BSc

Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod D335 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2025

Y radd BSc Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) ym Mhrifysgol Aberystwyth yw'r unig un o'i math ym Mhrydain. Mae'n manteisio ar enw da hirsefydlog Aberystwyth fel darparwr cyrsiau ceffylau, ein cryfderau ymchwil ym maes gwyddor anifeiliaid gan gynnwys salwch, maeth, atgenhedlu ac ymddygiad anifeiliaid, a'n cysylltiadau cydweithredol â milfeddygon yng Nghanolfan Gwyddor Filfeddygol Cymru, a fydd yn rhoi i chi’r sgiliau a’r wybodaeth am iechyd a lles ceffylau ac amrywiaeth o anifeiliaid eraill.  

Trosolwg o'r Cwrs

This unique course will provide you with a solid understanding of core concepts in veterinary medicine, including immunology, disease processes and the diagnosis and treatment of disease in a range of species. Dedicated theoretical and practical classes will place special emphasis on the physiology of the horse. Teaching, including some led by veterinary surgeons, will help frame your understanding within the practical context.  

Aberystwyth University has its own equine centre and teaching facility.

The taught component of the Equine and Veterinary Bioscience with integrated year in industry course (D335) is identical to its three-year sister course BSc Equine and Veterinary Bioscience (D334). The year in industry is taken in your third year, is supervised and assessed, and will count towards your degree grade. During your year in industry, you will pay a discounted tuition fee. 

While the BSc Equine and Veterinary Bioscience degree does not provide recognised training for those wishing to practise as a veterinary surgeon, the unique mix of subject matter will help you develop the knowledge and skills required for professional roles within the equine industry, as well as in careers allied to veterinary medicine, such as veterinary laboratory diagnostician. 

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Breeding: Genetics and Reproduction BR25220 20
Applied Nutrition of Livestock, Horses and Companion Animals BR20720 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Immunology BR22220 20
Veterinary Health BR27120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour BR21620 20
Human, Equine and Canine Exercise Physiology and Locomotion BR25320 20
Vertebrate Zoology BR26820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60
Integrated Year in Industry BRS0160 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Veterinary Infectious Diseases BR34120 20
Veterinary Pharmacology and Disease Control BR36820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Equine Nutrition and Pasture Management BR35720 20
Equine Stud Management BR32520 20
International Animal Health Study Tour BR39220 20

Gyrfaoedd

Mae Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol yn darparu sylfaen wyddonol eang a fydd yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o gyfleoedd gyrfaol, ym Mhrydain a thramor, ym meysydd gwyddor ceffylau ac anifeiliaid, lles anifeiliaid, ymchwil a datblygu, gwaith cynghori a chymorth technegol, ac addysg. 

Mae ein graddedigion yn gweithio fel gwyddonwyr ymchwil, ym maes cynnyrch fferyllol ac i gwmnïau maeth anifeiliaid. Mae rhai wedi symud ymlaen i astudio am raddau uwch MSc a PhD.   

Ar ôl cwblhau blwyddyn mewn diwydiant byddwch yn gallu:  

  • defnyddio’r hyn a ddysgwch ar eich cwrs ym myd gwaith  
  • gwneud cysylltiadau gwerthfawr yn y diwydiant  
  • datblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio  
  • cyfoethogi blwyddyn olaf eich astudiaethau am eich bod yn sylweddoli’n well sut i’w chymhwyso i'ch gyrfa  
  • cyfoethogi eich CV yn sylweddol a chynyddu eich rhagolygon o lwyddiant yn y farchnad swyddi.  

Sylwch nad yw lleoliadau gwaith ar gael yn awtomatig i bob ymgeisydd. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau eich lleoliad profiad gwaith eich hun, gyda chefnogaeth ein Cydlynydd Blwyddyn mewn Diwydiant a’r cynghorydd gyrfaoedd i gynyddu eich siawns o lwyddo. Os nad ydych yn llwyddo i sicrhau profiad gwaith, byddwch yn gallu trosi eich cwrs i fersiwn tair blynedd y radd BSc Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol.  

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?    

