwil fanwl o dan arweiniad arolygydd.  Gall eich prosiect fod yn seiliedig ar arbrofion yn y labordy neu ymarferion gwaith maes, ac fe gall gynnwys elfen o ymarfer modelu cyfrifiadurol neu ddadansoddi data.    

Sut fydda i'n cael fy nysgu?  

Fe’ch dysgir drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, sesiynau ymarferol, ymweliadau maes a gwaith labordy. Byddwch yn cael eich hyfforddi’n drylwyr mewn cysyniadau, ymchwil a methodoleg sy'n ymwneud â gwyddor ceffylau. Byddwch yn ymgymryd â'r dysgu hwn drwy ymchwil ac arbrofi yn y labordy, yn ogystal â gwaith ymarferol.   

Asesu  

Cewch eich asesu drwy amryw ddulliau gan gynnwys traethodau, gweithgareddau ymarferol ac adroddiadau, cyflwyniadau, posteri, adroddiadau labordy, arholiadau, portffolios, dyddiaduron adfyfyrio, dadansoddiadau ar borthiant a/neu ymarferion dogni, erthyglau cylchgrawn, gwe-dudalennau a phodlediadau. 

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi, a’r person hwn fydd eich prif gyswllt trwy gydol eich astudiaethau. Bydd eich tiwtor personol yno i’ch helpu i ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd gyntaf, a bydd wrth law i’ch helpu gyda materion academaidd neu faterion personol. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics and Science (minimum grade C/4)

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation

Bagloriaeth Ryngwladol:
Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Available to candidates without formal qualifications who have suitable background education, experience and motivation

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|