Yn y flwyddyn gyntaf, cewch gyflwyniad i anatomeg a ffisioleg y ceffyl, ac i effeithiau ymarfer corff a hyfforddiant ar systemau corfforol penodol. Byddwch yn edrych ar fioleg swyddogaethau corfforol allweddol mewn da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes, gan gynnwys treulio, atgenhedlu, twf, datblygu a llaetha. Byddwch yn astudio pynciau biolegol megis geneteg, metabolaeth, bywyd microbaidd a micro-organebau. Darperir sesiynau ymarferol, yn cyfuno sgiliau trin anifeiliaid â hyfforddiant ar gyfer yr arholiadau,  gan roi profiad uniongyrchol o'r technegau a ddefnyddir wrth wneud gwneud diagnosis, pennu triniaethau posib a rheoli'r amgylchedd. 

Bydd opsiwn i fynd ar daith astudio ceffylau sy’n cynnwys ymweliadau ag amrywiaeth o gyrff masnachol gan gynnwys stablau hyfforddi rasio, bridfeydd a mentrau cysylltiedig megis traciau rasio a gwerthiannau. Mae’n bosib bydd yn cynnwys mentrau eraill megis labordai milfeddygol, milfeddygfeydd neu ysgolion milfeddygol, digwyddiadau chwaraeon ceffylau, canolfannau bridio a/neu hyfforddi ceffylau nad ydynt yn bedigri, a thai arwerthu.   

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn edrych ar bynciau fel maeth cymhwysol ceffylau a da byw, ac anatomeg atgenhedlu a ffisioleg atgenhedlu mamaliaid. Byddwch yn magu dealltwriaeth o ymatebion imiwnedd mewn pobl ac mewn anifeiliaid a drinnir gan filfeddygon, a byddwch yn dod yn gyfarwydd â therminoleg filfeddygol a chanllawiau lles ar gyfer gofalu am anifeiliaid sâl a rhai sydd wedi'u hanafu. Cynhelir sesiynau ymarferol ar archwilio anifeiliaid sâl ac ar ddulliau o wneud diagnosis ar glefydau.  

Yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn ymgymryd â’ch profiad gwaith a fydd yn berthnasol i faes Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol. 

Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio lles anifeiliaid a dulliau asesu lles, a byddwch yn adeiladu ar eich gwybodaeth am imiwnoleg drwy edrych ar sut mae clefydau heintus yn lledaenu a sut y gellir eu rheoli. Byddwch hefyd yn astudio ffarmacoleg filfeddygol ac yn magu dealltwriaeth am gyffuriau milfeddygol a’r strategaethau triniaeth gysylltiedig o safbwynt eu biocemeg, eu darganfyddiad, eu defnydd yn ymarferol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. Bydd prosiect ymchwil gorfodol yn rhoi cyfle i chi i wneud ymchwil fanwl o dan arweiniad arolygydd.  Gall eich prosiect fod yn seiliedig ar arbrofion yn y labordy neu ymarferion gwaith maes, ac fe gall gynnwys elfen o ymarfer modelu cyfrifiadurol neu ddadansoddi data.    

Sut fydda i'n cael fy nysgu?  

Fe’ch dysgir drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, sesiynau ymarferol, ymweliadau maes a gwaith labordy. Byddwch yn cael eich hyfforddi’n drylwyr mewn cysyniadau, ymchwil a methodoleg sy'n ymwneud â gwyddor ceffylau. Byddwch yn ymgymryd â'r dysgu hwn drwy ymchwil ac arbrofi yn y labordy, yn ogystal â gwaith ymarferol.   

Asesu  

Cewch eich asesu drwy amryw ddulliau gan gynnwys traethodau, gweithgareddau ymarferol ac adroddiadau, cyflwyniadau, posteri, adroddiadau labordy, arholiadau, portffolios, dyddiaduron adfyfyrio, dadansoddiadau ar borthiant a/neu ymarferion dogni, erthyglau cylchgrawn, gwe-dudalennau a phodlediadau.    

Tiwtoriaid Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi, a'r person hwn fydd eich prif gyswllt trwy gydol eich astudiaethau. Bydd eich tiwtor personol yno i'ch helpu i ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd gyntaf, a bydd wrth law i'ch helpu gyda materion academaidd neu faterion personol. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 104

Safon Uwch ABB-BCC with B in Biology

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|